Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Wrth inni nesáu at Ddiwrnod Hawliau Dynol ar 10 Rhagfyr, rydym yn datgan, unwaith eto, ein hymrwymiad i'r egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Mae'r ddogfen nodedig hon, a fabwysiadwyd gan y Deyrnas Unedig ym 1948, yn parhau i ysbrydoli unigolion, cymunedau a Llywodraeth Cymru i ddiogelu a hyrwyddo urddas, rhyddid a chydraddoldeb i bawb.
Yn anffodus, mae digwyddiadau byd-eang a chenedlaethol yn ein hatgoffa mai peth peryglus yw cymryd hawliau dynol yn ganiataol. Mewn gwledydd lle mae rhyfel, rydym yn gweld pobl gyffredin yn dioddef oherwydd diffyg hawliau dynol. Mae teuluoedd yn cael eu chwalu a seilwaith hanfodol yn cael ei ddinistrio. Mae hawliau menywod a merched yn gwanhau gan gynnwys drwy wadu'r pethau mwyaf sylfaenol iddynt fel addysg a rhyddid sylfaenol. Mae'r troseddau hyn yn tanlinellu'r angen brys am undod, amddiffyn a diogelu hawliau ledled y byd.
Yma yng Nghymru, rydym yn datblygu ein hymrwymiad i hawliau dynol drwy ymgorffori hawliau yn ein polisïau a'n hegwyddorion. Rydym yn archwilio sut i gryfhau hawliau i bobl anabl a menywod gyda chefnogaeth ein Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol. Ym mis Tachwedd fe wnaethom gyhoeddi y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol diwygiedig sy'n nodi'r nodau a'r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i'r afael â hiliaeth systemig a chefnogi pobl o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi grwpiau difreintiedig ac yn falch o barhau â'n gwaith Cenedl Noddfa i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ein nod yw helpu ceiswyr lloches i fyw mewn urddas a chyda pharch, gan adeiladu eu bywydau yma yng Nghymru er ein budd ni i gyd. Mae ein hegwyddorion Cenedl Noddfa yn cynnwys ymrwymiadau penodol i gynnwys hawliau dynol yn ein gwaith.
Trwy ein Tasglu Hawliau Anabledd, buom yn gweithio gyda phobl anabl a grwpiau cynrychioliadol i gyd-gynhyrchu argymhellion ar gyfer camau gweithredu a fyddai'n mynd i'r afael â gwahaniaethu ac yn dileu'r hyn sy'n rhwystro mynediad at hawliau a chynhwysiant pobl anabl mewn bywyd bob dydd. Mae'r argymhellion hyn yn llywio datblygiad cynllun gweithredu ar anabledd.
Rydym wedi cyhoeddi ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol i ategu'r gwaith yr ydym yn ei wneud i wneud Cymru'n lle gwell i fyw.
Mae'r un diwrnod ar bymtheg o weithredu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn gorffen gyda diwrnod Hawliau Dynol. Mae trais yn erbyn menywod yn groes i hawliau dynol ac yn anghyfiawnder cymdeithasol dwys sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.
Wrth gwrs, ni ddylid cyfyngu'r mater hwn i 16 diwrnod o weithredu. Mae llawer i'w wneud o hyd ac nid wyf yn llaesu dwylo. Bydd angen ymdrech gan bob un ohonom mewn cymdeithas - ac mae hynny'n cynnwys dynion a'r lefelau uchaf o arweinyddiaeth - i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod.
Ar 76 mlwyddiant Diwrnod Hawliau Dynol gadewch i ni ddathlu unwaith eto y gwerth parhaol sydd gan hawliau dynol a galw am hawliau dynol i bawb, ble bynnag y bônt.