Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Ar 16 Mawrth, cyhoeddodd Swyddfa Gartref y DU na fyddai’n cyflwyno cais cynllunio i ymestyn y defnydd o wersyll Penalun ar gyfer ceiswyr lloches. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r penderfyniad hwn ar sail foesol a synnwyr cyffredin. Rydym wedi codi sawl pryder ynghylch diogelwch ac addasrwydd safle gwersyll milwrol ar gyfer pobl sydd wedi ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, yn ogystal ag annigonolrwydd trefniant sy’n eu gosod mewn ardal wledig heb wasanaethau cymorth arbenigol hanfodol. Fe wnaethom fynegi ein pryder hefyd nad oedd y gwersyll yn amgylchedd oedd yn cydymffurfio â gofynion cyfyngiadau Covid-19 – er gwaethaf honiadau’r Swyddfa Gartref fel arall – a oedd yn risg i’r ceiswyr lloches eu hunain a’r gymuned leol ehangach. Ymddengys fod Prif Arolygydd Annibynnol Ffiniau a Mewnfudo wedi cadarnhau ein honiadau i raddau helaeth yn dilyn ei arolygiad ym mis Chwefror.
Mae Cymru yn Genedl Noddfa. Rydym yn grediniol y dylid croesawu ceiswyr lloches a’u cefnogi i integreiddio i’w gwlad newydd. Nid oedd gwersyll Penalun yn darparu’r dechrau gorau i’r rhai a osodwyd yno, ac nid oedd y lleoliad yn gydnaws â’r elfen o gydlyniant cymunedol. Roedd y ffordd yr aethpwyd ati i agor y gwersyll yn astudiaeth achos ar gyfer sut i beidio â hybu cydlyniant ac integreiddio cymunedol. Mae'n dda gennyf gyhoeddi bod y dynion o’r gwersyll wedi cael eu hadleoli i ardaloedd lloches sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru ac rydym yn parhau i ofalu bod y Swyddfa Gartref yn darparu cymorth priodol iddynt
Ar 18 Tachwedd 2020, trafodwyd cynnig yn y Senedd i ailystyried penderfyniad y Swyddfa Gartref i osod ceiswyr lloches yng ngwersyll lluoedd arfog Penalun am ei fod yn lle anaddas heb fynediad at y rhwydweithiau cymorth priodol, a chytunwyd ar y cynnig.
Rwyf am gofnodi fy niolch i broffesiynoldeb a medrusrwydd aruthrol ein gwasanaethau cyhoeddus yn ardal Penalun sydd wedi rhagori ar bob disgwyliad o ran sut y maent wedi ymdrin â sefyllfa mor heriol – yn enwedig yn ystod pandemig.
Darparodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wasanaethau o ansawdd o fewn cyfnod hynod fyr, heb rybudd nac arbenigedd o ran cefnogi ceiswyr lloches. Mae Cyngor Sir Penfro wedi rheoli tensiynau cymunedol, prosesau cynllunio a llawer o faterion annisgwyl, heb gytuno erioed i fod yn ardal lleoli ceiswyr lloches.
Mae Heddlu Dyfed-Powys a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi arddangos hunanreolaeth a chydbwysedd wrth blismona protestiadau ac wrth drafod cwestiwn adnoddau a thensiynau gyda Llywodraeth y DU.
Fel bob amser, ymatebodd y trydydd sector a gwirfoddolwyr i’r her o ddarparu cymorth i’r trigolion – yn ymarferol ac yn ysbrydol. Mae dau sefydliad trydydd sector newydd wedi’u sefydlu yn y Gorllewin sydd am wneud mwy i gefnogi pobl sy’n ceisio noddfa. Roedd y cyfraniadau gan y gymuned leol yn anhygoel ar adegau. Cynigiwyd cymorth i’r rheini a oedd yn y gwersyll gan elusennau o lefydd mor bell â Chasnewydd a Chaerdydd, ac mae’r empathi hwn yn adlewyrchiad da iawn ohonom fel cymdeithas.
Ni fyddai’r camau a gymerwyd wedi bod yn effeithiol heb waith partneriaeth Grŵp Ymgysylltu Strategol a Grŵp Amlasiantaethol Penalun, a ddaeth ynghyd yn fuan i ymateb i’r her heb fawr ddim profiad o’r system loches. Fe wnaeth y grwpiau hyn helpu i sicrhau bod mesurau yn cael eu sefydlu’n gyflym yn y gwersyll. Mae Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru wedi chwarae rôl hollbwysig o ran adeiladu a chynnal y bartneriaeth hon dros y 6 mis diwethaf.
Er bod y safle yn anaddas, rydym wedi dysgu llawer iawn am y ffordd y gall gwasanaethau cyhoeddus Cymru ddod at ei gilydd i ymateb i sefyllfaoedd brys fel hyn. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud ein gorau glas i atal datblygiad arall tebyg i’r un ym Mhenalun rhag agor yng Nghymru.
Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw darparu llety lloches, rydym wrthi’n cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol Cymru i ehangu’r system lleoli ceiswyr lloches i ardaloedd newydd. Cynhaliwyd sgyrsiau â llywodraeth leol drwy gydol mis Chwefror yn y gobaith y gellir dod o hyd i gyfleoedd newydd i leoli ceiswyr lloches. Rhaid i hyn ddigwydd mewn ffordd sy’n sicrhau bod cynhwysiant a chydlyniant o fewn cymunedau yn cael ei reoli’n effeithiol, ac na roddir awdurdodau lleol o dan bwysau diangen ar lefel ariannol a gweithredol.
Bydd angen i’r Swyddfa Gartref fod yn llawer mwy hyblyg i sicrhau bod modd mynd i’r afael yn briodol â phryderon awdurdodau lleol ynghylch cwestiynau diogelwch, rhannu data, gwaith partneriaeth a chyllid. Serch hynny, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r ymdrech hon.