Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bob blwyddyn, rwy’n dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr, gan gydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae yng Nghymru.

Gall gofalwyr di-dâl fod wedi ymddeol, mewn cyflogaeth, yn gofalu’n llawn amser neu yn yr ysgol neu’r coleg – mae Carers UK yn amcangyfrif y bydd dau o bob tri oedolyn yn ofalwyr yn ystod eu bywyd. Mae’n hollbwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr fel bod pawb sydd â chyfrifoldebau gofalu yn gallu blaenoriaethu eu hanghenion eu hunain ochr yn ochr â gofalu.

I godi ymwybyddiaeth ac i annog trafodaethau ynghylch gofalu, yn gynharach eleni lansiais y Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Datblygwyd y siarter gyda gofalwyr di-dâl, cyrff statudol a’r trydydd sector, ac mae’n helpu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i gael dealltwriaeth well o hawliau gofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb, ond mae gofalwyr di-dâl yn arbennig o agored i deimlo’r wasgfa. Rwyf wedi rhoi £4.5 miliwn i barhau ein cronfa lwyddiannus, y Gronfa Gymorth i Ofalwyr, dros dair blynedd. Ers i’r gronfa gael ei sefydlu yn 2020, mae mwy na 10,000 o ofalwyr di-dâl wedi cael mynediad at grant bychan neu wybodaeth a chyngor drwy’r gronfa hon. Cyn sefydlu’r gronfa roedd bron i draean y buddiolwyr yn anhysbys i wasanaethau. Bydd ailagor y gronfa eleni yn sicrhau bod mwy o ofalwyr yn gallu cael mynediad at help ariannol ar unwaith neu gymorth parhaus i reoli eu rôl gofalu.

Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac mae ceisiadau bellach ar agor Rhaglen Cronfa Cymorth Gofalwyr - Carers Trust. Nid yw cymhwystra yn gysylltiedig â Lwfans Gofalwyr.

Ym mis Ebrill, cyhoeddais £9 miliwn i sefydlu Cynllun Seibiant Byr ar gyfer gofalwyr di-dâl. Yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi cael ei phenodi fel y corff cydgysylltu cenedlaethol i symud y gwaith pwysig hwn yn ei flaen. Mae’n gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu gwasanaethau integredig newydd i gefnogi gofalwyr di-dâl i gael mynediad at ystod o seibiannau byr wedi’u teilwra i’w hanghenion unigol.

Mae £186,000 wedi cael ei fuddsoddi yn y cynllun cenedlaethol Cerdyn Adnabod i Ofalwyr Ifanc ar gyfer gofalwyr ifanc hyd at 18 oed. Mae’r cardiau wedi’u cyflwyno ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol ac mae nifer y gofalwyr ifanc sy’n manteisio ar y cerdyn wedi cynyddu’n raddol. Ym mis Awst, cynhaliwyd yr ŵyl gofalwyr ifanc gyntaf yn Llanfair-ym-Muallt, gyda chyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Rheolwyd y digwyddiad tridiau hynod lwyddiannus gan Credu a mynychodd mwy na 300 o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc.

Rwy’n benderfynol o weithio ar draws sectorau i sicrhau bod ein hymrwymiadau ariannu yn cyrraedd mwy o ofalwyr di-dâl yng Nghymru ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.