Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Heddiw, rydym yn dathlu cyflawniadau ac arweinyddiaeth pobl anabl ledled Cymru ac yn fyd-eang. Ers i'r Cenhedloedd Unedig gydnabod y diwrnod hwn am y tro cyntaf yn 1992, mae 3 Rhagfyr wedi bod yn gyfle pwerus i dynnu sylw at gyfraniadau cymunedau anabl ledled y byd.
Mae'r thema eleni – 'Ymhelaethu ar arweinyddiaeth pobl anabl ar gyfer dyfodol cynhwysol a chynaliadwy' – yn tanlinellu neges hanfodol, sef nad yw cynhwysiant anabledd yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol yn unig, mae'n cyfoethogi ein cymdeithas gyfan.
Fel cyd-gadeirydd gyda'r Athro Debbie Foster o'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut mae pobl anabl nid yn unig yn gyfranogwyr, ond yn arweinwyr sy'n sbarduno newid ystyrlon hefyd.
Mae ein dull cydweithredol o weithio wedi rhoi'r rhai sydd â phrofiad bywyd ar flaen y gad o ran llunio polisïau.
Yn gynnar yng ngwanwyn 2025, byddwn yn lansio cynllun gweithredu cynhwysfawr ar Anabledd a gyd-gynhyrchwyd gyda phobl anabl. Bydd y cynllun yn seiliedig ar waith deg gweithgor:
- Ymgorffori a Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd
- Mynediad at Wasanaethau (gan gynnwys Cyfathrebu a Thechnoleg)
- Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol
- Cyflogaeth ac Incwm
- Teithio
- Byw'n Annibynnol: Iechyd
- Plant a phobl ifanc
- Tai Fforddiadwy a Hygyrch
- Mynediad at Gyfiawnder
- Llesiant
Mae'r cynllun hwn yn cydnabod Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel hawl ieithyddol ac yn ymrwymo i chwalu rhwystrau. Ar 21Tachwedd, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar ddatblygu polisi BSL.
Rydym yn cymryd camau pendant i drawsnewid ein dull o ymdrin ag anabledd. Bydd Anabledd Cymru yn darparu hyfforddiant arbenigol ar y model cymdeithasol o anabledd i Ysgrifenyddion a Gweinidogion y Cabinet. Ein hymrwymiad trawslywodraethol yw herio stereoteipiau, cael gwared ar rwystrau, a sicrhau bod pawb yn gallu cyfranogi'n llawn.
Mae'r Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i gefnogi pleidiau gwleidyddol i ddatblygu a chyhoeddi Strategaethau Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer holl etholiadau Cymru, gan gynnwys cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr y Senedd. Mae'r canllawiau hyn yn rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau i wneud y Senedd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif, ac yn fwyaf penodol i wneud democratiaeth yng Nghymru yn fwy cynrychioliadol ac amrywiol, ar lefel leol ac ar lefel y Senedd. Roeddwn yn falch o lansio'r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft ar 12 Tachwedd, ac rydym yn gwahodd sylwadau ar y drafft tan 7 Ionawr. Roeddwn hefyd yn falch o fynychu Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol ar Hawliau Dynol, sy'n is-bwyllgor o aelodau o'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y camau nesaf i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae’r Gweithgor annibynnol hwn yn profi dull i ddadansoddi erthyglau'r cytuniad ar sail hawliau i ganfod beth y gellir ei gyflawni drwy ddeddfwriaeth Cymru. Mae'r gwaith yn newydd ac yn gymhleth, ac mae angen ei ddadansoddi'n ofalus. Bydd y Gweithgor yn adrodd am gynnydd i'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol maes o law.
Wrth inni nodi'r diwrnod hwn, mae ein neges yn glir: mae Cymru wedi ymrwymo i greu cymdeithas sydd wir yn gwerthfawrogi ac yn grymuso pob unigolyn, ni waeth beth fo'i amhariad.
Diolch i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith hwn am eich cefnogaeth barhaus.