Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Eleni, mae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc yn canolbwyntio ar unigrwydd – rhywbeth sy’n brofiad byw i nifer o ofalwyr ifanc. Nid diffyg ffrindiau a theulu yn unig yw unigrwydd, gall fod yn deimlad grymus sy’n effeithio ar iechyd meddwl a llesiant. Ers dechrau’r pandemig, mae’r gofid ychwanegol a’r ymdeimlad o unigrwydd wedi cael effaith negyddol ar lesiant nifer o ofalwyr ifanc.
Rwyf wedi cefnogi pob gofalwr di-dâl drwy gydol fy amser yn y llywodraeth ac rwyf wedi gweithio’n galed i roi cynlluniau a mentrau ar waith i’w cefnogi. Yn fwy diweddar, rwyf wedi cydweithio â Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr ac ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, elusennau gofalwyr a gofalwyr ifanc er mwyn datblygu’r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl.
Ym mis Tachwedd, lansiwyd cynllun cyflawni i gefnogi’r strategaeth hon. Mae’r cynllun hwn yn gosod blaenoriaeth genedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ym meysydd addysg a chyflogaeth. Bydd llawer o’r camau gweithredu yn y pedair blaenoriaeth genedlaethol yn gymorth i godi proffil gofalwyr ifanc a’r materion sy’n eu heffeithio.
Rydym bellach yn y drydedd flwyddyn o’r cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Ifanc sy’n cael ei roi ar waith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Mae’r cerdyn adnabod ar gael i bob gofalwr ifanc hyd at 18 oed ac yn sicrhau ffordd gyflym a syml iddynt roi gwybod i athrawon, gwasanaethau iechyd lleol, trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau eraill eu bod yn gofalu am rywun. Yn ogystal, bydd y cerdyn adnabod yn gymorth iddynt gael gafael ar eu hawliau o dan ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gael asesiad anghenion gofalwyr.
Y mis hwn, bydd Cynghorau Sir Penfro, Sir Gaerfyrddin a Powys yn lansio’r cerdyn adnabod ar gyfer Gofalwyr Ifanc sy’n golygu bod y cerdyn bellach yn cael ei gydnabod ac ar gael ym mhob rhan o Gymru. Drwy weithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth am hawliau gofalwyr a gwasanaethau, gallwn adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc yn well a sicrhau eu bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.