Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y sector gofal cymdeithasol yn un o bwysigrwydd strategol cenedlaethol, ac rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y cyllid yn rhoi’r budd gorau posibl i’r bobl hynny yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth.
Rydym yn ymwybodol iawn o’r pwysau sydd ar y sector hwn ac ar lywodraeth leol. Rydym wedi gwrando ac rydym yn ymateb.
Mae’n hanfodol ein bod yn hybu datblygiad gwasanaethau cymdeithasol sy’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’n sicr bod y sector cyhoeddus yn wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen. Mae angen inni ddal ati i feithrin cadernid.
Rydym yn parhau i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn gofal cymdeithasol er mwyn cefnogi’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill, trwy atal yr angen am ymyriadau mwy costus yn y tymor hwy.
Rydym wedi trawsnewid y ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn adlewyrchu’r sefyllfa sydd ohoni, ac mae newidiadau gwirioneddol yn digwydd yn ymarferol – ond fe wyddom fod mwy i’w wneud. Rhaid i’r canlyniadau i’r person fod wrth wraidd y system bob amser, ac er mwyn cyflawni’r rhain rhaid canolbwyntio’n bennaf ar atal.
Rwy’n cyhoeddi heddiw y bydd yr £20 miliwn o gyllid cylchol ychwanegol, sydd ar gael trwy gyllid canlyniadol yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, yn cael ei fuddsoddi mewn tri phrif faes:
- Bydd £9 miliwn yn cynyddu'r cyllid sydd eisoes ar gael i reoli costau'r gweithlu, a hyrwyddo sefydlogrwydd y farchnad gofal cymdeithasol
- Bydd £8 miliwn yn cefnogi gwaith i atal plant rhag cael eu derbyn i ofal ac i wella’r canlyniadau i'r rhai sydd mewn gofal
- Bydd £3 miliwn yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i helpu gyda gofal seibiant i ofalwyr, o ystyried y gwaith allweddol y maent yn ei wneud
Mae gan y gweithlu gofal cartref a gofal preswyl swyddogaeth allweddol yn ein cymdeithas, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei rhan i fynd i’r afael â’r heriau sy’n bodoli. Byddwn yn helpu i ddarparu gofal o ansawdd da trwy wella’r amodau i’r gweithlu, a byddwn yn gweithio i feithrin sefydlogrwydd a chadernid y sector. Rydym wrthi’n cyflwyno deddfwriaeth i’r perwyl hwn fel rhan o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). At hynny, rydym yn cynyddu’r £10 miliwn sydd eisoes wedi’i gyhoeddi i helpu i leddfu’r pwysau sy’n gysylltiedig â’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd a phlant sydd ar gyrion y byd gofal. Rydym am leihau nifer y plant sy’n gorfod mynd i ofal yn syth ar ôl eu geni, a gwella’r canlyniadau i blant sy’n gadael gofal. Bydd ein buddsoddiad yn adeiladu ar lwyddiant ein Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd, gan ddefnyddio sgiliau a dulliau i annog a helpu mwy o deuluoedd i gydnabod yr heriau y maent yn eu hwynebu ac i ymdrin â’r heriau hynny. Bydd hynny yn ei dro yn lleihau’r angen am ofal. Byddwn hefyd yn trefnu bod prosiect Adlewyrchu Gwent yn cael ei gyflwyno trwy Gymru gyfan. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cymorth i fenywod y mae o leiaf un o’u plant mewn gofal. Bydd yr arian hefyd yn helpu awdurdodau lleol i roi’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol ar waith.
Rydym fel Llywodraeth yn sylweddoli cymaint o gyfraniad y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud, ac rydym wedi gwella hawliau gofalwyr fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae gofalwyr yn asgwrn cefn i’n gallu i ddarparu gofal a chymorth i’r rhai sydd angen gofal iechyd a chymdeithasol. Mae’n ffaith gydnabyddedig bod gofal seibiant a chyfnodau byr o hoe yn bwysig i les y gofalwr a lles y sawl sydd ag anghenion gofal. Rydym wedi cyflwyno cronfa arbennig dan ofal awdurdodau lleol i ddarparu gofal seibiant.
Mae’r £20 miliwn hwn yn golygu bod cyfanswm o £55 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn 2017/18.
Rhoddwyd hwb ychwanegol o £25 miliwn i’r Grant Cynnal Refeniw a dyfarnwyd grant o £10 miliwn i awdurdodau lleol i helpu i leddfu’r pwysau sy’n gysylltiedig â’r Cyflog Byw Cenedlaethol.