Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Dylai hawliau merched a genethod cael eu hyrwyddo bob dydd, ond ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiweddaru'r Aelodau ar y camau gweithredu ar draws y portffolio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn adeiladu cymdeithas deg a chyfartal i bawb.
Yn gyntaf oll, fel Llysgennad Rhuban Gwyn, rwyf yn falch o fod yn rhan o'r mudiad byd-eang i ddileu trais yn erbyn merched a genethod. Cafodd Ddeddf Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015. Mae'n ddarn pwysig o ddeddfwriaeth, mae'r gyfraith yn cyntaf o'i fath yn y DU.
Mae gwaith da yn cael ei wneud gyda gweithredu’r Ddeddf, gan gynnwys penodi'r Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf ar gyfer Trais yn erbyn Merched, Rhian Bowen-Davies, cyhoeddi’r canllawiau statudol ar ein Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a "Gofyn a Gweithredu" a nifer o ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth sydd wedi ennill gwobrau. Rydym yn parhau i weithio gyda sefydliadau yn y trydydd sector sy'n gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr, i ddatblygu ein hymagwedd ar y cyd.
Rydym hefyd yn gweithio i ddileu enwaedu merched, priodasau dan orfod a thrais yn seiliedig ar anrhydedd, gan ganolbwyntio ar newid diwylliannol tymor hir cynaliadwy i fynd i'r afael â materion o'r fath.
Fel rhan o’n gweithgareddau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Merched, bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd a NSPCC Cymru a BAWSO yn cynnal digwyddiad ieuenctid ‘DECHREUWCH SGWRS! Mae newid yn dechrau gydag un llais’. Y nôd yw annog a chefnogi pobl ifanc, fel arweinwyr y dyfodol, i gyfrannu at y mudiad ieuenctid byd-eang ar hawliau merched. Bydd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar sut y gall pobl ifanc gefnogi symudiad i roi diwedd ar arferion niweidiol megis enwaedu merched a thrais yn seiliedig ar anrhydedd.
Rwyf yn falch bod pob Awdurdod Lleol yng Nghymru bellach wedi rhoi trefniadau cyflog statws sengl mewn lle ar gyfer dynion a merched, gan ddatrys problemau hirsefydlog o ôl-daliadau iawndal ar gyfer y merched hynny yr effeithir arnynt.
Fodd bynnag, mae materion sydd angen sylw o hyd. Mae ymchwil yn awgrymu bod merched yn cyfrif am 60% o'r rhai sy'n ennill llai na'r Cyflog Byw felly mae’n bwysig bod cyrff cyhoeddus yn ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw i weithwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr achredig Cyflog Byw ac mae holl weithwyr y GIG yng Nghymru wedi cael eu talu'r Cyflog Byw ers mis Ionawr 2015
Yn yr un modd, mae ymchwil ar draws y DU gyfan ac yng Nghymru yn awgrymu bod merched yn cael eu cyflogi yn ehangach na dynion ar gontractau heb warant neu sero awr mewn gwasanaethau cyhoeddus. Gan weithio gyda'r Cyngor Partneriaeth Gweithlu a'r Comisiwn Staff i’r Gwasanaethau Cyhoeddus rydym yn parhau i archwilio sut i gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau heblaw lle gallant gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy arferion cyflogaeth da 21ain ganrif.
Maes arall lle mae cynnydd yn cael ei wneud yw mewn cynrychiolaeth gyfartal ar gyrff etholedig a byrddau yn y sector cyhoeddus. Rwyf yn falch fod proses agored o recriwtio ar gyfer penodi i Gomisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus wedi arwain at Brif Weithredwr benywaidd, Cadeirydd benywaidd, yn ogystal â 2 aelod benywaidd pellach, gyda cydbwysedd cydraddoldeb rhywiol 50/50. Mae cydraddoldeb rhywiol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru hefyd wedi cael ei wella drwy benodiadau agored yn ddiweddar.
O ran cyrff etholedig, mae'r prosiect Amrywiaeth mewn Democratiaeth wedi’i anelu at gynyddu nifer o ferched, pobl ifanc a grwpiau lleiafrifol sy'n dewis i sefyll yn etholiadau llywodraeth leol yn 2017. Mae'r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, pleidiau gwleidyddol, cynghorwyr a rhwydweithiau cydraddoldeb i godi ymwybyddiaeth o lywodraeth a chynyddu'r cyfleoedd lleol i ferched a genethod drwy leihau a chael gwared ar rwystrau.
Elfen allweddol y prosiect yw y rhaglen fentora. Hyd yn hyn mae 46 o fentoreion, gan gynnwys 34 o ferched, wedi cael eu paru gyda chynghorydd yn eu hardal, gan roi'r cyfle i gysgodi cynghorwyr wrth eu gweithgareddau dyddiol. Mae mentoriaid a mentoreion yn cael mynediad at arweinyddiaeth gynhwysfawr a hyfforddiant datblygu personol, a ddarperir gan bartneriaid prosiect fel Academi Cymru.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r mentoriaid am eu cefnogaeth, eu cyfraniad yn amhrisiadwy. Mae rhai llwyddiannau cynnar, er enghraifft, un sy'n cael ei fentora wedi’i dewis yn ddiweddar i sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae hi wedi dweud mai bod yn rhan o'r rhaglen fentora rhoddodd yr hyder iddi gymryd y cam hwn.
Mae yna hefyd ymgyrch gyhoeddusrwydd, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a clipiau fideo, wedi ei anelu at gynyddu proffil rôl cynghorydd llywodraeth leol. Mae'n rhan hanfodol o'r ymdrech i sicrhau bod cynghorau fydd yn cael eu hethol y flwyddyn nesaf yn adlewyrchu eu hetholwyr yn agosach, yn arbennig drwy wella’n sylweddol y cydbwysedd rhwng y rhywiau.