Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wrth inni ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, rydym hefyd yn nodi tair blynedd ers cyhoeddi strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, sef Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
Mae’r datganiad hwn yn nodi’n fanwl y cynnydd sylweddol rydym wedi’i wneud i wella’r gofal a’r cymorth i bobl sy’n byw â salwch meddwl yng Nghymru. Wrth dynnu sylw at rai o’r llwyddiannau, rwyf hefyd am nodi fy niolch i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol am eu cyfraniadau i’r llwyddiant hwn.
Pan gyhoeddwyd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn 2012, dangosodd yn glir mai’r unig ffordd o wella iechyd meddwl a lles oedd drwy ymdrech ac ymrwymiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid.
Mae’r strategaeth wedi’i chefnogi gan gynllun cyflawni, sy’n nodi’r camau gweithredu manwl sydd eu hangen i wella gwasanaethau a chanlyniadau. Bwriad y cam gweithredu cyntaf yn y cynllun cyflawni yw sicrhau y caiff lles meddwl yr un flaenoriaeth â lles corfforol wrth ddatblygu a chyflawni rhaglenni polisi a gwasanaethau.
Mae cydraddoldeb parch ag iechyd corfforol, yn ogystal ag annog lles emosiynol; darparu gwasanaethau effeithiol yn gynnar, a sicrhau bod pobl sydd angen gwasanaethau arbenigol yn cael y gofal a’r driniaeth o’r safon uchaf hefyd wrth wraidd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Mae’r darn unigryw ac arloesol hwn o ddeddfwriaeth yn ganolog i Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a dyma’r fframwaith cyfreithiol y byddwn yn ei ddefnyddio i barhau i wella iechyd meddwl yng Nghymru. Dechreuwyd y gwasanaethau fel sy’n ofynnol dan y Mesur yn raddol ym mis Ionawr 2012, ac maent wedi cael cymorth ariannol rheolaidd o £5m o 2012-13 ymlaen.
Cyflwynodd Cymru amseroedd aros am asesiad a thriniaeth gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn 2012. O fis Ebrill 2013 hyd fis Mawrth 2015 roedd perfformiad Cymru gyfan yn erbyn ein targed o 28 diwrnod ar gyfer cael atgyfeiriad at asesiad wedi gwella o 50% i dros 80%. Mae ein perfformiad yn erbyn y targed o 56 diwrnod o’r asesiad i’r driniaeth hefyd wedi gwella o 82% i 87%. O’r mis hwn, byddwn yn newid y targed 56 diwrnod i darged 28 diwrnod i sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at driniaeth.
Mae arian penodol wedi’i glustnodi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ers 2008-09 er mwyn amddiffyn a gwella gwasanaethau craidd; ehangwyd hyn yn 2010-11 i gynnwys gwasanaethau arbenigol a gwariant ar ofal sylfaenol. Mae’n darparu trothwy na ddylai’r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl syrthio islaw iddo, ac mae’n rhaid ailfuddsoddi unrhyw arbedion mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Rydym wedi ymrwymo i barhau i glustnodi’r arian hwn a byddwn yn ystyried yn ofalus yr adolygiad diweddar gan PriceWaterhouseCoopers, sy’n cynnwys argymhellion pwysig ynghylch sut y gallwn gysylltu buddsoddiad mewn gwasanaethau yn well â chanlyniadau.
Eleni, y gyllideb ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yw £587m, cynnydd o’r swm yn 2009-10 sef £389 miliwn. Mae hyn yn cyfateb i 11.4% o gyfanswm cyllideb y GIG – maes gwariant unigol mwyaf y GIG.
Eleni, rwyf wedi cyhoeddi arian rheolaidd ychwanegol o £15.6m ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Bydd hyn yn gwneud gwelliannau pellach i nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) a gofal dementia, gan sicrhau bod pobl sydd angen gofal a chymorth yn cael y gwasanaethau cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir.
Bydd bron hanner yr arian – £7.6m – yn cael ei fuddsoddi yn CAMHS, sy’n gynnydd o 18% i’w gyllid. Bydd yn cael ei dargedu i’r meysydd canlynol:
- £2m i ddatblygu gwasanaethau niwro-ddatblygol, gan gynnwys Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Mae nifer sylweddol o’r atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol CAMHS yn ymwneud â phlant ag awtistiaeth neu ADHD er nad ydynt yn bodloni meini prawf CAMHS ar gyfer triniaeth. Gall hyn arwain at oedi cyn cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, ac arafu mynediad at wasanaethau arbenigol CAMHS ar gyfer y rheini sydd angen y gwasanaeth hwn;
- £2.7m i wella ymateb y tu allan i oriau ac mewn argyfwng CAMHS;
- £1.1m i ehangu mynediad at therapïau seicolegol ar gyfer pobl ifanc;
- £800,000 i wella gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol;
- £250,000 i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol;
- £800,000 i fynd i’r afael ag anghenion pobl ifanc sy’n dioddef o salwch difrifol yn gynnar, megis seicosis. Bydd hyn yn golygu y gall y gwasanaeth gefnogi pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.
Ym mis Chwefror, fe lansiais Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, sef rhaglen newid a datblygu gwasanaeth CAHMS dan arweiniad y GIG. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r fenter hon ac mae wedi gofyn i’r Athro y Fonesig Sue Bailey, cadeirydd yr Academi Colegau Meddygol Brenhinol, roi cyngor a chymorth.
Bu dros 100% o gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol CAMHS dros y pedair blynedd diwethaf, ond nid oedd gan draean o’r plant a atgyfeiriwyd salwch meddwl, ac roedd gan draean arall anawsterau lefel isel nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer triniaeth gan wasanaethau arbenigol. Bwriad Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yw sicrhau y gall CAMHS roi’r gefnogaeth gywir i’r plant a’r bobl ifanc hynny â phroblemau iechyd meddwl difrifol sydd angen gofal arbenigol CAMHS a datblygu systemau atgyfeirio priodol ar gyfer y plant hynny â phroblemau llai difrifol.
Cyhoeddais hefyd £5.5m ychwanegol ar gyfer gofal iechyd meddwl pobl hŷn o eleni ymlaen, sy’n cynnwys:
- £240,000 ar gyfer nyrsys cyswllt dementia;
- £800,000 ar gyfer 32 o weithwyr cymorth gofal sylfaenol newydd i ddarparu cymorth a gwybodaeth wyneb yn wyneb i gleifion a’u teuluoedd;
- £4.05m ar gyfer gwasanaethau i wella gofal pobl hŷn mewn ysbytai a datblygu gwasanaethau cyswllt seiciatrig;
- £500,000 ar gyfer cymorth therapi galwedigaethol mewn unedau iechyd meddwl pobl hŷn i wella gweithgarwch dyddiol ac ansawdd y gofal. Mae hyn mewn ymateb uniongyrchol i’r canfyddiadau o hapwiriadau dirybudd wardiau iechyd meddwl.
Rydym wedi buddsoddi £1.9m arall i gefnogi triniaethau siarad i oedolion a £1.5m i wella’r gofal a’r canlyniadau i fenywod â salwch amenedigol, eu babanod a’u teuluoedd. Bydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gwasanaethau yn y gymuned, ac fe fydd yn rhan bwysig o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, sy’n gysylltiedig â’r agenda trechu tlodi.
Rhoddwyd £3m arall i sefydliadau gwirfoddol er mwyn darparu prosiectau iechyd meddwl ar draws Cymru dros y tair blynedd nesaf. Mae’r sefydliadau hyn yn chwarae rhan bwysig i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl, ac fe fydd y prosiectau’n darparu gwasanaethau sy’n ategu’r rhai sy’n cael eu cyflawni gan GIG Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i ariannu ymgyrch Amser i Newid Cymru. Bydd ail gam yr ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth, chwalu mythau ac ystrydebau, ac yn herio stigma a chamwahaniaethu ar draws Cymru.
Rydym yn gweithio i ddatblygu ail gynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a fydd yn cwmpasu 2016-19. Mae’r blaenoriaethau, a fydd yn destun ymgynghoriad â’r cyhoedd, yn cael eu datblygu mewn partneriaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a rhanddeiliaid. Ac, am y tro cyntaf, byddant yn cael eu mapio yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rydym hefyd yn datblygu set ddata graidd ar iechyd meddwl. Mae cam cyntaf y gwaith, sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi’i ryddhau fel cynllun peilot ac fe fydd yn cael ei brofi drwy ei ryddhau fesul cam i bob bwrdd iechyd. Rydym hefyd yn falch o fod wedi datblygu set o ganlyniadau o safbwynt y defnyddiwr gwasanaethau, gan weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau o bob cwr o Gymru.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth wella’r gwasanaethau, y gofal a’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n dioddef salwch meddwl yn ystod y Cynulliad hwn. Wrth i ni ddatblygu’r cynllun cyflawni nesaf ar gyfer Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, bydd iechyd meddwl a gwella’r canlyniadau ar gyfer yr un o bob pedwar ohonom sydd wedi’i effeithio gan salwch meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon.