Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Chwefror eleni, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus am dri mis ar y lefel a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer isafbris am uned o alcohol, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ynglŷn â’n bwriad i osod rheoliadau drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda’r nod o gyflwyno isafbris o 50c ar gyfer alcohol yn nes ymlaen yn 2019.

Yn unol â’r Gyfarwyddeb Safonau a Rheoliadau Technegol 2015/1535/EU, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru y rheoliadau drafft at Gomisiwn yr UE ac yna cafwyd cyfnod segur o dri mis, a oedd yn golygu na châi Llywodraeth Cymru osod y rheoliadau drafft. Ar 22 Mai, cawsom wybod bod un o Aelod-wladwriaethau’r UE wedi cyflwyno barn fanwl ynglŷn â’r rheoliadau drafft. Effaith hynny yw bod y cyfnod segur wedi’i estyn am dri mis arall, tan 21 Awst.

Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’r farn fanwl a dderbyniwyd gan yr Aelod-wladwriaeth ac yn cyflwyno ymateb i Gomisiwn yr UE maes o law. Gan ein bod wedi derbyn y farn fanwl, yr adeg gynharaf y bydd modd inni osod y rheoliadau drafft gerbron y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo eu hystyried fydd yn ystod yr hydref eleni. Os caiff y rheoliadau eu pasio gan y Cynulliad, rwy’n rhag-weld y byddai’r drefn o godi isafbris yn dod i rym yn gynnar yn 2020.

Rwy’n dal yn gwbl ymrwymedig i gyflwyno isafbris ar gyfer alcohol yng Nghymru. Mae alcohol yn achosi llawer o farwolaethau ac afiechydon, a bydd cyflwyno’r isafbris yn gyfraniad pwysig at leihau’r difrod a achosir yng Nghymru gan niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Gan ystyried nifer o ffactorau, rydym yn parhau’n argyhoeddedig fod isafbris o 50c am uned yn ymateb cymesur i daclo’r risgiau iechyd a achosir gan yfed gormod o alcohol. Rydym o’r farn y bydd isafbris o 50c yn taro cydbwysedd rhesymol rhwng y manteision a ragwelir i iechyd y cyhoedd a’r manteision cymdeithasol, ar un llaw, ac ymyrryd yn y farchnad ar y llall. 

Yn y cyfamser, bydd ein paratoadau ar gyfer rhoi’r drefn ar waith yn parhau. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda manwerthwyr, y diwydiant alcohol a rhanddeiliaid ym maes iechyd y cyhoedd a chamddefnyddio sylweddau i lunio canllawiau a deunyddiau ategol ynglŷn â’r isafbris am alcohol. Bydd y gwaith hwn yn parhau, law yn llaw â’r broses o ddatblygu ein cynlluniau gwerthuso a’n hymgyrchoedd cyfathrebu penodol gyda manwerthwyr a’r cyhoedd er mwyn parhau i hyrwyddo nodau’r ddeddfwriaeth o ran iechyd y cyhoedd.