Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Heddiw, hoffwn gyfrannu at Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2015 drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y camau mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau addysg yn cymryd rhan lawn a gweithredol yn y gwaith o gadw ein plant yn ddiogel rhag peryglon cam-drin ac esgeuluso - yn cynnwys y risg i hynny ddigwydd ar-lein.
Fis diwethaf, roeddwn yn falch o gael cyhoeddi canllawiau newydd i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ym myd addysg. Mae Cadw dysgwyr yn ddiogel yn ategu’r canllawiau diogelu aml-asiantaeth - Diogelu plant: Gweithio gyda’n Gilydd dan Ddeddf Plant 2004 - ac wedi’u cynllunio i gefnogi pawb sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg i gyflawni eu cyfrifoldebau o ran diogelu ac amddiffyn plant.
Ysgrifennwyd Cadw dysgwyr yn ddiogel yn dilyn ymarfer ymgynghori cynhwysfawr gyda rhanddeiliaid. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r rhai sy’n poeni’n ddirfawr am yr agenda diogelu ac amddiffyn am eu cymorth a’u cyfraniad adeiladol i’r broses hon.
Cam cyntaf yn unig yw hun tuag at gryfhau trefniadau diogelu ym myd addysg. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ymgysylltu eto â rhanddeiliaid er mwyn cael eu safbwyntiau ar y cymorth sydd ei angen er mwyn sicrhau bod y canllawiau ac arferion diogelu cadarn yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd effeithiol a chyson. Bydd hyn yn ein galluogi i nodi’r bylchau sy’n bodoli nawr yn nealltwriaeth pobl ac unrhyw feysydd sydd angen cymorth penodol o bosibl.
Rydym hefyd yn bwriadu helpu i sefydlu grŵp diogelu mewn addysg Cymru gyfan. Bydd y grŵp yn dwyn ynghyd arweinwyr gweithredol diogelu mewn addysg o awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill er mwyn datblygu rhaglen waith i gefnogi arferion, gweithdrefnau a pholisïau cyson ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bendant ers y cychwyn bod diogelu yn fater i bawb. Er mwyn sicrhau trefniadau amddiffyn plant effeithiol mae’n rhaid i asiantaethau diogelu weithio’n gyson a chyda’i gilydd i amddiffyn y rhai sydd yn y perygl mwyaf o gael niwed. Bydd gwasanaethau cymdeithasol bob amser yn allweddol i effeithiolrwydd y trefniadau hynny. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r holl bartneriaid - yn cynnwys gwasanaethau addysg - gyfrannu’n llawn i sicrhau trefniadau diogelu effeithiol.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu’r fframwaith i sicrhau bod asiantaethau sydd â dyletswyddau diogelu yn cael eu cefnogi gan arweinyddiaeth gadarnach a fframwaith cryfach, mwy effeithiol ar gyfer cydweithredu aml-asiantaeth. Mae’r ymgynghoriad ar y rheoliadau sy’n sail i’r Ddeddf newydd ddod i ben. Rwy’n gobeithio bod rhanddeiliaid addysg yng Nghymru wedi cyfrannu’n llawn ato er mwyn sicrhau bod anghenion lleoliadau addysg yn cael eu diwallu’n llawn yn y trefniadau newydd.
Mae’n hanfodol bod y gwasanaeth addysg cyfan yn cyflwyno ei brofiad ei hun o ddiogelu ar lefel polisi ac ymarfer er mwyn sicrhau bod y systemau sydd gennym yn effeithiol i gyflawni ein nod cyffredin o ddiogelu pob plentyn a pherson ifanc ym myd addysg.
Mae Cadw dysgwyr yn ddiogel yn cynnwys canllawiau ar amrywiaeth o feysydd lle gwyddom fod rhai meysydd diogelu ac amddiffyn plant yn elwa ar gyngor a chymorth ychwanegol, a lle mae angen ffocws penodol.
Un o’r meysydd hyn yw cymorth i ddysgwyr fel y gallant gyrchu a defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel a chyfrifol. Rydym wedi dyfarnu contract i ddarparwr e-Ddiogelwch blaenllaw i fod yn bartner i ni wrth ddarparu cyngor, offer ac adnoddau drwy ein platfform Hwb, gan dargedu ysgolion ac athrawon yn ogystal â’r bobl ifanc eu hunain.
Mae agwedd Llywodraeth Cymru at ddiogelu plant a phobl ifanc yn parhau i fod fel ag yr oedd – ein bod yn eu haddysgu gyntaf i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel dan oruchwyliaeth, ac yna’n eu helpu i feithrin y sgiliau a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i reoli eu risg eu hunain wrth iddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd yn annibynnol.
Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2015 yn gyfle i ni gyd feddwl am ein cyfraniadau i gadw dysgwyr yn ddiogel a sut y gallwn ni wneud y rhyngrwyd yn lle gwell – a mwy diogel – i bawb sy’n ei defnyddio yn y dyfodol.
Mae Cadw dysgwyr yn ddiogel yn glir am sut y dylai gwasanaethau addysg nodi ac ymateb i bryderon am gam-fanteisio’n rhywiol ar blant, gan gysylltu â chanllawiau statudol a gweithdrefnau amddiffyn plant Cymru gyfan i sicrhau dull cyson sy’n cael ei ddeall yn glir.
Ond mae angen i ni ystyried sut y gallwn ni ddarparu mwy o gymorth i athrawon ac eraill ym myd addysg mewn maes diogelu anodd iawn. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gyda Barnardo’s Cymru i ddatblygu pecyn adnoddau addysg i helpu pawb ym myd addysg i siarad yn agored gyda phlant a phobl ifanc am beryglon cam-fanteisio’n rhywiol, a mathau o ymddygiad peryglus a allai eu niweidio.
Barnardo’s Cymru oedd yn gyfrifol am ddatblygu Seraf (fframwaith asesu’r risg o gam-fanteisio’n rhywiol) sy’n ganolog i’r canllawiau statudol, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y ffocws clir hwn yn cael ei gynnal a’i ddatblygu. Bydd y pecyn adnoddau addysg yn cael ei gynhyrchu fel cyfres ddigidol o adnoddau a fydd yn cael ei hyrwyddo ac ar gael ar wefannau Dysgu Cymru a Hwb.
Y llynedd, ysgrifennodd y cyn Weinidog Llywodraeth Leol a minnau at holl benaethiaid ysgolion Cymru i dynnu sylw at yr arfer o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) ac i bwysleisio’r rôl bwysig sydd gan wasanaethau addysg i helpu i ddiogelu merched a allai fod mewn perygl.
Rydym yn parhau i weithio i roi diwedd ar yr arferion hyn drwy gydweithio ag asiantaethau a chymunedau i hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atal FGM drwy hyfforddi sefydliadau ac unigolion allweddol. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru gynhadledd gymunedol – Making Our Voices Heard – i ddynodi Dim Goddefgarwch Rhyngwladol i FGM ar 6 Chwefror.
Mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o’r drosedd erchyll hon ac i sicrhau ein bod ni’n cefnogi llais pobl o fewn y cymunedau yr effeithir arnynt sy’n mentro codi eu llais.
Mae esgeuluso plant yn niweidiol tu hwnt a dyma’r rheswm mwyaf cyffredin pam mae plant yn ymuno â’r system amddiffyn plant yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2014, roedd 42% o’r plant a roddwyd ar gofrestri amddiffyn plant yn blant oedd wedi’u hesgeuluso.
Hylendid gwael, diffyg dillad priodol neu ddim digon o fwyd yw’r hyn a ddaw i feddyliau llawer o bobl wrth feddwl am esgeulustod. Ond mae gweithwyr proffesiynol yn deall bod esgeulustod yn gymhleth, ar lefel emosiynol a chorfforol ac mae’n aml yn bodoli ochr yn ochr â mathau eraill o gam-drin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu’r NSPCC a Gweithredu dros Blant i helpu i ddatblygu prosiect esgeulustod cenedlaethol yng Nghymru.
Fel rhan o’r prosiect hwn, mae’r NSPCC yn awyddus i ddysgu mwy am allu gwasanaethau addysg i helpu i fynd i’r afael ag esgeuluso plant yn gynnar. Gall darparu cymorth yn gynnar i blant a theuluoedd helpu i atal esgeulustod lefel isel rhag datblygu’n broblem ddifrifol sy’n ymwreiddio - bydd plant yn cyflawni’n well yn yr ysgol, os ydynt yn cael yr hyn eu hangen arnynt i ddatblygu a chyflawni.
Yn dilyn arolwg o ysgolion, mae’r NSPCC yn cynnal trafodaethau â ffocws gyda gweithwyr addysg proffesiynol i archwilio eu dealltwriaeth o esgeulustod, eu rôl yn mynd i’r afael â’r broblem, yr hyn sy’n rhwystro ymatebion cynharach a mwy effeithiol ac atebion posibl fel y gall gwasanaethau addysg ymateb yn fwy effeithiol i esgeulustod yn gynnar.
Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn yn erbyn trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol wrth gyflwyno’r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru). Yn ddiweddar, aeth y Bil drwy Gam 2 y broses graffu a bydd yn sefydlu fframwaith cyfreithiol i wella ymateb y sector cyhoeddus i drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae’r Bil yn rhan hanfodol o becyn cynhwysfawr o fesurau sy’n cymryd camau pwysig tuag at ddileu trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno’r Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol.
Gwyddom fod cysylltiad cryf rhwng cam-drin domestig a cham-drin ac esgeuluso plant. Mae un o bob tri achos o amddiffyn plant yn dangos hanes o drais domestig yn erbyn y fam. Mae pobl ifanc mewn cartrefi treisgar yn fwy tebygol o gael eu hanafu a’u cam-drin, naill ai’n uniongyrchol neu wrth geisio amddiffyn eu rhiant. Mae un o bob pum achos y mae’r NSPCC yn ymdrin â nhw yn ymwneud â cham-drin domestig. Dyma un o’r rhesymau pam ei bod hi’n bwysig i ni gryfhau ein hymateb i drefniadau diogelu ac amddiffyn drwy Cadw dysgwyr yn ddiogel.
Mae llawer o waith wedi’i wneud. Ond mae llawer o waith ar ôl ac ni allwn fyth orffwys ar ein rhwyfau. Bydd Cadw dysgwyr yn ddiogel yn canolbwyntio llawer ar y gwaith hwn ac yn egluro rôl y gwasanaethau addysg o safbwynt eu cyfraniad at ymateb aml-asiantaeth i feysydd diogelu. Ond mae’r gwaith yn dal i fynd rhagddo. Byddwn yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod ein trefniadau ni yn parhau i fod yn rhai o’r radd flaenaf.
Mae yna sawl math o amddiffyn, yn cynnwys hunanamddiffyn. Un o’r ffyrdd gorau o ddiogelu pobl ifanc yw drwy ymwybyddiaeth, addysg a rhoi’r hyder i bobl ifanc barchu eu hunain ac i sefyll dros yr hyn sy’n iawn.
Mae galluogi adeiladol yn hanfodol. Mae ein hagenda seiliedig ar hawliau yn cefnogi’r dull hwnnw, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, asiantaethau statudol a sefydliadau’r trydydd sector weithio’n galed i’w cefnogi bob cam o’r ffordd.
Byddwn yn annog pawb sy’n dod i gysylltiad â’r gwasanaethau addysg yng Nghymru drwy eu gwaith a’u bywyd i sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cadw’n ddiogel wrth iddynt ddysgu. Bydd Cadw dysgwyr yn ddiogel a Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2015 yn helpu i gefnogi’r gwasanaethau addysg hynny i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Mae angen i ni barhau i roi ffocws cryf iawn ar ddiogelu ac rwy’n gwahodd pob Aelod Cynulliad i ymuno â mi i helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd.