Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fis diwethaf fe hysbysais yr Aelodau am gynlluniau ar gyfer diwygiadau mawr i’r system cyfiawnder teuluol, yn dilyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol. Bydd y diwygiadau’n helpu i gryfhau’r broses rianta, yn mynd i’r afael ag oedi wrth symud achosion drwy’r llysoedd ac yn symleiddio’r system gymhleth sy’n ymdrin â materion datganoledig yn ogystal â rhai sydd heb eu datganoli. Hoffwn ddiolch yn arbennig i swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a phawb a fu wrthi’n cynnal y momentwm wrth i’r gwaith pwysig hwn fynd rhagddo.  

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r cynnig i greu Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Gymru a Lloegr a fydd yn darparu gwell arweiniad a chydlyniant ar draws asiantau cyflawni yn genedlaethol a lleol, ac o ran paratoi ar gyfer unrhyw newidiadau dilynol i’r system. Bydd aelodau’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr allweddol o Gymru, gan gynnwys Cymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) a Cafcass Cymru, yn ogystal ag uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru, a fydd yn cynghori ar y cyd-destun Cymreig penodol ac agweddau datganoledig allweddol o’r system cyfiawnder teuluol. Rwyf i’n arbennig o awyddus ein bod ni drwyddynt hwy’n parhau i sicrhau bod hawliau a lleisiau plant wrth galon y broses yng Nghymru.

I gefnogi’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol, ac yn benodol y cynrychiolwyr o Gymru sy’n eistedd arno, rwyf hefyd wedi ymrwymo i sefydlu Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol newydd yng Nghymru a fydd yn dod â’r grwpiau allweddol o fewn y system cyfiawnder teuluol at ei gilydd ar lefel Cymru gyfan. Bydd hyn yn creu cymuned leol o ddealltwriaeth a diben cyffredin er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau i blant a theuluoedd yng Nghymru. Yn benodol rwy’n rhagweld y bydd y Rhwydwaith yn:

  • Ategu, cefnogi a chynorthwyo gwaith y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol, ac yn benodol y cynrychiolwyr o Gymru sy’n eistedd arno, drwy gynghori ar y cyd-destun penodol Cymreig a sicrhau bod y Bwrdd yn rhoi ystyriaeth i’r persbectif Cymreig ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli mewn perthynas â’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru;
  • Sicrhau ymrwymiad yr holl grwpiau allweddol o fewn agweddau datganoledig y system cyfiawnder teuluol yng Nghymru (gan gynnwys llywodraeth leol, Cafcass Cymru a’r GIG) i waredu rhwystrau ac i lywio a chyflawni camau gweithredu penodol sy’n deillio o’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol, er mwyn sicrhau gwelliannau sylweddol ym mherfformiad y system yng Nghymru a sicrhau’r canlyniadau gorau bosibl i blant sy’n dod i gysylltiad â hi;
  • Darparu fforwm i ddynodi, rhannu a monitro’r ffordd y mae arferion gorau a gwybodaeth yn cael eu rhoi ar waith yn lleol; ceisio herio, annog gwell perfformiad a meithrin gwell cysylltiadau a gwell cydlyniant rhwng asiantaethau a mynd i’r afael ag amrywiaeth o ran perfformiad ac arfer yn lleol; ac annog rhanddeiliaid allweddol eraill i ymwneud yn ehangach â’r broses yng Nghymru, fel modd o sicrhau gwelliannau parhaus a gwell canlyniadau i blant;
  • Darparu cyswllt angenrheidiol rhwng y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol ar lefel Cymru a Lloegr a’r Byrddau Gweithredu Lleol ar gyfer Cyfiawnder Teuluol yng Nghymru, a fydd yn goruchwylio’r broses o roi cyfiawnder teuluol ar waith yn eu hardaloedd, er mwyn sicrhau bod y system gyfan yn cael ei hystyried wrth fynd ati i sicrhau gwelliant sylweddol ym mherfformiad y system cyfiawnder teuluol.

Byddwn yn trefnu i’r Rhwydwaith gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Ebrill, i gyd-fynd â sefydlu’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol. Yn ogystal â chynrychiolwyr o Gymru ar y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol, byddwn yn gwahodd rhanddeiliaid allweddol eraill i fod yn rhan o’r Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol, gan gynnwys y farnwriaeth, y Comisiynydd Plant, Cyngor Gofal Cymru, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, yr Heddlu, cynrychiolwyr o’r Byrddau Gweithredu Cyfiawnder Teuluol Lleol newydd, y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a SOLACE. Bydd rhanddeiliaid ehangach hefyd yn cael gwybodaeth reolaidd am weithgareddau’r Rhwydwaith, a bydd modd iddynt ymwneud â’r datblygiadau drwy gyfrwng rhith-dudalen ar y we.

Mae ein hymrwymiad i weithredu’r meysydd hynny yn yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol sy’n dod o fewn cylch gorchwyl Llywodraeth Cymru yn glir. Byddwn yn parhau i gydweithio o fewn y Llywodraeth a chyda phartneriaid, yn ogystal â thrwy ein Rhwydwaith newydd, i gyflawni’r agenda uchelgeisiol hon.

Byddaf yn rhoi diweddariad arall i’r Cynulliad yn yr haf.