Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Weinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, â’r portffolio eang sy’n dod gyda hynny.

Mae ein hymgynghoriad ar ein Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant newydd ddod i ben ac fy mae swyddogion wrthi’n ystyried yr ymatebion niferus a ddaeth i law. Mae’r Blaenoriaethau’n cynnwys yr uchelgais bod ein cyrff diwylliant a threftadaeth yn cydweithio â’i gilydd er mwyn sicrhau’r gorau o’u timau arbenigol a’u casgliadau. Mae hyn yn berthnasol i’r gwaith sydd wrthi’n cael ei wneud ar yr Arolwg annibynnol o Drefniadau Llywodraethu Cadw a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023. 

Mae’r diweddariad hwn yn dilyn yr adroddiad manwl y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ym mis Mehefin ac rwy'n falch o gael cefnogi argymhellion yr Adolygiad ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet iddo. Y cam nesaf yw ystyried yr argymhellion hynny drwy Grŵp Llywio mewnol Llywodraeth Cymru a 4 ffrwd waith ar gyfer prosiectau i fynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed o dan y 6 thema allweddol a nodwyd yn yr Adolygiad. 

Mae aelodau'r Grŵp Llywio yn cynnwys Cadeirydd dros dro Cadw, uwch swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr yr Undebau Llafur. Bydd y 4 ffrwd waith, (Llywodraethu Corfforaethol, AD, y Comisiwn Brenhinol a Masnachol – Cadw er lles pawb), yn adrodd i'r Grŵp Llywio, ac yn cynnwys aelodau o Fwrdd Cadw, ac o broffesiynau Adnoddau Dynol, Llywodraethu, Cyllid a Masnachol Llywodraeth Cymru. Bydd pob un ohonynt mewn sefyllfa dda i ddarparu'r wybodaeth a'r arbenigedd sydd eu hangen i weithredu'r argymhellion. 

Adolygu'r berthynas rhwng Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud wrth ymateb i'r argymhelliad i adolygu'r berthynas rhwng Cadw a'r Comisiwn Brenhinol. Mae'r holl opsiynau'n cael eu hystyried, o sicrhau mwy o gysondeb rhwng rhaglenni gwaith i gyfuniad llawn o fewn Llywodraeth Cymru. 

Mae Cadw a'r Comisiwn Brenhinol yn gweithio trwy bartneriaeth gymdeithasol i arwain yr adolygiad hwn. Mae eu Cadeiryddion a'u Prif Weithredwyr yn eistedd ar weithgor ochr yn ochr â chynrychiolwyr undebau llafur o'r ddau sefydliad, arbenigwr treftadaeth allanol annibynnol ac uwch swyddogion eraill o Lywodraeth Cymru. 

Dros yr wythnosau nesaf, bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda staff a rhanddeiliaid ar ystod o opsiynau ar gyfer y berthynas rhwng Cadw a'r Comisiwn Brenhinol yn y dyfodol ac edrychaf ymlaen at dderbyn adroddiad gan y gweithgor. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i chi yn y gwanwyn unwaith y byddaf wedi cael amser i ystyried argymhellion y grŵp.