Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Yn dilyn fy natganiad ar 13 Gorffennaf 2023, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar gynigion i fynd i'r afael â llwyth gwaith staff ac i leihau biwrocratiaeth. Mae trafodaethau cadarnhaol wedi parhau ag arweinwyr addysg ac undebau athrawon, awdurdodau lleol, partneriaethau rhanbarthol, Estyn a rhanddeiliaid allweddol eraill. Mae'r trafodaethau hyn wedi'u crynhoi isod:
Asesiad o'r effaith ar lwyth gwaith
Rydym wedi parhau i ddatblygu'r asesiad o'r effaith ar lwyth gwaith gyda'r bwriad o sicrhau bod unrhyw bolisïau newydd gan Lywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith bosibl ar lwyth gwaith athrawon. Cytunir ar yr asesiad effaith terfynol erbyn diwedd mis Tachwedd ac yna caiff ei dreialu ar unwaith. Bydd adborth ac adolygiad o'r asesiad o'r effaith ar lwyth gwaith yn cael eu hystyried, gyda disgwyl i'r gwaith o ddatblygu ymhellach y broses asesu derfynol fod wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mai 2024. Rydym wedi gwneud cynnydd o ran datblygu'r offeryn digidol i alluogi penaethiaid i gyflwyno tystiolaeth o achosion llwyth gwaith a bydd hwn ar gael erbyn diwedd tymor yr hydref eleni. Bydd yr adborth yn cefnogi'r asesiad o'r effaith ar lwyth gwaith ac yn bwydo i waith datblygu a gweithredu polisi.
Bydd y rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer llunwyr polisi Cyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru yn dechrau ym mis Tachwedd eleni. Mae'r arweinwyr a'r undebau athrawon wedi ymrwymo i gefnogi a mynychu'r dysgu proffesiynol hwn, a fydd yn galluogi llunwyr polisi i ddatblygu gwell dealltwriaeth o effaith polisïau newydd ar lwyth gwaith staff addysg.
Yn ehangach, rydym wedi cytuno â rhanddeiliaid i archwilio siarter llwyth gwaith a llesiant, gan adeiladu ar y siarter llwyth gwaith flaenorol a chynlluniau llesiant eraill. Byddwn yn sefydlu grŵp datblygu i ystyried a darparu cyngor ac argymhellion ar gynnwys a chynllun cyfathrebu, erbyn hydref 2024. Dylai hyn gynnwys blaengynllun sy'n cysylltu ag amserlen flynyddol Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer ystyried telerau ac amodau statudol athrawon.
Adrodd ac ymgysylltu
Byddwn yn ailffocysu ac yn symleiddio ein hymdrechion ar draws y sector. Byddwn yn cyhoeddi fframwaith polisi gwella ysgolion wedi'i ddiweddaru yn gynnar yn 2024, a fydd yn nodi cyfeiriad cyffredin clir ar gyfer ysgolion, darparwyr cymorth, a llywodraeth leol a chenedlaethol. Mae undebau addysg a phartneriaid eraill wedi cael gwybod am hyn. Byddwn yn canolbwyntio ar gydweithio rhwng ysgolion a chlystyrau i gyflawni'r amcanion cyffredin hyn, ac fel sail ar gyfer hunanwerthuso, gwella, ymgysylltu ac adrodd. Bydd hyn yn symleiddio ac yn ffocysu ein hymdrechion ar y cyd i helpu ysgolion i wella.
Rydym yn adolygu'r rheoliadau adrodd a gwybodaeth statudol i sicrhau bod y disgwyliadau'n glir, yn cyd-fynd â pholisi, a heb fod yn ddyblygol. Mae gwaith pellach yn parhau ac rydym yn disgwyl cynnig terfynol yn ystod haf 2024.
Bydd y fframwaith polisi yn sail i'n canllawiau gwella ysgolion wedi'u diweddaru y byddwn yn eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn ystod 2024, tra'n disgwyl canlyniad yr adolygiad i wella ysgolion a gyhoeddais ym mis Gorffennaf.
Estyn
Yn fy Natganiad Llafar i'r Senedd ar 16 Mai 2023, cyfeiriais at yr angen i roi diwedd ar yr arfer o gynnal ffug arolygiadau neu arolygiadau bychain, gan annog ysgolion a'r consortia yn fwy cyffredinol rhag gor-baratoi ar gyfer arolygiadau Estyn. Mae'n amlwg o drafodaethau diweddar gyda Phrif Arolygydd Estyn bod yr arfer yn parhau, ac mae’n rhaid rhoi diwedd ar hyn. Mae'r Prif Arolygydd a minnau yn credu'n gryf nad yw ffug arolygiadau nac arolygiadau bychain yn ddefnydd da o amser ymarferwyr a chynghorwyr gwella ysgolion. Nid ydynt yn datblygu ymarfer proffesiynol nac yn cefnogi llesiant penaethiaid ac athrawon.
Mae Estyn wedi parhau i weithio gyda'r undebau, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a phartneriaid gwella ysgolion i egluro ac amlygu eu disgwyliadau o ran paratoi cyn arolygiad. Mae'r rhain yn cynnwys symleiddio'r wybodaeth a ddarperir gan wasanaethau gwella ysgolion ac awdurdodau lleol cyn yr arolygiad; a'r ysgolion yn peidio â pharatoi unrhyw ddogfennau yn benodol ar gyfer yr arolygiad, er enghraifft dogfennau polisi a chynlluniau gwersi. Mae Estyn yn datblygu ymgyrch ar y cyfryngau i rannu'r negeseuon hyn ac i herio'r mythau sy'n aml yn codi ynghylch ei waith arolygu a'i ddisgwyliadau o ddarparwyr.
Mae Estyn hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu dull mwy effeithlon ac effeithiol o gefnogi ysgolion mewn categori statudol yn dilyn arolygiad. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cysylltiad agos rhwng cynllun gweithredu ôl-arolygiad yr ysgol a datganiad gweithredu yr awdurdod lleol. Yn yr arferion gorau, mae'r cynlluniau hyn yn cyfuno yn un cynllun gwella deinamig sy'n nodi'n glir y camau gweithredu, y cyfrifoldebau, yr amserlenni a'r meini prawf llwyddiant ar gyfer pob partner. Mae llawer o ysgolion ac awdurdodau lleol yn mabwysiadu'r dull hwn yn llwyddiannus.
Adolygiad a datblygiad proffesiynol
Rydym wedi gweithio gydag ymarferwyr ac undebau'r gweithlu addysg i ddatblygu canllawiau rheoli perfformiad diwygiedig a fydd yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd y canllawiau diwygiedig yn nodi proses hyblyg lle bydd ymarferwyr yn cymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain, gyda'r ysgol yn rhoi'r amser a'r gofod angenrheidiol drwy ddefnyddio'r grant dysgu proffesiynol yn effeithiol.
Fel y nodir yn yr Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, rwyf am sicrhau bod gan bob ymarferydd yng Nghymru fynediad at ddysgu proffesiynol cyson o ansawdd uchel drwy gydol eu gyrfa. Er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn ym mis Medi, cyhoeddais drefniadau newydd i sicrhau ansawdd dysgu proffesiynol yng Nghymru. Yn dilyn penodi’r Athro Ken Jones yn gadeirydd arbenigol annibynnol ar gyfer Panel Cymeradwyo Cenedlaethol newydd, mae'r broses o recriwtio aelodau'r panel bellach ar y gweill. Bydd y panel yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, partneriaethau a chonsortia addysg, sefydliadau addysg uwch, yn ogystal ag ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion. Bydd cyfarfod cyntaf y panel yn cael ei gynnal yn ystod y tymor hwn.
Er mwyn sicrhau bod cyfleoedd datblygu ar gyfer ymarferwyr addysgol ar gael yn hawdd, ym mis Medi eleni, lansiwyd ardal ddysgu broffesiynol newydd ar Hwb. Mae hyn yn darparu un pwynt mynediad at adnoddau dysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Datblygwyd y dull hwn gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr, ac ar hyn o bryd mae ar gael ar ffurf Beta, gyda chyfleoedd i fireinio ymhellach yng ngoleuni adborth parhaus o'r system ehangach.
Anghenion dysgu ychwanegol
Rwy'n parhau i wrando ar adborth y gweithlu ynghylch pwysau yn sgil y diwygiadau ADY, ac yn gweithredu ar hynny. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi yn flaenorol gyllid ychwanegol i ysgolion ac wedi estyn y broses o weithredu'r system ADY o dair blynedd i bedair blynedd.
Ar fy nghais i, mae Estyn wedi cynnal y cyntaf o ddau adolygiad thematig, a gyhoeddwyd ar 29 Medi: Y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd | Estyn (llyw.cymru). Canfu'r adroddiad hwn fod y Cydlynwyr ADY (CADY) a gymerodd ran yn yr adolygiad yn frwdfrydig ac yn ymroddedig. Canfu hefyd ei bod yn hanfodol bwysig bod y CADY yn rôl strategol mewn uwch dimau arweinyddiaeth i hyrwyddo ADY ar draws pob agwedd ar waith yr ysgol, gan gynnwys addysgu, y cwricwlwm a sicrhau ansawdd. Roedd Estyn yn cydnabod y newid sylweddol i'w rôl, gyda llwyth gwaith cynyddol a mwy o gyfrifoldeb. Un o brif argymhellion adroddiad Estyn oedd y dylai ysgolion sicrhau bod gan y CADY ddigon o amser ac adnoddau i gyflawni eu dyletswyddau.
Mewn ymateb i adroddiad Estyn, ysgrifennais at yr holl Gyfarwyddwyr Addysg i ofyn iddynt adolygu'r adroddiad, gan ystyried yr argymhellion yn ofalus a bwrw ymlaen â nhw. Hefyd, cynhaliodd fy swyddogion weithdy gyda'r 22 o awdurdodau lleol er mwyn tynnu sylw at yr argymhellion gan Estyn a pharhau i ymgysylltu â phartneriaid cyflawni i ailadrodd pwysigrwydd sicrhau bod gan y CADY yr amser i gyflawni eu rôl.
Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer CADY yn parhau i gwrdd ac maent ar hyn o bryd yn drafftio eu hadroddiad i adolygu a darparu argymhellion ar dâl ac amser di-gyswllt y CADY. Bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2023.
Rwy'n bwriadu dweud rhagor ynghylch gweithredu'r system ADY a'r camau nesaf yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.
Grŵp Strategol
Rydym wedi dechrau ailstrwythuro ac ailffocysu ein trefniadau ymgysylltu presennol o amgylch Grŵp Strategol newydd. Bydd y Grŵp hwn yn goruchwylio'r holl faterion sy'n ymwneud â lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth er mwyn sicrhau dull cyson a chyraeddadwy. Erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023 bydd cylch gwaith y Grŵp wedi'i bennu, gyda Chadeirydd annibynnol wedi'i benodi ac aelodaeth gytunedig yn ei lle. Cynhelir y cyfarfod cyntaf yn gynnar ym mis Chwefror 2024 fan bellaf.
O dan y grŵp hwn bydd nifer bach o weithgorau newydd yn canolbwyntio ar y meysydd llwyth gwaith blaenoriaeth allweddol mewn perthynas â Chyllid ac Adnoddau; Adrodd; Ymgysylltu a Datblygu; a Gweithredu Polisi. Bydd grŵp byrdymor hefyd yn canolbwyntio ar Weithwyr Cymorth Dysgu a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gynrychiolwyr gweithwyr cymorth dysgu ar y cytundebau a'r trafodaethau sydd wedi digwydd ers mis Ebrill 2023. Byddwn yn sefydlu cylchoedd gwaith ac aelodaeth a bydd yr holl weithgorau hyn wedi cynnal eu cyfarfod cyntaf erbyn diwedd mis Ionawr 2024.
Ariannu Ysgolion
Rydym eisoes wedi dechrau symleiddio'r gwaith o fonitro a gwerthuso ein grantiau a gellir gweld hyn yn y dyfarniadau grant eleni. Rydym yn ystyried cymryd camau pellach cyn blwyddyn ariannol 2024-25 ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio drwy ein grantiau ochr yn ochr â gwaith paratoi'r gyllideb ddrafft. Ein nod yw lleihau'r baich ar ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion, yn ogystal â rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt yn y dyfodol. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau bod ein prosesau grant yn llai cymhleth ac yn fwy tryloyw, gan gefnogi ein partneriaid awdurdod lleol dibynadwy i gyflawni'r deilliannau gorau posibl gyda'r adnoddau sydd ar gael iddynt, gan ddileu biwrocratiaeth ddiangen.
Rydym hefyd wrthi'n edrych ar yr argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad o Gyllido Ysgolion. Mae hyn yn cynnwys darn o waith yn adolygu fformiwlâu cyllido ysgolion awdurdodau lleol yr ydym yn gobeithio ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol. Bydd hyn, ynghyd â gwaith arall yr ydym yn ei wneud, yn helpu i lywio newidiadau i'r Rheoliadau Cyllido Ysgolion. Rydym yn gwybod bod cyllid ysgolion yng Nghymru yn gymhleth, fel yr amlygir yn yr Adolygiad o Gyllido Ysgolion, a bod angen llawer o waith er mwyn gwella a datblygu ein system gyllido i fod yn fwy tryloyw, yn decach ac un sy'n rhoi lle canolog i ddeilliannau dysgwyr.
Gwella ysgolion: rôl a chyfrifoldebau partneriaid addysg
Ar 12 Gorffennaf 2023 cyhoeddais adolygiad i rôl a chyfrifoldebau partneriaid addysg. Bydd hyn yn fodd o ystyried mewn ffordd gyfunol, amserol a thryloyw beth sydd ei angen ar y system wrth inni edrych tua'r dyfodol. Bydd cyfle hefyd i helpu i greu gofod ar gyfer cydweithredu cadarnhaol, cefnogol a yrrir gan bwrpas, a hynny drwy leihau biwrocratiaeth ddiangen. Dros y misoedd diwethaf, rwy'n gwybod bod y tîm adolygu, dan arweiniad yr Athro Dylan E Jones, wedi bod yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r sector addysg, gyda'r cam cyntaf yn canolbwyntio ar glywed gan ystod mor eang â phosibl o ysgolion. Edrychaf ymlaen at ddarllen y casgliadau ac mae'r tîm ar y trywydd iawn i adrodd erbyn diwedd mis Mawrth 2024.
Amodau gwasanaeth
Fel y cytunwyd, rydym wedi cynnwys rhestr o dasgau gweinyddol a chlerigol na ddylid eu cyflawni fel mater o drefn gan athrawon yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 o fis Medi 2023 ymlaen. Byddwn yn gofyn i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ystyried a ddylid ychwanegu unrhyw dasgau gweinyddol a chlerigol eraill at y rhestr hon, a/neu a oes angen cynnwys cyfeiriad penodol at arweinwyr ysgolion. Rydym hefyd wedi cytuno y bydd cyfeiriad penodol at ystyried amodau gwasanaeth ar gyfer arweinwyr ysgolion fel rhan o Gylch Gwaith Adolygu Cyflogau Bwrdd Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer 2024/25.
Ochr yn ochr â'r trafodaethau ar fynd i'r afael â llwyth gwaith staff a lleihau biwrocratiaeth, mae Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru wedi parhau â'i adolygiad strategol o gyflog ac amodau, ac rwy'n disgwyl ei adroddiad ym mis Rhagfyr. Bydd yr adroddiad a'i argymhellion yn cael eu hystyried yn fanwl a'u trafod ag undebau athrawon a chyflogwyr. Bydd y dull partneriaeth teirochrog hwn yn caniatáu i bob argymhelliad perthnasol gael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl, gyda gofynion statudol cysylltiedig yn cael eu gweithredu o fis Medi 2024.
Ymrwymiad parhaus
Drwy leihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth ddiangen i staff addysg, gallwn eu rhyddhau i dreulio mwy o amser ar yr hyn a wnânt orau, sef cefnogi ein dysgwyr a gwella safonau a deilliannau ar draws ein system ysgolion. Byddwn yn parhau â'n trafodaethau adeiladol gyda rhanddeiliaid ac yn gweithio mewn partneriaeth fel y gallwn gyflawni'r newidiadau ymarferol y mae pob partner am eu gweld.