Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
A hithau bron blwyddyn ers i Gynllun Cartrefi i Wcráin a llwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru agor, hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar ein cynlluniau i barhau i gefnogi pobl sy'n ffoi o'r rhyfel, ac i helpu'r rhai sydd eisoes yng Nghymru i symud i lety tymor hwy.
Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru, a gafodd ei phasio yn y Senedd yr wythnos diwethaf, yn amlinellu buddsoddiadau gwerth £40 miliwn i gefnogi pobl o Wcráin sy'n ymgartrefu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU lefel is o gyllid cyn y Nadolig, ymrwymais i weithio'n agos gyda'n partneriaid yn awdurdodau lleol i ailwerthuso ein strategaeth i sicrhau y gellid darparu cymorth i bawb y mae ei angen arnynt. Mae dyrannu'r cyllid hwn yn amlinellu ein ymrwymiad parhaus i fod yn Genedl Noddfa, ac i integreiddio'r rhai rydym eisoes wedi'u croesawu ac i helpu'r rhai nad ydynt wedi cyrraedd i ymgartrefu.
Ers dechrau ymosodiad gormesol Rwsia o dan arweiniad Putin, mae 6,500 wedi dianc ac wedi dod o hyd i le diogel yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys ymateb gwych gan Dîm Cymru i ryfel erchyll a pharhaus. Hoffwn i diolch yn swyddogol i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth barhaus. Rhan hanfodol o'r llwyddiant hwn fu'r cymorth parhaus a brwd gan aelwydydd Cymru sydd wedi agor eu cartrefi a'u calonnau i'r rhai mewn angen.
Un o'r ffyrdd y bydd y gyllideb o £40 miliwn yn cael ei wario yw £2.5 miliwn i alluogi awdurdodau lleol i gynyddu taliadau ‘diolch’ ar gyfer pobl yng Nghymru sy'n cynnig llety i bobl o Wcráin o 1 Ebrill ymlaen – i fyny o £350 y mis ar hyn o bryd i £500 y mis – o'r adeg mae'r gwiriadau wedi cael eu cwblhau tan ddiwedd y 12 mis cyntaf yn y DU. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd i £500 y mis ond dim ond o'r 12fed mis tan yr 24ain mis ar ôl cyrraedd. Mae hyn yn unigryw i Gymru yn dilyn y setliad a gynigiwyd gan y DU, a fu'n destun siom, ac mae'n cydnabod cyfraniad enfawr y rhai sy'n cynnig llety, yn ogystal â'r effaith mae'r argyfwng costau byw digynsail yn ei chael.
Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd Tîm Cymru yn canolbwyntio ar helpu gwesteion o'r Wcráin i symud i lety tymor hwy. Mae ychydig dros 1,500 eisoes wedi symud i lety tymor hwy. Er y bydd £30.8 miliwn yn parhau i fod ar gael i gefnogi gwesteion sy'n aros mewn llety cychwynnol, byddwn yn bwrw ymlaen â symud gwesteion o'u llety cychwynnol i lety tymor hwy yn raddol yn ystod y flwyddyn ariannol newydd.
Er bod Llywodraeth y DU wedi dewis torri'r cyllid hanfodol sydd ei angen ar awdurdodau lleol i lefelau sy'n is o lawer na lefelau y gellir eu lliniaru, rydym yn benderfynol o gefnogi cynghorau i helpu pawb yng Nghymru y mae angen cartref arno.
Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a phartneriaid i gynyddu capasiti'r opsiynau llety ansawdd uchel, gan gynnwys sicrhau rhagor o lety gan aelwydydd, a chyn bo hir byddwn yn lansio ymgyrch i annog rhagor o bobl i gynnig llety. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi a chynyddu mynediad i'r sector rhentu preifat ar gyfer pawb y mae angen cartref arnynt. Yn hyn y beth rydym yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i annog landlordiaid i gynnig eu heiddo.
Os ystyried y pwysau ehangach yn y sector tai a'r effaith gadarnhaol mae'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Trosiannol wedi'i chael wrth ddarparu cartrefi o ansawdd uchel yn gyflym, gyda chymorth Plaid Cymru mae rhagor o gyllid bellach ar gael, gan wneud cyfanswm o £89 miliwn yn 2022–23. Bydd hyn yn gweld dros 1,300 o gartrefi ychwanegol yn cael eu darparu yng Nghymru yn ystod y 18 mis nesaf, i ategu ein nod i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at lety addas.
Dyma pam byddwn yn darparu cymorth gwerth £2 miliwn i helpu pobl i symud ymlaen, gan roi cymorth i awdurdodau lleol i helpu Wcreiniaid i ddod o hyd i lety tymor hwy, ac i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer achosion mwy cymhleth.
Bydd ychydig o dan £2 miliwn ar gael hefyd er mwyn i gynghorau ddarparu cymorth yn ôl disgresiwn fel addysg, gwersi iaith a rhaglenni cyflogadwyedd yn ôl eu disgresiwn, i greu rhagor o annibyniaeth bersonol ac i helpu pobl i ailymgartrefu. Rhoddir hyblygrwydd i gynghorau ynghylch sut i ddefnyddio'r arian fesul achos, gan mai nhw sy'n gwybod yr anghenion lleol orau.
Rwy'n falch o nodi y bydd y Tocyn Croeso yn cael ei estyn i'r flwyddyn ariannol nesaf, ac mae trafodaeth am gymorth pellach yn mynd rhagddynt. Mae hyn yn parhau i fod yn rhan bwysig o sicrhau bod gwesteion yn derbyn cymorth i ymgartrefu yng Nghymru. Rwyf wedi dyrannu hyd at £100k mewn egwyddor i gefnogi datblygu cynllun tymor hwy.
Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gymorth yn Wcráin, yn ogystal â'r cymorth a roddir i bobl sydd wedi ceisio diogelwch a noddfa yng Nghymru.