Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2016, rwyf am bwysleisio unwaith yn rhagor ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr: y gwŷr, gwragedd, rhieni, plant, perthnasau, cyfeillion, a chymdogion hynny sy’n darparu gofal amhrisiadwy yn ddi-dâl i rai o’r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Fel llywodraeth, rydym yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae’r gofalwyr hyn yn ei chwarae ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ers amser maith i wella bywydau gofalwyr. Yn 2000, cyhoeddwyd ein Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yng Nghymru, a oedd yn creu fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau a chymorth i ofalwyr. Ddeng mlynedd wedi hynny, cafodd Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 ei gyflwyno er mwyn gwella’r cymorth sydd ar gael iddynt yn lleol. Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ddeddf flaengar a oedd yn caniatáu inni adeiladu ar y gwaith a oedd eisoes wedi ei gyflawni a chryfhau ein hymrwymiad i gefnogi gofalwyr.
Thema Diwrnod Hawliau Gofalwyr eleni yw ‘Colli allan? Gwybod eich hawliau fel gofalwyr’, ac mae’n gyfle amserol i sicrhau bod pobl yn gwybod sut mae’r Ddeddf yn gwella hawliau gofalwyr. Nawr, am y tro cyntaf, mae gan ofalwyr yr un hawl i gael asesiad a chymorth ag sydd gan yr unigolion y maent yn gofalu amdanynt. Bellach, nid oes angen i ofalwyr ddangos eu bod yn darparu gofal sylweddol er mwyn cael asesiad o’u hanghenion, sy’n golygu y bydd mwy o unigolion yn gallu cael eu cydnabod fel gofalwyr a manteisio ar y cymorth sydd ar gael iddynt – rhywbeth sy’n fater o bwys i’r gymuned ofalu. Yn y gorffennol, cyfrifoldeb y gofalwr oedd gwneud cais am asesiad, ond bellach mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gymryd camau pendant i roi gwybod i ofalwyr am eu hawl i gael eu hasesu, fel nad oes neb yn colli’r cyfle y mae ganddo hawl iddo. Ar ôl cwblhau’r asesiad, os bydd y gofalwr yn gymwys, bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol ddiwallu unrhyw anghenion sydd wedi eu nodi, a rhoi cynllun gofal statudol ar waith. Rydym yn gwybod y gallai fod yn anodd i ofalwyr ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor priodol, a dyna pam mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol ar gael yn hawdd, a bod gofalwyr yn gwybod sut i gael gafael arni.
Mae’r ethos atal ac ymyrryd yn ganolog i’r Ddeddf. Mae hynny’n golygu rhoi’r camau angenrheidiol yn eu lle i gynorthwyo unigolion cyn i’w sefyllfa waethygu. Mae gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol yn hynny o beth drwy alluogi’r unigolion y maent yn gofalu amdanynt i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain ac yn eu cymunedau eu hunain, drwy gynnal eu hannibyniaeth a’u hurddas. Rydym yn cydnabod y straen y mae gwneud hyn yn gallu ei achosi, a dyna pam mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod ystod o wasanaethau ataliol ar gael i gynorthwyo unigolion a’u gofalwyr.
Fel llywodraeth, rydym yn gwybod mai’r unig ffordd o wireddu ein huchelgais ar gyfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yw trwy integreiddio’r hyn a gynigir a gweithio mewn partneriaeth. Sefydlwyd saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol, gyda’r aelodau’n cael eu tynnu o’r awdurdodau lleol, y byrddau iechyd, a’r trydydd sector. Mae’n rhaid i ofalwyr hefyd gael eu cynrychioli ar bob bwrdd, er mwyn sicrhau bod eu safbwynt bob amser yn ganolog i’r agenda. Fel blaenoriaeth, gofynnir i’r byrddau gydweithio er mwyn asesu faint o unigolion sydd angen gofal a chymorth, a faint o ofalwyr, yn eu poblogaethau hwy. Bydd hynny’n eu helpu i greu’r strwythurau a’r adnoddau priodol ar gyfer darparu gwasanaethau integredig ac effeithiol, sydd wedi eu targedu’n gywir at yr unigolion cywir.
Er bod y Ddeddf yn gwella hawliau gofalwyr yng Nghymru yn fawr, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod yr hyn y mae’r awdurdodau lleol, y byrddau iechyd, a’r trydydd sector eisoes wedi ei gyflawni o dan y Mesur Gofalwyr, megis gweithio i sicrhau bod materion sy’n ymwneud â gofalwyr yn cael eu prif-ffrydio; sicrhau bod gofalwyr yn cael eu hadnabod yn gynharach; a grymuso gofalwyr i wneud penderfyniadau. Mae £2 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer y ddwy flynedd nesaf i helpu gyda’r gwaith o ymgymryd â’r dyletswyddau sydd wedi gwella’n sylweddol i gynorthwyo gofalwyr, fel sy’n cael eu cyflwyno o dan y Ddeddf.
Ar hyn o bryd, rydym yn adnewyddu ein Strategaeth ar gyfer Gofalwyr er mwyn adlewyrchu’r hawliau gwell sydd wedi eu rhoi iddynt, ac i nodi’r prif feysydd blaenoriaeth a’r camau gweithredu y mae angen eu cymryd i’w cefnogi. Bydd hon yn strategaeth sy’n cael ei datblygu ar y cyd â rhwydweithiau a sefydliadau gofalwyr, yn ogystal â’r gofalwyr eu hunain. O ganlyniad, bydd ymdeimlad o gydberchnogaeth yn cael ei greu a gallwn sicrhau ein bod yn ymdrin â’r materion sydd o bwys iddynt. Mae’r gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod am gael eu cydnabod am y gwaith y maent yn ei wneud; maent yn awyddus i sicrhau ei bod yn hawdd cael gafael ar yr wybodaeth a’r cymorth priodol; ac maent am gael cymorth i gael bywyd y tu allan i’w rôl fel gofalwr, gan gynnwys y cyfle i fanteisio ar ofal seibiant. Byddwn yn datblygu amrywiaeth o gamau gweithredu ar gyfer mynd i’r afael â’r meysydd blaenoriaeth hyn, gan gynnwys ymchwilio i’r posibilrwydd o ddarparu cardiau adnabod i ofalwyr ifanc a sefydlu dulliau gweithredu cenedlaethol ar gyfer darparu gofal seibiant. Mae cyfoeth o arbenigedd a phrofiad yn ein sefydliadau, cyrff cyhoeddus a chymunedau, y gallwn adeiladu arno er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn cael y cymorth angenrheidiol. Bydd ein hymgynghoriad ffurfiol ar y strategaeth wedi ei hadnewyddu yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd.
Ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch ar goedd i ofalwyr ym mhob rhan o Gymru am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i wella bywydau’r unigolion y maent yn gofalu amdanynt, a hoffwn eu hannog i ymarfer eu hawliau er mwyn cael y cymorth y mae ganddynt yr hawl iddo.