Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi adroddiad Gareth Williams ‘Hwyluso’r Drefn’ gydag 74 argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r fframwaith rheoleiddio ffermio yng Nghymru. Mae’r argymhellion yn bellgyrhaeddol ac mae eu llwyddiant yn ddibynnol ar bartneriaeth glós rhwng Llywodraeth a’r diwydiant ffermio. Rwyf i wedi bod yn gweithio gyda swyddogion a’r diwydiant i weithredu’r argymhellion ac rwy’n credu bod y gwaith yn mynd rhagddo’n dda.

Gwahoddais Gareth yn ôl yn yr hydref i adolygu’r cynnydd ac i asesu a oedd y fframwaith rheoleiddio wedi gwella o gwbl. Mae wedi bod yn cwrdd â ffermwyr a chynrychiolwyr o’r byd amaeth i drafod y baich rheoleiddio a’r newidiadau sydd wedi’u gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn casgliadau ac argymhellion Gareth, a gyflwynir i mi mewn adroddiad fis Chwefror.  

Cyhoeddir ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad cyn toriad y Pasg.