Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Fel y gŵyr yr Aelodau, ym mis Ebrill 2019, cyhoeddais yr adroddiad a luniwyd ar y cyd rhwng Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth yng nghyn-Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Un o’r camau a gymerais ar unwaith mewn ymateb i'r canfyddiadau, oedd rhoi gwasanaethau mamolaeth mewn mesurau arbennig a sefydlu’r Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth.
Ers hynny rwyf wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a chyhoeddi'r adroddiadau yr wyf wedi'u cael oddi wrth y Panel. Erbyn hynny rwyf wedi cael Adroddiad Cynnydd Medi 2020 y Panel ac yn ei gyhoeddi heddiw cyn darparu Datganiad Llafar ar 13 Hydref.
Er gwaethaf y pandemig, mae'r Panel wedi addasu ei ffyrdd o weithio i roi her, craffu a chymorth i'r bwrdd iechyd dros y chwe mis diwethaf. Mae'r Panel a'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo o hyd i fwrw ymlaen â'r newidiadau mewn gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol y mae menywod, teuluoedd a'r gymuned ehangach yn eu disgwyl a'u haeddu, er gwaethaf y sefyllfa ddigynsail sydd ohoni.
Mae Adroddiad Cynnydd Medi 2020 y pedwerydd diweddariad gan y Panel yn cydnabod bod y bwrdd iechyd ‘has done remarkably well in difficult and challenging circumstances to maintain focus and momentum’. Mae'r Panel wedi cadarnhau bod tystiolaeth o gynnydd graddol, gyda 12 yn rhagor o argymhellion y Colegau Brenhinol wedi'u hawdurdodi yn ystod y cyfnod hwn. Mae hwn yn gynnydd canmoladwy o gofio'r pwysau sy'n deillio o COVID-19 ac mae'n dyst i waith caled ac ewyllys y staff sy'n darparu gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol.
Rwyf yn falch bod Rhaglen Adolygiadau Clinigol y Panel wedi cynnal momentwm a bod y bwrdd iechyd wedi llwyddo i nodi capasiti ac adnoddau ychwanegol i gefnogi'r gwaith hwn. Dros yr wythnosau nesaf, mae'r Panel yn rhag-weld bod mewn sefyllfa i ddechrau ysgrifennu at fenywod a theuluoedd yn y categori mamau 2016-2018 i rannu eu canfyddiadau o'r adolygiadau unigol. Mae hyn yn gam pwysig ymlaen tuag at roi atebion i fenywod a theuluoedd a allai fod wedi cael profiad negyddol o wasanaethau mamolaeth ac rwyf yn croesawu'r cynnydd parhaus hwn. Ymhellach, bydd yn darparu gwersi gwerthfawr i'r bwrdd iechyd ac yn sicrhau bod profiadau menywod a theuluoedd yn dal i fod yn sbardun ar gyfer gwelliant y sefydliad.
Mae'r Panel wedi nodi ei ddisgwyliadau ar gyfer y meysydd sy'n gofyn am sylw arbennig yn ystod y cyfnod adrodd nesaf. Ymhlith y rhain mae'r angen i ailystyried nifer o feysydd gwaith sydd wedi'u rhewi ar hyn o bryd oherwydd yr ymateb cychwynnol i COVID-19 a'r angen i'r rhain ailddechrau ar y cyfle cyntaf. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni sefydliadol i fynd i'r afael â gwerthoedd ac ymddygiadau, arweinyddiaeth a diwylliant yn ogystal â chyfathrebu. Mae cynnydd parhaus yn y meysydd hyn yn hanfodol er mwyn i’r gwelliannau a fu hyd yn hyn barhau i ennill eu plwyf.
Hoffwn ddiolch i'r Panel, y timau adolygiadau clinigol a staff y bwrdd iechyd am barhau i gyflawni cymaint yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rwyf yn siŵr y bydd hwn yn fan cychwyn ar gyfer cynnydd parhaus yn ystod y gaeaf anodd iawn sydd o'n blaenau.