Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr ydym i gyd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae llywodraeth leol yn ei chwarae a'r uchelgais a rannir gennum i lywodraeth leol gael ei rymuso i wneud y mwyaf o'r effaith sydd ganddo ym mywydau dinasyddion.

Yn y digwyddiad, cymerais y cyfle i wahodd llywodraeth leol i awgrymu pwerau ychwanegol neu hyblygrwydd a fyddai'n eu helpu yn eu gwaith i ddarparu gwasanaethau i'n pobl a'n cymunedau; ac er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru.

Rwy'n ymwybodol o nifer o awgrymiadau a chynigion, yn enwedig yn dod i'r amlwg o’r Fargen Ddinesig a Chynllun Twf, yn ogystal â rhai meysydd o diddordeb hir dymor. Fodd bynnag, credaf y byddai o gymorth i lunio rhestr i'w ystyried. O ganlyniad, rwyf wedi ysgrifennu at  Arweinwyr pob awdurdod lleol heddiw, yn eu gwahodd i gynnig awgrymiadau a syniadau i mi.

Byddaf yn gweithio'n agos â chydweithwyr Gweinidogol i ystyried y cynigion a ddaw i law ond rwyf yn glir bod yn rhaid i'n hamcan alluogi llywodraeth leol grymus a chryf.