Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Eleni yw'r bumed flwyddyn ers i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn gyhoeddi ei adroddiad Arsylwi Terfynol yn 2016 i Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Cafodd yr adroddiad ei lywio gan dystiolaeth o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ar y pryd, roedd y Pwyllgor wedi nodi'r cynnydd a wnaed gan Gymru mewn perthynas â hawliau plant.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn erbyn llawer o'r meysydd a'r argymhellion, a byddwn yn croesawu'r cyfle i roi trosolwg o'r cynnydd ers cyhoeddi adroddiad 2016.
Ym mis Mawrth 2020, cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 Gydsyniad Brenhinol. Daw'r Ddeddf i rym ym mis Mawrth 2022, ac fe fydd yn gwahardd cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2020, pasiodd Senedd Cymru Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Mae'r ddeddf honno'n gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ac yn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Roedd y ddau beth hyn yn argymhellion a oedd wedi'u cynnwys yn adroddiad Arsylwi Terfynol 2016.
Fel llywodraeth, rydym yn parhau i ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi hawliau plant a galluogi plant a phobl ifanc i wireddu eu hawliau.
Mae’r adroddiad cynnydd llawn i’w weld yma.