Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf ynghylch cynnydd cynlluniau cardiau clyfar Llywodraeth Cymru.
Erbyn hyn rydym wedi datblygu a dechrau defnyddio system cardiau clyfar i ategu ein cynllun tocynnau teithio rhatach. Mae hyn yn cynnwys y systemau cefn swyddfa sy'n rheoli'r trafodion ac yn cynnal dros 700,000 o gardiau sydd yn cael eu defnyddio.
Gan ddefnyddio'r systemau hynny, rydym hefyd wedi datblygu GoCymru - Cerdyn Hawliau Teithio Cymru, ac wedi'i brofi'n llwyddiannus. Roedd hyn yn cynnwys Bws Caerdydd, Bws Casnewydd a 6 o weithredwyr yn y gogledd, gan ddefnyddio canghennau Swyddfeydd Post lleol i werthu'r cardiau a Traveline Cymru i roi gwasanaeth i'r cwsmeriaid.
Rydym ynghanol proses ail-dendro ar hyn o bryd ar gyfer y contract i reoli a chynnal gwaith gweinyddol ein cardiau clyfar. Mae'r tendrau'n cael eu gwerthuso ar hyn o bryd ac rydym yn bwriadu dyfarnu'r tendr ddiwedd mis Chwefror 2014.
Mae'r contract pedair blynedd newydd wedi'i lunio i wella ymarferoldeb y cynllun tocynnau teithio rhatach, gan gynnwys:
- porth ar y we, lle gall cwsmeriaid tocynnau teithio rhatach wneud cais neu adnewyddu eu cardiau ar-lein;
- opsiwn i ddatblygu system lle gall gweithredwyr gael ad-daliad awtomatig;
- gwell adroddiadau i roi gwell dealltwriaeth ynghylch tueddiadau defnydd, a nodi twyll posibl.
Mae'r contract newydd hefyd yn ffordd o barhau i ddatblygu a defnyddio systemau "talu wrth deithio" ar gyfer pob math o drafnidiaeth ac amrywiaeth eang o wasanaethau ategol.
Rwy'n awyddus i ddatblygu'r dechnoleg hon ymhellach, felly mae swyddogion yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio cardiau clyfar i ategu cysyniad y metro, gan roi mwy o hyblygrwydd i'w defnyddio ar fysiau a threnau, ac yn edrych hefyd ar ddefnyddio technoleg cardiau digyffwrdd er mwyn gwneud profiad y defnyddiwr yn haws ac yn gynt.