Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn yr ymosodiadau atgas ar ddau fosg yn Christchurch, Seland Newydd ar 15 Mawrth 2019, rwy’n diweddaru’r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ar 19 Mawrth yn amlinellu'r camau a oedd yn cael eu cymryd yng Nghymru. Roedd hynny'n cynnwys camau gan yr heddlu i gynyddu nifer y patrolau o gwmpas mosgiau i helpu i leddfu pryderon a chysylltu â chymunedau o bob ffydd; ein gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb, ac i ehangu ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol; a gwaith ein Fforwm Cymunedau Ffydd a'n Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth.

Ers yr ymosodiadau, nid yw'r heddluoedd yng Nghymru wedi cofnodi unrhyw fygythiadau uniongyrchol yn erbyn ein cymunedau Mwslimaidd. Ond, nid yw hynny'n rheswm dros laesu dwylo. Gwyddom fod eithafiaeth adain dde, casineb sy'n seiliedig ar hiliaeth, a gweithredoedd yn erbyn Mwslimiaid yn bodoli yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i wrthsefyll yr ymddygiad ffiaidd a throseddol hwn ar y cyd.

Y gwirionedd difrifol yw bod cymunedau Mwslimaidd ar draws Cymru a Lloegr yn dioddef cyfraddau uwch o droseddau casineb nag unrhyw grŵp ethnig neu grefyddol arall. Gall y fath gasineb gael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth, bod achosion o droseddau casineb yn cael eu trin yn briodol, a’n bod yn cydweithio â’r heddlu i ddwyn tramgwyddwyr ger bron llys.

Ar 21 Mawrth, ar Ddiwrnod y Cenhedloedd Unedig dros Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil, noddais cynhadledd United We Stand yn y Pierhead ym Mae Caerdydd. Cyhoeddais gyllid ychwanegol o £840,000 o Gronfa Bontio Ewropeaidd i fynd i'r afael â throseddau casineb, yn enwedig troseddau casineb ar sail hil, yn ystod cyfnod Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

O'r cyllid hwnnw, bydd £360,000 yn cynyddu capasiti ein Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, sy'n cael ei chynnal gan Gymorth i Ddioddefwyr Cymru. Mae'r gwasanaeth pwysig hwn yn cynnig cymorth ac eiriolaeth i ddioddefwyr troseddau casineb yng Nghymru.

Mae ein systemau ar gyfer cefnogi dioddefwyr troseddau casineb, a dwyn tramgwyddwyr i gyfrif, o fri rhyngwladol – mae ymwelwyr o bob rhan o'r byd yn dod i Gymru i ddysgu amdanynt. Fodd bynnag, mae'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth yn gweithredu hyd eithaf ei chapasiti; bydd y cyllid hwn yn darparu cymorth ariannol i gael gweithwyr achos cyflogedig a gwirfoddol ychwanegol. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â'r Hyb yn Llaneirwg yng Nghaerdydd i gyfarfod â rhai o'r gweithwyr achos a chlywed mwy am eu gwaith.

Ar 21 Mawrth, cyhoeddais gyllid o £480,000 ar gyfer grant newydd pwysig i sefydliadau cymunedol sy'n gweithio gyda phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru sy'n agored i droseddau casineb ac sy'n pryderu amdanynt. Mae'r gwaith hwnnw'n cynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a chymunedau ffydd lleiafrifol.

Bydd y cyllid hwnnw’n cefnogi camau gweithredu i atal troseddau casineb, rhoi sicrwydd, a hybu a gwella cynhwysiant cymunedol. Mae Cymru'n genedl gryfach pan fo amrywiaeth yn cael pharchu a phan fo hawliau sylfaenol a diogelwch pawb yn cael eu hamddiffyn.

Rwy'n benderfynol y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio’n unol â dull cydgynhyrchu sy'n cynnwys rhanddeiliaid. Roedd y broses honno wedi dechrau drwy drafodaethau mewn un o gyfarfodydd Fforwm Hil Cymru yr oeddwn yn ei gadeirio ar 28 Mawrth. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn bresennol am eu sylwadau heriol a chadarnhaol.

Yr wythnos diwethaf, ysgrifennais at bob Imam yng Nghymru, i fynegi ein cydgefnogaeth a'n cydymdeimlad dwfn yn dilyn yr ymosodiadau yn Christchurch a'r fandaliaeth mewn mosgiau yn Birmingham a Newcastle. Ategais y neges bod Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gefn i’n cyfeillion a'n cymdogion Mwslimaidd. A byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gael gwared ar Islamoffobia o'n cymunedau.

Rwy'n annog aelodau o'r gymuned i fod yn wyliadwrus, ond i beidio â bod yn ofnus, ac rwy wedi dosbarthu gwybodaeth am rifau cyswllt allweddol i unrhyw un sy'n dyst i ymddygiad amheus neu fygythiol.

Rwy am i Imamiaid fod yn ymwybodol o'r pecyn hyfforddi ar-lein a elwir yn 'ACT Awareness eLearning' – sy’n cynnig cyngor am ddiogelwch amddiffynnol a sut i ymateb petai'r gwaethaf yn digwydd. Dyma'r ddolen at y pecyn: https://www.gov.uk/government/news/act-awareness-elearning. Rwy hefyd wedi dosbarthu gwybodaeth am gyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cynllun Mannau Addoli, sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr, ac sy'n helpu mannau addoli i sicrhau bod diogelwch amddiffynnol materol, fel ffensys, goleuadau a theledu cylch cyfyng (CCTV), yn cael eu gosod.

Ar 26 Mawrth, roeddwn i a'r Prif Weinidog wedi mynd i ginio gwadd ar gyfer dros 400 o bobl a oedd wedi'i gynnal gan Gyngor Mwslimiaid Cymru. Roedd pobl o bob ffydd a dim ffydd yn bresennol, ac roeddent yn cynrychioli croestoriad eang iawn o fywyd Cymru. Mynegodd Prif Weinidog Cymru ei ymrwymiad cadarn y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag eraill i ddileu Islamoffobia, i fynd i'r afael â throseddau casineb ac i atal eithafwyr adain dde rhag gweithredu yng Nghymru. Er gwaethaf y cyd-destun trist, roedd awyrgylch y noson yn llawn cyfeillgarwch a chydgefnogaeth ac yn un a oedd yn cydnabod popeth sy'n gyffredin rhyngom.

Pwysleisiodd y Prif Weinidog mai ein her yw peidio â chael ein llethu. Yn lle hynny, rhaid inni anrhydeddu a chofio'r rheini a fu farw yn yr ymosodiadau yn Christchurch drwy sicrhau bod ein cymunedau yn fannau lle gall pobl o bob ffydd fyw ac addoli mewn amgylchedd goddefgar lle y mae pawb yn parchu ei gilydd. Rydym yn rhannu ymrwymiad i hyrwyddo empathi a dangos parch i bawb yn ein gwlad.