Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Ebrill, cyhoeddais yr adroddiad a luniwyd ar y cyd rhwng Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth yng nghyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Un o'r camau a gymerais yn syth oedd rhoi'r gwasanaethau mamolaeth mewn mesurau arbennig, a'r sefydliad cyfan dan statws o ymyrraeth wedi'i thargedu yn sgil nifer o bryderon a ddaeth i law ynghylch ansawdd a llywodraethu sylfaenol ac ehangach. Rhoddwyd nifer o ymyraethau ar waith yn syth i helpu i sicrhau gwelliannau angenrheidiol yn y gwasanaethau mamolaeth ac yn y sefydliad cyfan.

Rwyf wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynglŷn â chynnydd, a byddaf yn rhoi datganiad llafar y prynhawn yma.

Bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod wedi sefydlu Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth i roi trosolwg angenrheidiol o'r gwelliannau sydd eu hangen yn y gwasanaethau mamolaeth. Yn ddiweddar, cefais eu hadroddiad chwarterol cyntaf ac yn awr rwy’n cyhoeddi hwn ynghyd â'r strategaeth y maent wedi cytuno arni ar gyfer ymgymryd â'r adolygiadau clinigol a’r ymarfer gwerthuso fel y nodwyd yng nghylch gorchwyl y Panel.

Mae eu hadroddiad yn rhoi darlun cynhwysfawr o’r cynnydd hyd yma yng ngwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd, gan amlinellu gwaith y Panel hyd yma a'r camau nesaf a gynlluniwyd. Rwy'n croesawu'r dull cydweithredol y mae'r Panel wedi'i fabwysiadu wrth weithio gyda'r bwrdd iechyd a'r modd y maent hwythau yn eu tro wedi ymateb i hyn.

Mae nifer o swyddi allweddol bellach wedi'u llenwi ac mae'r sylfeini wedi'u gosod i raddau helaeth ar gyfer gwelliant parhaus yn y gwasanaethau mamolaeth. Wrth ddatblygu'r fframwaith sicrwydd i asesu cynnydd yn erbyn yr holl argymhellion, canolbwyntiodd y Panel i ddechrau ar adolygu'r dystiolaeth i sicrhau bod yr un ar ddeg o argymhellion diogelu uniongyrchol o adolygiad y Coleg Brenhinol wedi'u rhoi ar waith. Er bod cynnydd amlwg, mae'r Panel yn dal i edrych ar dri o'r argymhellion hyn i sicrhau bod sefyllfa gynaliadwy yn cael ei chyflawni. Er bod y cynnydd hyd yma yn obeithiol, er yn arafach na dymuniad y Panel, mae'n amlwg bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd ac y bydd angen i'r bwrdd iechyd barhau i ganolbwyntio ar yr heriau sy’n ei wynebu. 

Mae'n galonogol bod gwaith y Panel gyda menywod, teuluoedd a staff yn parhau i symud yn gyflym ac rwy'n falch bod y bwrdd iechyd yn awr yn cymryd mwy o berchnogaeth o hyn. Yn arbennig, rwy'n croesawu'r gyfres o ddigwyddiadau cyd-gynhyrchu sy'n cael eu cynllunio gan y bwrdd iechyd, gan ei bod yn hanfodol bod menywod, teuluoedd a staff yn cyfrannu at gynllunio a darparu gwasanaethau mamolaeth cynaliadwy ac uchelgeisiol.

Un o gyfrifoldebau allweddol y Panel yw cynllunio a gweithredu rhaglen o adolygiadau achos clinigol. Wrth wneud hyn, maent wedi penderfynu mabwysiadu dull eang iawn o benderfynu pa achosion ddylai fod yn destun adolygiad amlddisgyblaethol. Byddant yn adolygu'r achosion yn ystod cyfnod 2016-18 i ddechrau, a fydd yn cynnwys y 43 o achosion a nodwyd gan y bwrdd iechyd yn wreiddiol. Ond bydd y cwmpas estynedig hwn a'r meini prawf a gytunwyd yn golygu y bydd llawer iawn mwy o achosion yn cael eu cynnwys yn awr. Pwrpas y dull hwn yw gwneud y gorau o gyfleoedd dysgu a gwella yn ogystal â galluogi nodi a rhannu enghreifftiau o arferion da. Y bwriad yw y bydd yn broses sy'n esblygu ac, yn dibynnu ar yr hyn a fydd yn cael ei ddysgu, efallai y bydd meysydd adolygu pellach yn cael eu nodi i sicrhau bod yr holl feysydd gwelliant wedi'u hadnabod. Rwy'n croesawu'r agwedd hon. Mae trefniadau ar waith i sefydlu timau adolygu clinigol amlddisgyblaethol mewn partneriaeth â'r Colegau Brenhinol fel y gellir cychwyn ar y cam gwaith hwn cyn gynted â phosibl. Mae'n hanfodol bod y broses hon yn cael ei chynnal yn drylwyr ac yn gadarn. Bydd yr holl fenywod a theuluoedd sydd wedi'u cynnwys yn yr adolygiad yn cael y cyfle i gymryd rhan os ydynt yn dymuno.

Yn fwy cyffredinol, mae llawer iawn o waith ar y gweill yn y bwrdd iechyd i sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn wedi’u sefydlu. Mae David Jenkins, cyn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi cytuno i roi cyngor a chefnogaeth i'r Cadeirydd a'r Bwrdd. Mae wedi rhoi sicrwydd bod y Bwrdd wedi derbyn a chroesawu'r angen i sicrhau gwelliant ystyrlon yn y sefydliad a hynny mewn modd agored, tryloyw a chynhwysol. Mae Uned Gyflawni GIG Cymru yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod trefniadau ar gyfer rheoli pryderon a digwyddiadau yn effeithiol ac yn cymell dysg o ran diogelwch a phrofiad cleifion. Mae Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrthi'n cwblhau eu hadolygiad llywodraethu ar y cyd o'r bwrdd iechyd. Bydd hyn yn allweddol i gadarnhau pa welliannau pellach sydd angen eu gwneud dros y misoedd nesaf.

Yn amlwg mae llawer iawn i'w wneud eto i fynd i'r afael â'r materion a'r pryderon sylfaenol a ddaeth i'r amlwg yn y bwrdd iechyd. Rwy'n gwerthfawrogi bod hwn wedi bod yn amser anodd iawn i'r holl staff dan sylw. Ond mae'n galonogol i mi weld y modd y maent wedi derbyn yr angen i wneud newidiadau cynaliadwy ar draws y sefydliad, sy'n rhoi safon, diogelwch a phrofiad y claf wrth galon popeth y maent yn ei wneud.