Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 18 Tachwedd, trafododd a chytunodd y Senedd ar gynnig y dylid ailystyried penderfyniad y Swyddfa Gartref i roi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun am ei fod yn lle anaddas heb fynediad at rwydweithiau cymorth priodol. Ysgrifennais at y Gweinidog Cydymffurfiaeth Mewnfudo a'r Llysoedd, Chris Philp AS, ar 25 Tachwedd i'w hysbysu am ein dadl ac ailadrodd ein galwad i Lywodraeth y DU gau gwersyll Penalun a symud ceiswyr lloches i lety amgen sy’n gallu cynnig darpariaeth briodol ar gyfer eu hanghenion, parchu eu hurddas, a'u helpu i ddatblygu eu ceisiadau am loches.

Cefais gyfle i drafod y mater hwn â Gweinidog Llywodraeth y DU ar 1 Rhagfyr ond ni dderbyniodd fy marn bod defnyddio'r gwersyll at y diben hwn yn annynol.

Er hynny, rwy’n dal i godi pryderon sylweddol ynghylch diogelwch a phriodoldeb y gwersyll fel llety lloches. Rydym wedi gweld lluniau, ffotograffau ac adroddiadau diogelwch o du mewn i’r gwersyll sy'n ategu ein pryderon. Credwn fod risgiau cynhenid yn safle Penalun o ganlyniad i’r model gweithredol sydd ar waith.

Rwy'n croesawu'r arolygiad o’r gwersyll gan y Prif Arolygydd Annibynnol Ffiniau a Mewnfudo. Ysgrifennodd y Prif Weinidog at y Prif Arolygydd ar 19 Ionawr i alw am arolygiad brys ac rwy’n yn falch o ddweud bod yr arolygiad bellach wedi dechrau. Rydym yn croesawu'n fawr y penderfyniad i gynnal yr arolygiad hwn er mwyn sicrhau hyder yn y safonau sydd yn eu lle yn y gwersyll. Os oes gan Aelodau dystiolaeth yr hoffent ei chyfrannu at arolygiad hwn, gallant wneud hynny yma:

https://www.gov.uk/government/news/call-for-evidence-an-inspection-of-the-use-of-hotels-and-barracks-as-contingency-asylum-accommodation

Y flaenoriaeth yn amlwg yw sicrhau bod y rhai sydd yn y gwersyll a'r gymuned gyfagos yn cael eu cadw'n ddiogel a’u trin ag urddas a bod modd adfer cydlyniant cymunedol yn dilyn y penderfyniad aflonyddgar hwn.

Mae'r penderfyniad i ddefnyddio gwersyll Penalun wedi tanseilio ein gallu i weithredu polisi effeithiol ar integreiddio ymfudwyr, fel y nodir yn ein cynllun Cenedl Noddfa. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system lloches ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am integreiddio, cydlyniant cymunedol, llywodraeth leol a'r system iechyd – meysydd y mae’r sefyllfa yng ngwersyll Penalun wedi cael effaith negyddol arnynt. Mae angen archwilio’n llawn sut y dylai'r system lloches weithredu mewn cyd-destun datganoledig ac felly mae Gweinidogion Cymru’n bwriadu gweithredu fel parti â buddiant mewn unrhyw achosion o Adolygiad Barnwrol a ddaw o ddeiliaid gwersyll Penalun.

Mae'r Swyddfa Gartref yn defnyddio pwerau cynllunio at argyfwng i weithredu gwersyll Penalun fel llety lloches tan 20 Mawrth 2021. Ar ôl hynny, bydd angen cael caniatâd cynllunio lleol er mwyn gallu parhau i wneud defnydd awdurdodedig o’r safle. Rydym yn dal i annog y Swyddfa Gartref i ddarparu cynllun ar gyfer symud y rhai sy'n cael eu lletya yn y gwersyll i lety arall os na cheir caniatâd cynllunio.

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw darparu llety lloches, rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol Cymru i ehangu'r system wasgaru ar gyfer ceiswyr lloches i ardaloedd newydd. Bydd sgyrsiau gyda llywodraeth leol yn parhau drwy gydol mis Chwefror yn y gobaith y gellir dod o hyd i gyfleoedd newydd.

Bydd cofrestru awdurdodau lleol ychwanegol yn llwyddiannus yn y system lloches yn cymryd amser, a bydd penderfyniadau fel defnyddio Penalun fel llety lloches ond yn gwneud awdurdodau lleol yn fwy amharod i fod yn rhan o’r system. Bydd angen i'r Swyddfa Gartref fod yn llawer mwy hyblyg o ran eu dull gweithredu i sicrhau y gellir mynd i'r afael yn ddigonol â phryderon awdurdodau lleol ynghylch diogelu, rhannu data, gweithio mewn partneriaeth a chyllid, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi hyn. Rydym yn cydnabod nad yw 10,000 o geiswyr lloches mewn llety dros dro yn gynaliadwy a bod angen i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â hyn ar frys, ac rydym eisiau chwarae ein rhan. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn bod Penalun yn ddarpariaeth angenrheidiol nes bod llety gwasgaru ychwanegol wedi’i nodi – mae'n anniogel a rhaid iddo gau ar frys.