Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o gadarnhau y bydd diwrnod canlyniadau 2020 i fyfyrwyr Safon UG a Safon Uwch, a myfyrwyr TGAU, yn aros ar eu dyddiadau gwreiddiol yng Nghymru. Mae hynny’n golygu y bydd Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn rhannu’r un diwrnodau canlyniadau, sef 13 Awst ar gyfer Safon UG a Safon Uwch a 20 Awst ar gyfer TGAU.

Fel y dywedais yn fy llythyr at Ysgrifennydd Addysg Lloegr ar 31 Mawrth, yn ystod y cyfnod ansicr sydd ohoni fy mlaenoriaeth oedd darparu eglurder a sicrhau na fyddai dysgwyr dan anfantais wrth gyrraedd at leoedd mewn prifysgolion yn sgil gwahanol ddyddiadau canlyniadau. Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi medru sicrhau hyn.

Ein bwriad o’r cychwyn yng Nghymru oedd cadw at y dyddiadau canlyniadau gwreiddiol, yn unol â chyngor ein rheoleiddiwr arholiadau annibynnol, Cymwysterau Cymru. Roedd cynigion Lloegr i symud at ddyddiad llawer cynharach yn cyflwyno risg diangen, ac fe fynegais fy mhryderon wrth fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU, ynghyd â’r sector addysg yma yng Nghymru ac UCAS.

Felly rwy’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw yn Lloegr. Mae Gweinidogion Addysg bob llywodraeth yn y DU wedi cydweithio’n dda gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod heriol sydd ohoni, ac rwy’n flin nad oedd modd i ni wneud cyhoeddiad ar y cyd y tro hwn. Mae arholiadau TGAU a Safon Uwch yn perthyn i dair gwlad yn y DU. Byddai cyhoeddiad ar y cyd wedi helpu i ddarparu’r sicrwydd a’r tawelwch meddwl sydd dirfawr ei angen ar ein dysgwyr, eu rhieni ac ymarferwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Gan fod dyddiad y canlyniadau bellach wedi’i gadarnhau, rwy’n gobeithio nawr y bydd modd i’n dysgwyr wneud cynlluniau at y dyfodol gydag ychydig mwy o hyder, er fy mod yn cydnabod bod cryn dipyn o ansicrwydd o hyd.