Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Laura Ashley Group wedi bod yn gyflogwr o bwys yn y Canolbarth ers degawdau, felly roedd yn ergyd drom i’r rhanbarth pan gafodd y Grŵp ei roi yn nwylo gweinyddwyr ddiwedd mis Mawrth eleni. Mae’r cwmni, a gafodd ei sefydlu gan y diweddar Laura Ashley a’i gŵr Bernard, wedi tyfu’n sylweddol ers ei ddyddiau cynnar yng Ngharno, yn y Canolbarth. Mae’r cwmni wedi darparu rhyw 500+ o swyddi yn y Drenewydd lle mae wedi rhedeg y ganolfan alwadau, warysau a chyfleusterau dosbarthu, ynghyd â gweithgynhyrchu paent, papur wal a dodrefn i’r cartref ar Ystadau Fastre a Mochdre yn y dref.

Mae un o Dasgluoedd Llywodraeth Cymru wedi parhau i drafod gyda’r Prif Weithredwr, Ms Katharine Poulter, a’r tîm gweithredol, ynghyd â’r Gordon Brothers (a brynodd y Brand a’r Eiddo Deallusol cysylltiedig mewn cytundeb blaenorol gyda’r gweinyddwyr), PWC, y gweinyddwyr, a chyda phartïon eraill â diddordeb, i geisio sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r cwmni yn y Drenewydd.

Mae’n amlwg bod y newyddion am ragor o ddiswyddiadau yn ddiwethar, ar ben y diswyddiadau a gyhoeddwyd gynt yn y cwmni, yn destun siom. Rydym yn meddwl ar yr adeg anodd hon am yr unigolion yr effeithwyd arnynt, ac rydym yn parhau i gynnig yr holl gymorth sydd ar gael drwy raglenni Cymru’n Gweithio a ReAct.