Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mewn ymateb i'r cyfnod hir o dywydd gwlyb, yn ddiweddar cadeiriais 'Uwchgynhadledd Tywydd Eithafol' gyda phartneriaid amaethyddol allweddol i drafod ei effaith ar ffermwyr a thyfwyr. Roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i archwilio'r effeithiau a thrafod y camau y gallai'r Llywodraeth a'r gadwyn gyflenwi eu cymryd gyda'i gilydd i ddelio â'r amgylchiadau y mae rhai ffermwyr yn eu hwynebu. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai a roddodd o'u hamser ar fyr rybudd ac am eu mewnbwn adeiladol. Rwyf wedi ymrwymo i gynnal cyfarfodydd rheolaidd â phartneriaid. Rwyf hefyd yn bwriadu cynnal cyfarfodydd â'r sectorau bancio a manwerthu.
Er bod y tywydd wedi gwella ychydig yn ddiweddar, bydd yr oedi cyn cael mynediad i weithio ar y tir a chostau cynyddol yn ystod misoedd y gaeaf estynedig yn cael effeithiau yn y tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor.
Yn y tymor byr, rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith ar deuluoedd ffermio, ac rwy'n glir bod angen inni ymdrin â'r mater hwn drwy gyfathrebu a ffordd ymarferol o weithredu. Mae iechyd meddwl y rhai sy'n gysylltiedig â'r diwydiant amaethyddol yn peri pryder mawr imi, ac rwy'n annog unrhyw un sy'n dioddef o straen neu broblemau iechyd meddwl eraill i ofyn am gymorth. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn chwarae ei rhan. Os bydd ffermwyr yn cael unrhyw anawsterau wrth fodloni gofynion eu contractau, o ganlyniad i'r cyfnod hir hwn o dywydd gwlyb, dylent gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru cyn gynted â phosibl i drafod eu hopsiynau neu i ofyn am randdirymiad. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol.
Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn monitro'r effaith y gallai'r tywydd gwlyb ei chael ar ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru, gan gynnwys drwy Grŵp Monitro Marchnad Amaethyddol y DU, a byddaf yn trafod â Gweinidogion y Llywodraethau Datganoledig yng nghyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar 1 Mai.
Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol. Mae'n rhaid inni weithredu heddiw i addasu a lleihau'r effeithiau – gan gymryd camau i adeiladu cydnerthedd yn erbyn effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd.
Yn y tymor hwy, mae effaith y tywydd gwlyb presennol yn dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn cydnerthedd, ac yn ystod yr Uwchgynhadledd clywais am broblemau sylweddol mewn perthynas â chapasiti ar gyfer storio slyri.
Felly, heddiw mae'n dda gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y pecyn o fesurau y mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi'u cytuno arnynt er mwyn bwrw ymlaen â gweithredu'r ymrwymiad perthnasol yn y Cytundeb Cydweithio.
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 wedi'u cynllunio i helpu Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd ac isafonydd. Er mwyn galluogi ffermwyr i gyfrannu at y canlyniadau hyn, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd dau gynllun a fydd yn cefnogi buddsoddi yn benodol ar seilwaith fferm, sef y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau a'r cynllun Grantiau Bach – Gorchuddion Iardiau, yn agor yn fuan ac mae £20 miliwn wedi cael ei neilltuo i gefnogi ffermwyr i gydymffurfio â'r Rheoliadau.
Mae'r ddau gynllun wedi cael eu cynllunio i alluogi ffermwyr i fynd i'r afael â rheoli a storio maethynnau drwy ddarparu cymorth ar gyfer capasiti storio slyri ychwanegol a/neu atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i storfeydd slyri i leihau lefel y capasiti storio sydd ei hangen. Rwyf wedi penderfynu cynyddu'r cymorth i ddarparu cyfraniad uchaf o 50% tuag at rai costau prosiect a bydd canllawiau manwl ar gael yn fuan.
Wrth wneud y cyhoeddiad hwn heddiw, rwyf hefyd yn ailadrodd ein hymrwymiad parhaus, o dan y Cytundeb Cydweithio, i weithio gyda'r gymuned ffermio i ddefnyddio'r rheoliadau i wella ansawdd dŵr ac aer, gan dargedu'r gweithgareddau hynny y gwyddom eu bod yn achosi llygredd.