Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth osod rhaglen Dyfodol Cyfraith Cymru gerbron y Senedd y llynedd, eglurais mai un o’r prif brosiectau o ran gwella hygyrchedd cyfraith Cymru oedd sicrhau bod defnyddwyr yn gallu gweld ein deddfau fel y maent wedi eu diweddaru yn y ddwy iaith ar legislation.gov.uk.

Cyn y mis hwn roedd rhwystrau technegol a materion eraill yn atal hynny rhag digwydd. Ond rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi goresgyn y problemau hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Archifau Gwladol am eu gwaith yn datblygu swyddogaethau newydd ar eu system olygyddol. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni llawer o’r broses o ddiweddaru testun ein cyfreithiau yn ddwyieithog.

Ers 1999, pasiwyd 74 o Ddeddfau a Mesurau a gwnaed bron 6,000 o Offerynnau Statudol. Mae’r statudau hyn wedi eu diwygio a’u newid dros amser, a hynny gan ein deddfwriaeth ein hunain yn ogystal â’r chyfreithiau’r Deyrnas Unedig. Er gwaethaf gwaith legislation.gov.uk yn cyfleu’r newidiadau hyn, ar hyn o bryd mae rhyw 46,000 o effeithiau ac anodiadau sydd heb eu cofnodi a’u cyhoeddi ar legislation.gov.uk, er mwyn gallu gweld ein cyfreithiau ar ei ffurf fwyaf cyfoes.

Byddwn yn cychwyn ar y gwaith hwnnw yn awr, gan ganolbwyntio yn gyntaf ar Ddeddfau a Mesurau a basiwyd gan y Senedd, cyn symud ymlaen i Offerynnau Statudol Cymru. Byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am hynt y gwaith.

Dyma gam pwysig tuag at sicrhau y bydd ein holl ddeddfwriaeth ar gael yn y dyfodol ar ffurf sydd wedi ei diweddaru’n llawn yn y ddwy iaith, yn fuan wedi iddi gael ei diwygio.