Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddais fy mod yn sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol gorchwyl a gorffen a fydd yn ystyried y strwythurau llywodraethu presennol yn GIG Cymru, yn ystyried a yw mesurau atebolrwydd yn glir ac yn briodol, ac yn rhoi cyngor ar unrhyw argymhellion sydd eu hangen i'w cryfhau.
Ym mis Tachwedd 2023 cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn cadarnhau mai Ann Lloyd CBE fyddai cadeirydd y grŵp, yn ogystal â'i aelodaeth ehangach a'i Gylch Gorchwyl.
Fel y nodwyd yn ei gylch gorchwyl, pwrpas y grŵp yw:
- Myfyrio ynghylch y strwythurau llywodraethu presennol o fewn system GIG Cymru a darparu arsylwadau ar unrhyw gryfderau neu wendidau;
- Mynegi barn ynghylch a yw'r atebolrwydd yn glir ac yn briodol;
- Darparu unrhyw argymhellion i gryfhau'r system;
- Ystyried y ffaith bod gweinidogion iechyd yng Nghymru yn agosach at system y GIG nag mewn mannau eraill a bod angen i'r mecanweithiau atebolrwydd ystyried hyn;
- Adolygu'r papur ar yr ysgogiadau ar gyfer newid o fis Hydref 2022;
- Ystyried rôl cymhellion a chosbau i ysgogi'r ddarpariaeth yn sefydliadau GIG Cymru a'i gwella;
- Nodi unrhyw ysgogiadau eraill y gellid eu defnyddio i ysgogi perfformiad.
Pan sefydlais yr adolygiad, roeddwn yn awyddus i'r grŵp glywed tystiolaeth gan ystod eang o leisiau a buddiannau i lywio ei argymhellion. Rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau bod y grŵp bellach wedi cwblhau cam casglu tystiolaeth eu hadolygiad, a thros y misoedd diwethaf mae'r grŵp wedi casglu tystiolaeth gan grwpiau sy’n cynnwys:
Conffederasiwn GIG Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Fforwm Partneriaethau Cymru
Cyrff Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
Colegau Meddygol Brenhinol Cymru
Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Prifysgol Dinas Llundain
Gan fod cyfnod casglu tystiolaeth eu gwaith wedi dod i ben, bydd y grŵp nawr yn ystyried y dystiolaeth y maent wedi'i chlywed ac yn datblygu argymhellion a fydd yn cael eu cyflwyno i mi erbyn diwedd mis Mawrth a'u cyhoeddi yn fuan wedi hynny.
Hoffwn ddiolch i aelodau'r grŵp am eu gwaith hyd yma, ynghyd â phawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu tystiolaeth. Edrychaf ymlaen at ystyried argymhellion adolygiad y grŵp pan fydd gwaith y grŵp wedi'i gwblhau. Ar ôl cael argymhellion y pwyllgor, byddaf yn dod â chadeiryddion sefydliadau GIG Cymru at ei gilydd i ystyried y canfyddiadau a phenderfynu ar y camau nesaf.