Vaughan Gething AS, Y Prif Weinidog a Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.
Mae'r newyddion y gallai Tata ddiffodd Ffwrneisi Chwyth 4 a 5 ym Mhort Talbot yr wythnos nesaf yn syfrdanol a bydd yn peri pryder enfawr i'r gweithlu, eu teuluoedd a'r gymuned.
Ni all - ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cau'r ddwy ffwrnais chwyth ar hyn o bryd. Fel rydym wedi dweud droeon, dylai'r cwmni aros am ganlyniad yr Etholiad Cyffredinol yr wythnos nesaf cyn gwneud penderfyniadau na ellir eu gwrthdroi. Nid yw gweithredu tra bo’r genedl yn paratoi at fwrw pleidlais yn helpu i ddad-ddwysáu’r sefyllfa.
Cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg drafodaethau gyda'r cwmni yn gynharach heddiw. Mae angen trafodaethau brys a diffuant er mwyn sicrhau diogelwch ar y safle ac osgoi canlyniad a fyddai'n cael effaith mor ddifrifol a pharhaol ar Bort Talbot, ar Gymru ac ar y DU.