Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru
Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU y bydd Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio ar gyfer pandemig Covid yn cael ei gynnal ddydd Sul, Mawrth 9fed 2025.
Gan adeiladu ar argymhellion y Comisiwn ar Goffáu Covid, cynhelir Diwrnod Myfyrdod yn flynyddol ar ddydd Sul ddechrau mis Mawrth, gydag annog pobl a sefydliadau ledled y DU i gymryd amser i fyfyrio ar y diwrnod hwn neu o'i gwmpas.
Yn 2025, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau bod y diwrnod yn cael ei nodi'n briodol, gyda'r disgwyliad y bydd Ymddiriedolaeth Goffa Covid newydd erbyn 2026 yn arwain ar goffau.
Wrth i'r manylion ynghylch Diwrnod Myfyrdod 2025 gael eu cwblhau, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ein sianeli i sicrhau bod unigolion a chymunedau yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i nodi'r diwrnod mewn ffordd sy'n briodol iddynt.