Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Ym mis Medi 2022 cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar adroddiad terfynol y Panel Adolygu Ffyrdd. Hoffwn i ddiolch i’r cadeirydd Dr Lynn Sloman a’r panel am eu gwaith caled ac am yr adroddiad cynhwysfawr a phwysig hwn.
Mae’r Adolygiad o’r Ffyrdd yn gwneud argymhellion am bolisi trafnidiaeth yn ogystal â beirniadu’r 55 o gynlluniau ffyrdd sydd ar y gweill yn erbyn y polisi presennol.
Mae ymateb i’r argymhellion yn ddarn cymhleth o waith sydd wedi’i gymhlethu ymhellach gan y gostyngiad sylweddol yn ein grym gwario yn dilyn chwalfa ariannol Llywodraeth y DU. O ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref bydd cyllidebau cyfalaf Llywodraeth Cymru 8.1% yn is yn 2024-25.
Mae’n bwysig ein bod ni nawr yn ystyried ein hymateb llawn i’r Adolygiad o’r Ffyrdd, yng ngoleuni’r sefyllfa ariannol ac economaidd waeth mae Llywodraeth y DU wedi’i pheri.
Byddwn yn cyflwyno ein hymateb, ynghyd â’r cynlluniau hynny y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw, yn ein Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan.