Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Heddiw yw Diwrnod Hawliau Gofalwyr. Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol pwysig i gydnabod y cyfraniad aruthrol y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud i'n cymdeithas. Y thema eleni yw 'Deall Eich Hawliau'. Rwy'n falch o gael cyfle yr wythnos hon i gyfarfod â gofalwyr di-dâl yn y Ganolfan newydd i Ofalwyr yn Abertawe yn ogystal â bod yn bresennol mewn digwyddiadau yn y Senedd sydd wedi'u trefnu gan Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i nodi'r achlysur.
Mae ein hymrwymiad i hawliau gofalwyr wedi'i amlinellu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae ein Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl hefyd yn tynnu sylw at hawliau gofalwyr di-dâl. Mae ymchwil diweddar wedi canfod y gallai un o bob chwech o'r boblogaeth yng Nghymru fod yn ofalwr di-dâl. Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod y gofal y maent yn ei roi i deulu a ffrindiau ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu yn eu rôl. Ers 2022, rydym wedi dyrannu £42 miliwn i helpu gofalwyr di-dâl a byddwn yn parhau i dargedu ein cymorth yn y meysydd lle caiff yr effaith fwyaf.
Un o'r camau cyntaf pwysicaf yw i bobl ddeall eu bod yn ofalwyr di-dâl fel y gallant gael gafael ar yr wybodaeth, y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Rydym yn gwybod bod meysydd i'w gwella er mwyn sicrhau bod y cymorth a amlinellir yn y Ddeddf yn gyson ac yn hawdd i ofalwyr ledled Cymru gael gafael arno. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau gofalwyr i gynnal arferion gorau.
I ofalwyr di-dâl, rydym yn gwybod bod sicrhau cydbwysedd rhwng darparu gofal a gofalu am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain yn allweddol. Mae ein Cynllun Seibiant Byr gwerth £9 miliwn yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ac mae ar y trywydd i fod wedi darparu 30,000 o gyfleoedd seibiant byr yn ystod cyfnod o dair blynedd erbyn mis Mawrth 2025.
Rydym yn awyddus i fwy o ofalwyr allu cynnal cydbwysedd rhwng gweithio a'u cyfrifoldebau gofalu. Rwy'n croesawu cyflwyno Deddf Absenoldeb i Ofalwyr (2023). Mae'r ddeddfwriaeth hon wedi sicrhau hawliau cyflogaeth newydd er mwyn galluogi gofalwyr i gymryd absenoldeb di-dâl ac mae'n gam cyntaf pwysig o ran rhoi mwy o gydnabyddiaeth i ofalwyr yn y gweithle.
Rwyf hefyd yn croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ynglŷn â'r adolygiad annibynnol o ran gordaliadau Lwfans Gofalwyr a'r cynnydd yn y terfyn enillion uchaf ar gyfer y taliad o fis Ebrill nesaf ymlaen. Mae'r newidiadau hyn yn gamau hanfodol ar gyfer helpu gofalwyr yn well a sicrhau eu bod yn cael y budd-daliadau y maent yn deilwng ohonynt.
Yn aml, mae gofalwyr di-dâl o dan bwysau ariannol ac rydym yn awyddus iddynt hawlio eu hawliau ariannol. Gwnaeth ein hymgyrch genedlaethol ddiweddaraf i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau helpu bron i 37,000 o bobl i hawlio incwm ychwanegol gwerth dros £10.4 miliwn.
Rydym wedi ymrwymo £4.5 miliwn i'n Cronfa Cymorth i Ofalwyr. Mae'r gronfa hon yn helpu gofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau sylfaenol hanfodol a chael gafael ar wybodaeth a chyngor. Nid oedd bron i hanner y rhai a fanteisiodd ar y gronfa hon yn hysbys i wasanaethau yn flaenorol ac maent wedi'u cyfeirio at gyngor ariannol a gwasanaethau cymorth lleol. Roeddwn yn falch o fod yn bresennol yr wythnos hon mewn digwyddiad a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a chael cyfle i siarad â gofalwyr di-dâl am fanteision y cynllun hwn.
Mae'n hanfodol bod yr holl ofalwyr di-dâl yn teimlo eu bod yn fwy hyderus i hawlio eu hawliau ac i allu cynnal bywyd cytbwys ochr yn ochr â'u rôl ofalu.