Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn effeithio ar dros 200 miliwn o fenywod a merched ar draws y byd. Mae'n mynegi'r anghydraddoldeb sy'n bodoli rhwng y rhywiau ac mae ei ganlyniadau pellgyrhaeddol yn cynnwys poen cronig, gwaedu, heintiau rheolaidd ac anffrwythlondeb.
Mae'r arfer o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn deillio o gamdybiaethau ynghylch benyweidd-dra, glendid a theilyngdod priodasol. Nid rhywbeth sy'n digwydd mewn gwledydd eraill yn unig yw hyn; ar amcangyfrif, mae 137,000 o fenywod a merched yn y DU wedi goddef cael anffurfio eu horganau cenhedlu*. Yn ein Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, gwnaethom ymrwymo i herio agweddau diwylliannol y mae’r arferion traddodiadol niweidiol hyn yn gallu bod yn seiliedig arnynt. Rydym yn gwneud hyn drwy weithio gyda gwasanaethau arbenigol ar drais yn erbyn menywod ymhlith Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, a'u cefnogi.
Mae hi hefyd yn Wythnos Ymwybyddiaeth Cam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol. Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y wlad ac rydw i'n rhoi cyflwyniad heddiw yn y gynhadledd yng Ngwent ar thema Ysbrydoli Newid: Trais Rhywiol, VAWDASV a Diogelu.
Mae Trais Rhywiol wedi’i seilio ar wahaniaethau mewn grym ac ar anghydraddoldeb. Er na ddylem byth anwybyddu'r ffaith bod dynion a bechgyn yn profi trais a cham-drin rhywiol, menywod a merched yw mwyafrif llethol y dioddefwyr. Yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017, roedd 83% o ddioddefwyr troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu yn fenywod, ac roedd 88% o'r rhai a gawsant eu treisio yn fenywod**
Os nad ydym yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ar sail rhywedd drwy godi ymwybyddiaeth o'r troseddau hyn, ac yn herio'r agweddau sy'n arwain atynt, ni fyddwn byth yn eu dileu. Pan wnaethom lansio ein hymgyrch 'Paid cadw'n dawel', fe wnaethom hynny drwy ddefnyddio'r hashnod "CymruYnErbynTrais". Rydw i'n galw ar Aelodau'r Cynulliad i sefyll gyda’i gilydd ac i ymrwymo i'r datganiad hwnnw yn y frwydr i ddiddymu’r achosion hyn o niweidio.
* Macfarlane, A. (2015) Prevalence of female genital mutilation in England and Wales: National and local estimates, 2015, City University Llundain.
** Troseddau rhywiol yng Nghymru a Lloegr: y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017, ONS.