Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Fel y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae’n bleser gennyf gael cyfle i hyrwyddo budd gofalwyr ifanc. Ar y diwrnod pwysig hwn, hoffwn ddiolch i’r holl ofalwyr hyn sy’n helpu ac yn cefnogi aelodau o’u teuluoedd, cyfeillion a chymdogion, yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
Yn ystod y pandemig COVID presennol, rwy’n ymwybodol iawn y bu cynnydd yn rhai o’r heriau a’r pwysau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu, ac y bydd cynnydd hefyd yn nifer y bobl ifanc sydd wedi gorfod ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu. Fodd bynnag, nid yw’r holl brofiadau sy’n ymwneud â gofalu yn rhai negyddol, a dyna pam mae’n bleser gennyf gefnogi’r Diwrnod Gweithredu ar gyfer Gofalwyr Ifanc. Thema’r diwrnod hwn yw Diogelu Dyfodol Gofalwyr Ifanc.
Mae’r rhan fwyaf o ofalwyr ifanc yn mynd i’r ysgol neu i’r coleg, ac felly mae angen iddynt sicrhau cydbwysedd rhwng eu dysgu a’u datblygiad personol a’u cyfrifoldebau gofalu. Mae hynny wedi bod yn arbennig o anodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan fod plant ysgol a myfyrwyr yn poeni am fethu â dal i fyny â’u hastudiaethau, ac yn poeni hefyd am eu harholiadau, neu eu rhagolygon ar gyfer cael gwaith yn y dyfodol, yn enwedig o gofio’r pwysau anferth ar fusnesau ac economi Cymru. Fodd bynnag, wrth i’r person ifanc gyflawni ei rôl ofalu, gall ddysgu amrywiaeth eang o sgiliau, gan gynnwys sut i ymdopi â phwysau bob dydd, a sut i reoli ei amser. Pan fydd sgiliau felly’n cael eu cyfuno â’r hyn a ddysgir yn yr ysgol, gallant fod o gymorth wrth baratoi ar gyfer gwneud dysgu pellach neu fynd i mewn i’r gweithle.
Ar y Diwrnod Gweithredu hwn, rwy’n falch o allu tynnu sylw at yr hyn sydd wedi ei gyflawni gan ein prosiect cardiau adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc. Yn rhy aml, bydd y cyfle i’r gofalwr ifanc lwyddo a chamu yn ei flaen yn ei astudiaethau, neu gael bywyd ochr yn ochr â’i gyfrifoldebau gofalu, yn cael ei lesteirio gan y ffaith nad yw ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol, ac eraill yn gwybod pwy yn union sy’n cyflawni rôl gofalwr ifanc, na natur ei fywyd a sut i’w helpu. Rwy’n awyddus i sicrhau bod ffordd gyflym a hawdd ar waith i eraill allu adnabod gofalwyr ifanc er mwyn i’r rheini sy’n gofalu gael y cymorth a’r gefnogaeth briodol.
Bydd cerdyn adnabod, sy’n dangos y logo cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc, yn ei gwneud yn haws i’r gofalwr roi gwybod i’w athrawon, y fferyllfa neu feddygfa leol, y staff mewn archfarchnadoedd, neu’r gyrrwr bws lleol, ei fod yn gofalu am rywun. Bydd hefyd yn helpu gofalwyr ifanc i elwa ar eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys yr hawl i gael asesiad o’u hanghenion fel gofalwr.
Rwy’n falch o allu dweud ein bod wedi cydweithio’n agos â’n hawdurdodau lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod y prosiect wedi camu yn ei flaen o sefyllfa lle y gwnaeth pum awdurdod ddechrau defnyddio dulliau adnabod, i sefyllfa lle’r oedd 17 o awdurdodau lleol wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid yn 2020-21. Rwy’n awyddus i weld ein prosiect cardiau adnabod cenedlaethol ar waith ar draws Cymru gyfan erbyn 2022.
Yr wythnos hon, mae cardiau’n cael eu lansio yn Nhorfaen, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Chasnewydd, a hefyd bydd y cardiau ar waith ar draws y Gogledd, gan gynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae awdurdodau lleol hefyd wedi ymateb i adborth o’u grwpiau gofalwyr ifanc lleol, ac rwy’n falch bod y gwaith o dreialu gwahanol fformatau eisoes wedi dechrau, er enghraifft fersiwn ap ar ffôn, a strapen arddwrn, sy’n gweithredu fel carden adnabod.
Drwy weithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr a’r gwasanaethau ar eu cyfer, gallwn sicrhau ein bod yn darparu gwell gefnogaeth a chydnabyddiaeth i ofalwyr ledled Cymru. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod pob gofalwr ifanc yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth y mae eu hangen.