Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at greu gwlad fwy ffyniannus a chyfartal. Fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Economaidd, rydym yn ymrwymedig i weithio’n rhanbarthol er mwyn helpu i gyflawni hyn.

Fel y nodais yn fy ngweledigaeth ar gyfer y Metro yng Ngogledd Cymru ym mis Mawrth 2017, byddwn yn buddsoddi mewn pob dull trafnidiaeth er mwyn sicrhau’r system drafnidiaeth fodern o ansawdd uchel sy’n hanfodol i gyflawni ein hamcanion o ran cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd a sicrhau twf economaidd ledled y gogledd, gan gysylltu pobl â swyddi a gwasanaethau a busnesau â marchnadoedd. Drwy ddangos ein hymrwymiad i wneud buddsoddiad o’r fath gall busnesau yn y rhanbarth a’r rhai sy’n ystyried dod i Gymru fod yn hyderus y cânt eu cefnogi gan system drafnidiaeth gynaliadwy a modern.

Gwneir tua thri chwarter ein masnach â gweddill y DU a bydd Brexit yn ei gwneud yn bwysicach fyth sicrhau cysylltiadau da â marchnadoedd dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae perygl y caiff swyddi eu colli o ganlyniad i Brexit a nododd astudiaeth ddiweddar y gallai’r colledion hynny fod mor uchel â 30% yn ardal Sir y Fflint. Rôl Llywodraeth Cymru yw ymdrin â’r posibilrwydd hwn drwy fuddsoddi mewn meysydd y gall eu rheoli. Mae’r Metro yn un o’r meysydd hyn.

Ceir cysylltiadau cryf rhwng economi Gogledd-ddwyrain Cymru ac economi Gogledd-orllewin Lloegr a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer sylweddol o gymudwyr sy’n teithio ar draws y ffin, gyda thua miliwn ohonynt yn gwneud hynny bob mis. Mae’r potensial o ran twf swyddi yn y dyfodol yn sylweddol yn yr ardal drawsffiniol hon a bydd angen gwella systemau trafnidiaeth gyhoeddus a’r rhwydwaith ffyrdd er mwyn ateb y galw cynyddol ar ein rhwydweithiau trafnidiaeth sy’n deillio o hynny. Ni all trafnidiaeth gyhoeddus ar ei phen ei hun ateb y galw presennol, heb sôn am fynd i’r afael â’r tagfeydd pellach a ddisgwylir o ganlyniad i dwf traffig yn y dyfodol.

Mae’r buddsoddiadau sylweddol sydd yn yr arfaeth yn ardal Lloegr o’r ffin, fel Rheilffordd Northern Powerhouse ac HS2, a’r gwelliannau i’r rhwydweithiau ffyrdd strategol, yn golygu y gallwn ddewis naill ai fuddsoddi mewn ffordd debyg yng Ngogledd Cymru neu fynd ar ei hôl hi a bod yn llai deniadol i fusnesau. Dyma pam ei bod yn hanfodol buddsoddi yng nghysyniad y Metro er mwyn sicrhau economi fywiog.

Mae’r Metro yn dod yn realiti yn ardal Glannau Dyfrdwy lle rydym, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint, yn rhoi system drafnidiaeth werdd ar waith yn un o ardaloedd cyflogaeth pwysicaf Cymru. Mae 260 o gwmnïau a 9000 o swyddi wedi’u lleoli ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ond bu’n anodd ei gyrraedd heb ddefnyddio car preifat, gan gyfrannu at broblemau o ran ansawdd yr aer a thagfeydd ar y ffyrdd cyfagos. Mae cwmnïau hefyd wedi ei chael hi’n anodd recriwtio a chadw staff gydag un o bob pum darpar weithiwr yn gwrthod cynigion swydd oherwydd yr anawsterau a fyddai’n gysylltiedig â chyrraedd y gwaith.

Caiff ein buddsoddiad yn ardal Glannau Dyfrdwy ei lywio gan hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy.

Mae llwybrau teithio llesol yn cael eu hadeiladu ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a fydd yn cysylltu pob busnes â llwybrau teithio llesol yn y Parc ac â’r rhwydwaith teithio llesol ehangach ledled ardal Glannau Dyfrdwy ac i mewn i Gaer ac ardal y Wirral. Mae’r llwybrau teithio llesol a adeiladwyd yn ddiweddar yn boblogaidd iawn, nid yn unig â chymudwyr ond â theuluoedd a defnyddwyr hamdden eraill hefyd. Gwneir tua 10,000 o deithiau ar feic drwy’r Parc bob mis, gan ddangos beth y gellir ei gyflawni drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau cysylltiedig o ansawdd uchel.

Mae’r system drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei thrawsnewid hefyd. Rydym wedi ariannu bysiau newydd ar gyfer gwasanaeth Deeside Shuttle sy’n cyrraedd y safonau amgylcheddol diweddaraf ac mae safle parcio a theithio wrthi’n cael ei adeiladu ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a gaiff ei wasanaethu gan y bws gwennol, gan leihau nifer y cerbydau y bydd angen iddynt deithio i mewn i’r Parc.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a gweithredwyr bysiau er mwyn rhoi Partneriaeth Ansawdd Bysiau ar waith a fydd yn cynnwys gwasanaethau ar hyd yr A548 / B5129 drwy Sir y Fflint ac i mewn i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Y nod yw darparu gwasanaeth bysiau o ansawdd uchel ar hyd y coridor, integreiddio gwasanaethau bysiau strategol â gwasanaeth Deeside Shuttle, gan gyflwyno amserlenni a thocynnau integredig. Rhoddwyd cyllid i Gyngor Sir y Fflint gyflwyno mesurau blaenoriaeth i fysiau a mesurau rheoli traffig ar hyd y coridor er mwyn lleihau amseroedd teithio bysiau a gwella dibynadwyedd yr amseroedd teithio hynny.

Ar hyn o bryd, dim ond canran fach iawn o bobl sy’n teithio i’r gwaith yn ardal Glannau Dyfrdwy ar y trên. Rydym am newid hyn. Drwy fasnachfraint Cymru a’r Gororau, caiff amledd gwasanaethau ar y llinell o Wrecsam i Bidston ei ddyblu i ddau drên yr awr o 2021. Gan adeiladu ar hyn, rydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer gorsaf integredig yn Shotton, gan ei gwneud hi’n haws i bobl gyfnewid rhwng llinell Arfordir Gogledd Cymru a llinell Wrecsam a Bidston ac ar gyfer gorsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy a fydd yn gwasanaethu gweithwyr ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac a gaiff ei gwasanaethu gan y bws gwennol. Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau hyn hefyd yn gwella mynediad i’r rhwydwaith rheilffyrdd strategol i drigolion a busnesau Sir y Fflint a Wrecsam.

Er mwyn gweithredu Metro llwyddiannus, bydd angen integreiddio pob modd trafnidiaeth yn llawn, a bydd angen i’r priffyrdd chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwn gan ddarparu mynediad i Barc Glannau Dyfrdwy i drafnidiaeth cludo nwyddau, bysiau ac ar gyfer teithiau na ellir eu gwneud drwy fodd amgen. Mae cynllun Gwella Coridor yr A55/A494/A548 yn Sir y Fflint yn elfen allweddol o system drafnidiaeth integredig aml-fodd y Metro. Yn ogystal â gwella cysylltedd rhwng economïau Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr, bydd gwella llifau traffig a chapasiti ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn lleihau’r achosion o ddefnydd diangen o ffyrdd lleol a’r tagfeydd a geir ar hyn o bryd ar y ffyrdd hynny. Yn ogystal â gwella diogelwch, yn enwedig yn yr ardaloedd trefol, bydd hyn hefyd yn rhyddhau capasiti a fydd yn allweddol i greu mwy o gyfleoedd i gerdded, beicio a theithio ar fysiau ar ffyrdd lleol yn Sir y Fflint ac yn rhoi mynediad i’r rhwydwaith rheilffyrdd drwy orsaf arfaethedig Parcffordd Glannau Dyfrdwy. Bydd dyluniad cynllun Gwella Coridor Sir y Fflint yn sicrhau y bydd hynny’n elfen gwbl integredig o’r Metro ac mae’n cynnwys seilwaith i sicrhau y gwneir y defnydd mwyaf posibl o ddulliau teithio llesol a bysiau.

Mae ansawdd aer gwael ar yr A494 yn broblem sylweddol ac rydym yn mynd i’r afael â hi. Bydd cynllun gwella Coridor Sir y Fflint yn chwarae rhan bwysig o’r broses honno ac yn gwneud newid sylweddol cwbl angenrheidiol o ran cydnerthedd y rhwydwaith, sydd mor bwysig er mwyn cefnogi dyheadau ar gyfer dyfodol y rhanbarth.

Yn dilyn ein ffocws cychwynnol ar roi hwb trafnidiaeth integredig y Metro ar waith yn ardal Glannau Dyfrdwy, rydym bellach yn bwriadu cyflwyno’r cysyniad hwn i ganolfannau cyflogaeth allweddol eraill ledled y gogledd, gan gynnwys Wrecsam, y Rhyl / Prestatyn / Llanelwy / Abergele, Bae Colwyn / Conwy / Llandudno ac ardal Menai.

Mae potensial enfawr i sicrhau twf economaidd yn y gogledd. Mae system drafnidiaeth integredig fodern o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn cyflawni’r potensial hwnnw ac rwyf yn ymrwymedig i fuddsoddi yn y gwaith hwnnw er mwyn sicrhau bod y rhanbarth hwn yn rhan gystadleuol a chysylltiedig o economi’r DU.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.