Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw yw'r diwrnod pan fyddwn yn nodi hil-laddiad Srebrenica yng Nghymru.
Rydym yn anrhydeddu dioddefwyr y digwyddiadau ofnadwy hynny a chofiwn y teuluoedd niferus a'r cymunedau niferus yr effeithiwyd gan y niwed a'r boen a achoswyd ganddynt.
Thema eleni ar gyfer Cofio Srebrenica yw 'Gwrthwynebu Gwadu: Herio Casineb’ ac mae'r neges hon yn atseinio'n ddwfn iawn yng Nghymru.
Mae Cymru wedi bod ac yn parhau i fod yn genedl sy'n falch o agor ei drysau, yn enwedig i'r rheini sy'n ffoi rhag trais a chasineb. Roedd yn anrhydedd i'r Prif Weinidog a minnau ymweld â'r Ganolfan Groeso ar gyfer Wcreiniaid yng nghanolfan yr Urdd yn Llangrannog i groesawu ein ffrindiau o'r Wcráin yn bersonol ac i glywed eu straeon drostynt eu hunain.
Mae'r digwyddiadau yn Srebrenica a gofiwn heddiw yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr uchelgais i fod yn Gymru wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym am fynd ymhellach na herio gwahaniaethu – rydym wedi ymrwymo'n sylfaenol i ddileu casineb ac anghydraddoldeb yn ei holl ffurfiau.
Mae bod yn wrth-hiliol yn golygu herio'r systemau a'r strwythurau hynny sy'n cynhyrchu canlyniadau hollol wahanol i grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Os na wnawn ddim, yna yr ydym yn caniatáu i hiliaeth barhau.
Mae digwyddiadau fel y rhain heddiw mor bwysig. Maen nhw'n rhoi cyfle i ni ddod at ein gilydd ac i gofio. I gofio'r rhai a fu farw yn yr hwn a hil-laddiadau eraill.
Wrth inni nodi'r cerrig milltir ingol hyn, mae'n ddyletswydd arnom i fyfyrio ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o'r digwyddiadau ofnadwy hyn. Dangos undod, fel unigolion, fel cymunedau ac fel ffrindiau, gyda'r rhai sy'n dal i ddioddef erledigaeth bob dydd.
Yn 2022 ni fu'r gwaith hwnnw erioed yn bwysicach. Yn anffodus, rydym yn byw heddiw mewn oes arall o raniadau. Lle'n rhy aml yn ein trafodaethau, rhoddir pwyslais ar y pethau hynny sy'n ein gwahanu yn hytrach na'r hyn sy'n ein huno.
Cymeradwyaf waith Cofio Srebrenica Cymru a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae o ran codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau casineb, hyrwyddo addysg a dealltwriaeth, a mynd i'r afael â casineb a rhagfarn. Bydd yr holl waith hwn yn ein helpu i gyflawni Cymru wrth-hiliol, gyrru'r newidiadau yr ydym i gyd am eu gweld – a'n symud yn nes fyth at Gymru sy'n wirioneddol addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.