Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig tegwch o ran darpariaeth mewn addysg i bob plentyn a pherson ifanc fel bod dysgwyr, gan gynnwys plant y Lluoedd Arfog, yn cael eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial a chael y gefnogaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Gallai plant y Lluoedd Arfog wynebu gwahanol fathau o rwystrau at addysg o ganlyniad i'w statws unigryw fel plant aelodau o'r Lluoedd Arfog.
Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiect Cefnogi Plant Aelodau o'r Lluoedd Arfog mewn Addysg (SSCE) Cymru a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd SSCE Cymru yn derbyn cyllid blynyddol o £270,000 ar gyfer 2024-25.
Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol ac mae'n garreg filltir bwysig sy'n rhoi'r cyfle i ysgolion a sefydliadau ddod ynghyd a chydnabod plant y Lluoedd Arfog. Ar Ddiwrnod Gwisgo'n Borffor! a gynhelir bob blwyddyn, mae pawb yn cael eu hannog i wisgo'n borffor i ddathlu plant o deuluoedd y Lluoedd Arfog. Dewiswyd porffor am ei fod yn cyfuno'r amrywiol liwiau sy'n gysylltiedig â gwahanol adrannau o'r Lluoedd Arfog.
Addewid gan y genedl yw Cyfamod y Lluoedd Arfog i wneud yn siŵr bod aelodau a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru a'r DU i gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Rwy'n falch o ddangos fy ymrwymiad i holl blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl blant, pobl ifanc ac ysgolion, yn ogystal â chymunedau ein Lluoedd Arfog, yn mwynhau dathliadau'r diwrnod.