Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi diweddariad i Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol 2016-17. Mae'r diweddariad hwn yn cymryd i ystyriaeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ddoe o ychwanegiad cyllid o £2.5 miliwn i dri Awdurdod gwledig.
Yn ogystal, mae'r diweddariad yn cymryd i ystyriaeth rai mân newidiadau i’r data sylfaenol.
Mae Tabl 1 yn amlinellu dosbarthiad arfaethedig wedi'i ddiweddaru o Gyllid Allanol Cyfun (yn cynnwys Grant Cynnal Refeniw ac ailddosbarthu Trethi Annomestig) a cyllid ychwanegol rhwng y 22 Awdurdod ar gyfer 2016-17.
O ganlyniad i'r ychwanegiad, mae’r Setliad Llywodraeth Leol o £4.1 biliwn ar gyfer 2016-17, nawr yn cynrychioli gostyngiad o 1.3 y cant (£54 miliwn) o'i gymharu â'r cyllid refeniw cyffredinol a ddarparwyd ar gyfer 2015-16.
Byddaf yn cylchredeg rhagor o fanylion am y diweddariad hwn i Awdurdodau fel eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf i'w galluogi i bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Bydd y Setliad Terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad yn gynnar ym mis Mawrth i'w gymeradwyo yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru.