Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae'r ystadegau diweddaraf sydd ar gael ar sectorau a gefnogir gan Cymru Greadigol wedi eu cyhoeddi. Mae'r setiau data yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Ionawr a Rhagfyr 2022 ac yn cynnwys gwybodaeth am nifer a maint busnesau creadigol, trosiant, cyflogaeth ac enillion wythnosol.
Mae twf diwydiannau creadigol Cymru yn cael ei gydnabod fel un o'n prif lwyddiannau economaidd, gyda'r ystadegau diweddaraf hyn yn dangos bod y rhan hon o'r economi yn parhau i berfformio'n dda. Yn 2022 yn unig, cynhyrchodd y sectorau creadigol a gefnogir gan Cymru Greadigol drosiant blynyddol o £1.4 biliwn a chyflogi tua 32,500 o bobl, yn ogystal â sector llawrydd sylweddol.
Mae nifer y busnesau creadigol sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru wedi parhau i dyfu dros y pum mlynedd diwethaf ac mae bellach yn cyfrif am 3.3% o'r holl fusnesau cofrestredig yng Nghymru, gyda 3,545 o fusnesau creadigol yn gweithredu yma yn 2022. Mae hyn wedi cynyddu 8.9% ers 2017.
Fel gyda llawer o sectorau ar draws economi Cymru, rydym wedi gweld rhai gostyngiadau mewn perfformiad o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn benodol, mae ffigurau trosiant a chyflogaeth yn is ar y cyfan ar draws pob is-sector, gan awgrymu bod diwydiannau creadigol Cymru wedi cael eu heffeithio mewn rhyw ffordd. Mae hyn yn debygol o adlewyrchu'r amodau economaidd heriol parhaus y mae pob ŵchostau ynni a busnes cynyddol .
Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn debygol o fod wedi cael eu heffeithio gan y ffaith bod 2021 yn flwyddyn hynod o brysur i gynyrchiadau ffilm a theledu yng Nghymru, yn bennaf o ganlyniad i ffactorau sy'n gysylltiedig â Covid. Yn ogystal, gall y ffigurau hefyd adlewyrchu'r mathau amrywiol o gynyrchiadau a leolwyd yng Nghymru yn ystod 2021 a 2022, gyda llai o gynyrchiadau mewnfuddsoddi mawr yn 2022 yn golygu allbynnau economaidd mwy cymedrol yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hyn yn unol â'n dull cytbwys o gefnogi ac yn adlewyrchu pwysigrwydd buddsoddi mewn cynyrchiadau cynhenid ochr yn ochr â phrosiectau mwy sy'n darparu cyfres gynaliadwy o weithgarwch sy'n helpu i ddatblygu ein sylfaen sgiliau a gwireddu manteision diwylliannol ehangach.
Er gwaethaf y problemau hyn, mae ein diwydiant sgrin ffyniannus, fu yn gartref i gynyrchiadau byd-eang mawr fel Sex Education a His Dark Materials yn ogystal â chynyrchiadau cynhenid fel Y Golau/The Light in the Hall yn parhau i gyfrannu'r swm mwyaf i sectorau creadigol Cymru gyda throsiant o £459m yn 2022, cynnydd o 37% ers 2017.
Mae Cymru Greadigol, asiantaeth Llywodraeth Cymru a sefydlwyd yn 2020 i ddefnyddio pŵer ein diwydiannau creadigol, yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector i ddarparu'r cymorth a fydd yn helpu i sicrhau bod ganddo ddyfodol bywiog, cynaliadwy a iach. Mae'r ystadegau, a ychwanegir atynt gan ymchwil ehangach ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i ategu data ystadegol sy'n seiliedig ar samplau llai, yn caniatáu i Gymru Greadigol olrhain twf, tueddiadau a phroblemau dros amser fel y gellir cyfeirio cefnogaeth yn unol â hynny ac yn y pen draw gefnogi twf y sector.