Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Mae strategaeth goedwigaeth Llywodraeth Cymru, ‘Coetiroedd i Gymru’ yn disgrifio gweledigaeth glir o ystâd goetir fwy amrywiol gyda chymysgedd o rywogaethau coed a fydd yn gwrthsefyll y bygythiad o bathogenau goresgynnol.
Nid yw plâu a chlefydau coed yn cydnabod unrhyw ffin, felly mae’n rhaid seilio unrhyw ymateb ar wyddoniaeth gadarn er mwyn cael digon o dystiolaeth i ddatblygu strategaeth hirdymor i ddileu neu reoli’r clefydau hyn ar draws Prydain.
Mae’r achosion presennol o ddau glefyd difrifol, sef Clefyd Ramorwm coed Llarwydd (Phytophthora ramorum) a chlefyd Chalara coed ynn (Chalara fraxinea) yn dangos pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n cydweithio’n agos â’n partneriaid yn y DU ac Ewrop, megis y Comisiwn Coedwigaeth, yr Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd (FERA) a Defra, i ymladd y plâu a’r clefydau sy’n bygwth ein coed a’n coetiroedd.
Mewn ymateb i ymlediad chwim P ramorum ar goed llarwydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi diweddaru eu cynlluniau ar gyfer delio â’r clefydau hyn yng Nghymru ac mae wedi paratoi cyfres o gamau gweithredu i’w cymryd er mwyn ymateb i bryderon perchnogion coetiroedd preifat a’r sector prosesu coed.
Ar ôl cydweithio gyda chynrychiolwyr o’r sector preifat, mae CNC wedi cyflwyno cyfres o fesurau a fydd yn rhoi gwell hyblygrwydd wrth reoli’r gwaith o glirio ardaloedd eang o goed llarwydd sydd wedi’u heintio a helpu’r diwydiant prosesu coed i ymdopi gyda’r cyflenwad ychwanegol o goed llarwydd a chynnal gwerth y coed. Bydd CNC yn neilltuo adnoddau ychwanegol sylweddol er mwyn rheoli’r clefyd hwn, helpu i gynaeafu’r coed a phlannu rhywogaethau coed newydd ar ôl clirio coedwigoedd. Byddant yn atal yr elfen cofrestr gyhoeddus o’r broses benderfynu trwyddedau torri coed er mwyn i berchnogion coetiroedd preifat glirio a gwerthu eu coed llarwydd yn gyflymach os ydynt wedi’u heintio.
Er gwaethaf ymdrechion sylweddol y Comisiwn Coedwigaeth a CNC (ar ran Llywodraeth Cymru) i reoli’r cynnydd cyfredol mewn clefydau sy’n effeithio ar goed yng Nghymru, rwy’n credu bod angen gwell cydweithio a chydlynu rhwng y cyrff sy’n gyfrifol am ein coetiroedd, i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu diogelu.
O’r herwydd, rwyf wedi penderfynu sefydlu grŵp dan arweiniad Llywodraeth Cymru i ddwyn ynghyd swyddogion y Comisiwn Coedwigaeth (sydd wedi’u dirprwyo gan Weinidogion Cymru i gydweithio â CNC i gyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn y maes hwn), CNC, cynrychiolwyr y sector coetiroedd preifat a phroseswyr coed i geisio cael dull mwy cydlynol o ymdrin â materion clefydau coed yng Nghymru a hefyd i gael gwell cyfathrebu rhwng y sector coetir a phawb sydd â diddordeb yn yr amgylchedd. Bydd y grŵp hwn yn ystyried y strategaeth bresennol ar gyfer delio gyda P ramorum.
Er bod clefydau coed yn achosi problemau difrifol iawn i goedwigaeth yng Nghymru, ddylen ni ddim anghofio bod P ramorum yn gyfle i blannu amrywiaeth o rywogaethau coed eraill yn lle coed llarwydd, yn unol â strategaeth Coetiroedd i Gymru. Bydd hyn yn rhoi coetiroedd mwy amrywiol sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn well ac yn dod â mwy o fanteision i’r cyhoedd.
Yn ychwanegol at y camau gweithredu hyn, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r argymhellion a wnaed yn ddiweddar yn adroddiad y Tasglu Iechyd Coed a Bioddiogelwch Planhigion. Sefydlwyd y Tasglu hwn gan Defra er mwyn gwella ymateb y DU i glefydau coed.