Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn gynharach heddiw, cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol ein hachos cyntaf yma yng Nghymru – rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi bod yn cynllunio ar ei gyfer dros nifer o wythnosau.
Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ganfod yn gynnar achosion sydd wedi cyrraedd yma o dramor a'u hynysu i osgoi unrhyw ledaeniad pellach. Hoffwn ddiolch i bob aelod o staff sydd wedi bod yn gweithio mor galed i baratoi ein hymateb i'r digwyddiad iechyd y cyhoedd hwn.
Roedd disgwyl y datblygiad diweddaraf hwn a dylai pobl barhau i ddilyn ein cyngor – os ydych wedi dychwelyd o ardal yr effeithir arni neu os ydych yn pryderu'ch bod wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos sydd wedi'i gadarnhau, ni ddylech fynd i'ch meddygfa nac i Adrannau Brys ysbytai. Dylech ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu 111 Cymru, os yw ar gael yn eich ardal. Bydd gwneud hyn yn golygu'ch bod yn cael eich asesu gan y staff cywir yn y Gwasanaeth Iechyd wrth hefyd gyfyngu ar y posibilrwydd o’i ledaenu i eraill.
Gall pawb helpu i leihau’r siawns o ledaenu unrhyw feirws anadlol. Y cyngor yw ei ddal, ei roi yn y bin, ei ladd a golchi’ch dwylo.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn y Siambr ddydd Mawrth.