Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Hoffwn roi diweddariad i’r aelodau ynghylch ein gwaith parhaus i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar addysg, ac i sicrhau bod pob lleoliad yn parhau i fod mor ddiogel â phosibl.
Hoffwn ddiolch eto i’r gymuned addysg am ei gwaith caled parhaus i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae presenoldeb yn yr ysgol wedi cynyddu am yr ail wythnos yn olynol. Roedd cyfartaledd o 87.4% o’r holl ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros yr wythnos rhwng 4 Hydref ac 8 Hydref. Mae hyn yn ystod cyfnod ble mae trosglwyddiad y feirws o fewn y gymuned yn parhau i fod yn uchel iawn.
Er fy mod yn falch bod presenoldeb yn parhau i gynyddu, ochr yn ochr â’r gwaith dadansoddi data yr ydym yn ei wneud yn barhaus, mae’n bwysig bod gennym y dealltwriaeth gorau posibl o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd. Felly, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gynnal adolygiad cynhwysfawr o batrymau presenoldeb, i lywio’r gwaith o ddatblygu ymyriadau polisi yn y maes hwn yn y dyfodol. Byddwn yn dadansoddi a dehongli ffynonellau data ar gyfraddau presenoldeb/diffyg presenoldeb yn ysgolion Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid ym maes addysg i gasglu gwybodaeth am y sefyllfa sy’n datblygu a pha fesurau/ymyriadau sydd eu hangen i ymgysylltu’n well â dysgwyr. Cyhoeddwyd canllawiau presenoldeb diwygiedig i ysgolion yr wythnos hon hefyd, i adlewyrchu’r cyd-destun presennol.
Mae’n ymddangos bod cyfraddau heintio ymysg plant a phobl ifanc 10 – 19 oed yn sefydlogi, fel y gwelir yn ystadegau wythnosol Addysg Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn unol â modelu Llywodraeth Cymru. Er hyn, mae’n bwysig ein bod yn parhau i fod yn ofalus a bydd rhaid inni aros ychydig wythnosau cyn cadarnhau tuedd.
Ychydig iawn o blant a phobl ifanc iach sy’n datblygu salwch difrifol ar ôl dal haint Covid-19. Er hyn, gwyddom y gall y rhaglen frechu chwarae rôl allweddol o ran lleihau lledaeniad y feirws, gan helpu hefyd i leihau’r angen i blant gael amser i ffwrdd o’r ysgol. Felly, rwy’n falch o gadarnhau’r canlynol:
- Mae 85% o’r boblogaeth dros 16 oed wedi’u brechu’n llawn
- Mae bron i 74% o bobl ifanc 16 – 17 oed wedi’u brechu
- Mae mwy na 22% o blant a phobl ifanc 12 – 15 oed yn awr wedi cael brechlyn. Rydym ar y trywydd iawn i gynnig un dos i bob plentyn a pherson ifanc 12 – 15 oed erbyn 1 Tachwedd
- Mae 93% o’r gweithlu addysg wedi’u brechu
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio gwybodaeth i blant a rhieni am y brechlyn. Rwy’n annog teuluoedd i drafod dros hanner tymor os nad ydynt wedi penderfynu eto. Dychrynais gyda’r adroddiadau o aflonyddu mewn canolfan frechu y penwythnos diwethaf. Er nad yw brechlynnau’n cael eu rhoi mewn ysgolion gan amlaf, rydym wedi anfon canllawiau at ysgolion i’w helpu i ddelio ag achosion o aflonyddwch gwrth-frechlyn a gwybodaeth gelwydd pe byddent yn cael eu targedu.
Rydym wedi cyhoeddi cyngor ychwanegol yr wythnos hon i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â risg glinigol uwch ac oedolion sy'n agored iawn i niwed yn glinigol mewn lleoliadau addysg. Mae hyn wedi'i gyd-gynhyrchu gyda rhanddeiliaid yn dilyn galwadau am wybodaeth ychwanegol. Hoffwn ddiolch iddynt am ymgysylltu adeiladol wrth ddatblygu'r canllawiau hyn i gefnogi ysgolion.
Rwy’n ymwybodol bod pryderon am gael gafael ar athrawon cyflenwi oherwydd salwch staff, neu oherwydd bod staff yn aros am brofion PCR, er enghraifft. Rwy’n ymwybodol, o’r asiantaethau fframwaith, bod gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl, ac mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i drafod hyn ar frys. Gallaf hefyd gadarnhau ein bod yn parhau i ddarparu cyllid drwy’r Gronfa Galedi i helpu gydag athrawon cyflenwi ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu sy’n sâl gyda Covid-19, neu sy’n gorfod hunanynysu. Bydd hyn yn parhau tra bo’r cyfraddau yn uchel.
Mae’r dyfeisiau monitro CO2 wedi dechrau cael eu danfon yr wythnos hon. Dyma’r cyntaf o dri chyflenwad, lle bydd 30,000 o ddyfeisiau monitro yn cael eu darparu i awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion i’w dosbarthu ar draws ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd seminar a darlithfeydd. Dylai’r gwaith o gyflwyno’r ‘dyfeisiau monitro goleuadau traffig’ fod wedi’i gwblhau erbyn canol mis Tachwedd. Mae canllawiau ar ddefnyddio’r dyfeisiau monitro CO2 newydd wedi’u llunio gyda phartneriaid allweddol ac wedi’u hanfon at awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion.
Yn olaf, rydym yn darparu £3.31 miliwn i wella awyru mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, i greu amgylcheddau dysgu mwy diogel i ddisgyblion, myfyrwyr a staff. Bydd y buddsoddiad hwn ar gyfer gwella awyru, ynghyd â chyflwyno dyfeisiau monitro CO2, yn helpu i wella ansawdd aer mewn ysgolion a sicrhau tawelwch meddwl ynghylch hynny wrth inni symud i’r misoedd oerach. Roedd y cyllid yn wreiddiol wedi’i neilltuo dros dro i beiriannau Osôn ar gyfer lleoliadau addysg. Mae adolygiad gan Grŵp Cynghori Technegol ar sail crynodeb cyflym o’r dystiolaeth gan Ganolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, yn dod i’r casgliad bod mesurau eraill – fel gwella awyru – yn fwy effeithiol o ran lleihau lledaeniad COVID-19.
Caiff ein dulliau gweithredu eu llywio gan y dystiolaeth ddiweddaraf, yr ydym yn ei hadolygu'n barhaus a thrwy drafodaethau gyda'n partneriaid ym mhob rhan o'r system addysg.
Edrychaf ymlaen at siarad â'n holl benaethiaid yng Nghymru yn ddiweddarach heddiw am sut y gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol fel y gallwn gefnogi ein holl ddysgwyr i symud ymlaen a ffynnu. Byddaf yn cyfarfod â dysgwyr hefyd, i glywed yn uniongyrchol eu barn a'u profiadau o ysgolion a cholegau ar hyn o bryd ac yn y misoedd i ddod.