Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Heddiw mae'n ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd - cyfle i godi ymwybyddiaeth, edrych ar ein cynnydd ac ystyried ein camau nesaf i wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Mae gwella iechyd meddwl a llesiant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi, ac i Lywodraeth Cymru fel un o'n blaenoriaethau trawsbynciol yn ein Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb.

Thema'r Diwrnod Iechyd Meddwl eleni yw atal hunanladdiad. Rydym yn gwybod bod yr hyn sy'n achosi hunanladdiad yn gymhleth, ond rydym hefyd yn gwybod bod modd atal sawl hunanladdiad drwy roi sylw cynnar i'r ffactorau risg. Yn anffodus, mae achosion o hunanladdiad wedi effeithio ar nifer ohonom ni, ond drwy godi ymwybyddiaeth am y ffactorau risg a'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu, gall pob un ohonom gyfrannu at y gwaith o'i atal.

Yn gynharach eleni, cyhoeddais £500k ychwanegol i helpu i roi camau ar waith i atal hunanladdiad. Mae'r buddsoddiad hwn yn adeiladu ar ein gwaith i weithredu ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed - Siarad â Fi 2. Mae'n seiliedig ar ein strategaeth ehangach a'n buddsoddiad i wella gwasanaethau iechyd meddwl. Eleni yn unig, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r cyllid o ryw £35 miliwn, rhywfaint ohono wedi'i dargedu i gefnogi meysydd blaenoriaeth allweddol gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned, gwasanaethau y tu allan i oriau ac argyfwng, a gwasanaethau iechyd meddwl plant. Rydym yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r GIG, gyda'r cyllid sydd wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl bellach yn £679 miliwn.

Mae'r ymrwymiad parhaus hwn i wella gwasanaethau iechyd meddwl wedi arwain at fanteision gwirioneddol i gleifion a'u teuluoedd, er enghraifft sefydlu timau ymyrraeth mewn argyfwng yn y gymuned i oedolion a CAMHS, y gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol newydd yn y gymuned sy'n darparu cymorth ar draws pob rhan o Gymru, ein sylw i gymorth cymunedol sydd wedi gostwng nifer yr achosion o dderbyn i'r ysbyty a'n buddsoddiad sydd wedi gostwng amseroedd aros yn sylweddol i blant a phobl ifanc gyrraedd at gymorth arbenigol. Mae'n bwysig cydnabod y gwaith a wnaed i gyflawni'r cerrig milltir hyn gan y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau bod gwelliannau pellach yn cael eu llunio gan y rhai sy'n adnabod y gwasanaeth orau, yn ddiweddar fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar y trydydd Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Bydd y cynllun yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2019 a 2022, ac yn gosod y camau y byddwn ni, a'n partneriaid, yn eu cymryd dros y tair blynedd nesaf i wella iechyd meddwl a'n harwain at ddiwedd cyfnod 10 mlynedd Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Roedd y strategaeth yn anfon neges glir bod rhaid cael ymdrech ac ymrwymiad cyson ar draws Adrannau Llywodraeth Cymru ac ar draws amrywiol bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau gwelliannau i iechyd meddwl a llesiant. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r ysgogiadau ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant yn gorwedd y tu hwnt i'r maes iechyd, ac mae'r cynllun cyflawni drafft yn gosod mwy o bwyslais ar y ffactorau diogelu hyn – fel swyddi, addysg a thai.

Datblygwyd y cynllun drafft mewn trafodaethau gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau, ac fe gafodd ei lunio i ymateb i ymchwiliadau Pwyllgorau’r Cynulliad ac adroddiadau cysylltiedig. Mae'n gosod chwe maes blaenoriaeth yn seiliedig ar bedair ffrwd waith.

Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnwys digwyddiadau ymgynghori ar draws Cymru, gweithdai a holiadur ar-lein. Daeth dros 240 o ymatebion ysgrifenedig i law, a bu dros 150 o bobl yn bresennol mewn tri digwyddiad ymgynghori ffurfiol yng Nghaerdydd, Llandudno a Chaerfyrddin. Mae'r gyfradd ymateb hon yn adlewyrchu'r diddordeb sydd gan randdeiliaid mewn sicrhau ein bod ni'n cael y ddarpariaeth iechyd meddwl yn iawn, ac fe hoffwn i ddiolch i bawb a roddodd eu hamser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Bydd y gwaith hwn yn llywio ein dull gweithredu, ac mae gwaith yn mynd rhagddo nawr i gryfhau'r cynllun mewn ymateb i'r adborth. Er y bydd manylion yr adborth yn cael eu cynnwys mewn adroddiad ymgynghori ar wahân, hoffwn dynnu sylw at rai o'r prif themâu sydd wedi bod yn amlwg drwy gydol y broses ymgynghori.

Yn bwysig iawn, roedd cefnogaeth i'r meysydd blaenoriaeth a'r pwyslais ar gefnogi plant a phobl ifanc. Roedd cefnogaeth hefyd i ganolbwyntio ar atal, ond roedd yr ymatebion yn dweud yn glir bod rhaid i'r cynllun wneud mwy i adlewyrchu'r gwaith ehangach ar yr hyn sy'n ein cadw'n iach - er enghraifft ymdeimlad cryf o gymuned, ffordd iach o fyw a mynediad at fannau gwyrdd. Roedd pobl hefyd yn teimlo bod modd datblygu'r cydbwysedd rhwng mesurau atal a gwella gwasanaethau iechyd meddwl, ac mae fy swyddogion yn ystyried newidiadau i adlewyrchu hyn.

Roedd ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd yn dangos bod rhanddeiliaid am i'r data sy'n cael eu casglu am wasanaethau iechyd meddwl adlewyrchu canlyniadau i unigolion yn ogystal â mesurau perfformiad. Mae'r gwaith o ddatblygu cyfres ddata graidd ar iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn mynd rhagddo wrth ochr y gwaith o baratoi cynllun cyflawni. Bydd yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio canlyniadau i gleifion, gan gynnwys profiadau defnyddwyr gwasanaethau, i helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau yn y dyfodol.

Er bod ein gwaith trawslywodraethol yn cael ei groesawu, yn arbennig ein gwaith gyda'r adran Addysg ar Ddull Ysgol Gyfan, rydym am sicrhau bod yr holl waith ar draws Adrannau Llywodraeth Cymru i wella ac amddiffyn iechyd meddwl a llesiant yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun terfynol fydd yn cael ei gyhoeddi.    

Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth pan fydd y cynllun cyflawni'n cael ei gyhoeddi.