Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Diwrnod Clefyd Llid y Coluddyn (IBD) y Byd yn ein hatgoffa bod clefyd Crohn's a cholitis briwiol yn anhwylderau cronig y coluddyn sy'n effeithio ar bobl ifanc yn bennaf, a all arwain at golli amser sylweddol mewn addysg ac yn y gweithle. Mae'r clefyd yn gofyn am driniaeth hirdymor gyda chyffuriau ac weithiau llawdriniaeth.
Sefydlwyd gweithgor IBD Cymru dair blynedd yn ôl a phenodwyd Arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau IBD, sef Dr Barney Hawthorne, i weithio gyda gwasanaethau'r GIG ledled Cymru i rannu arferion gorau a chefnogi gweithgareddau gwella ansawdd.
Mae'r gweithgor bellach wedi cwblhau ei waith ac mae Diwrnod IBD y Byd yn gyfle priodol i gofnodi'r hyn sydd wedi’i gyflawni a pha weithgarwch sydd ar y gweill.
Cwblhawyd adolygiad manwl o wasanaethau IBD yng Nghymru yn 2020. Fe wnaeth yr adolygiad ganfod nifer o heriau, megis amrywiad mewn ymarfer rhwng gwasanaethau'r byrddau iechyd, pwysau ar y gweithlu, ac anhawster cael mynediad at dimau IBD a gwasanaethau cymorth. Roedd hyn yn unol â chanfyddiadau arolwg meincnodi IBD ledled y DU yn 2019.
Un o agweddau allweddol y gwaith oedd datblygu llwybr cenedlaethol i hybu mynediad cyson at brofion calprotectin ysgarthol mewn gofal sylfaenol. Defnyddir y prawf i fesur llid y perfedd a dyma'r ffordd fwyaf cyffredin y mae pobl ag IBD yn dod at y GIG. Mae'n bwysig bod pobl, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru, yn gallu cael y prawf cywir. Mae pob un o’r byrddau iechyd bellach yn gweithredu'r llwybr hwn.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru a thîm Gwerth mewn Iechyd Cymru wedi datblygu dangosfwrdd IBD - adnodd digidol cenedlaethol sy'n dod â data cleifion a gesglir yn rheolaidd ynghyd i fesur gweithgarwch ac ansawdd, yn seiliedig ar Safonau IBD UK 2019. Mae'r gwaith yn dal i fynd rhagddo ond mae ganddo’r potensial i helpu rheolwyr gwasanaethau lleol a thimau clinigol i wella gwasanaethau. Bydd yn darparu gwybodaeth bwysig am amseroedd aros, derbyniadau brys, cyfraddau cymhlethdod a marwolaeth. Bydd yn galluogi byrddau iechyd i wella gwasanaethau i gleifion ymhellach.
Gyda chymorth gan dîm Gwerth mewn Iechyd Cymru, bu cryn ffocws ar ddatblygu deunydd addysgol i helpu pobl i reoli eu cyflwr. Mae hyn yn cynnwys fideos addysgol. Mae seminar addysgol ar-lein ar gyfer pobl sydd newydd gael diagnosis o IBD wedi'i sefydlu hefyd.
Bu cydweithrediad parhaus ac agos â Crohn's & Colitis UK. Lansiodd y sefydliad ymgyrch Diagnosis Cynharach ar gyfer Anhwylderau'r Perfedd Isaf yng Nghymru yr hydref diwethaf. Mae wedi’i thargedu at oedolion ifanc ac mae’n annog pobl â dolur rhydd, poen neu waedu i gael help yn gyflym. Fe'i cefnogir gan lwybr clinigol y cytunwyd arno ar gyfer ymchwilio i glefydau'r perfedd isaf (IBD, clefyd seliag, syndrom coluddyn llidus, canser y colon a llawer o anhwylderau eraill).
Yn sgil sefydlu Gweithrediaeth y GIG fis Ebrill, y bwriad yw sefydlu nifer o rwydweithiau clinigol cenedlaethol newydd i helpu i wella gwasanaethau’n barhaus. Bydd un o’r rhain ar gyfer gwasanaethau gastroberfeddol a bydd yn cynnwys grŵp gweithredu IBD, gydag arweinydd clinigol newydd yn dilyn ymddeoliad Dr Hawthorne. Hoffwn ddiolch i Dr Hawthorne am ei holl waith a dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol.