Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 7 Ebrill cyhoeddais y Cynllun Profi Cyhoeddus Cenedlaethol ar gyfer COVID-19 a oedd yn nodi sut yr ydym yn mynd ati i brofi ar gyfer COVID-19 yng Nghymru; yr hyn y dymunwn ei gyflawni drwy brofi; a'r camau yr ydym yn eu cymryd i gynyddu'r gallu i brofi.

Fe wnes i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y cynnydd sy’n cael ei wneud yn unol â’r cynllun yma yng Nghymru. 

Rydym heddiw wedi cyhoeddi'r cyntaf o'r diweddariadau hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny bob wythnos, am ba hyd bynnag y bydd angen.