Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Addewais i’r Senedd ar 30 Ionawr 2019 y byddwn i’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau cyn toriad y Pasg am ein hymateb i’r adroddiad annibynnol “Strwythur a Llywodraethiant Gwybodeg Iechyd yng Nghymru yn y Dyfodol”.
Sefydlodd Prif Weithredwr GIG Cymru grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried prif argymhellion yr adroddiad, sef:
- Sefydlu prif swyddog digidol ym maes iechyd er mwyn cryfhau’r arweinyddiaeth ddigidol yn genedlaethol;
- Sefydlu awdurdod safonau newydd a gwneud safonau gwybodeg yn orfodol;
- Sefydlu tîm datblygu digidol newydd i gefnogi arloesedd ac i gyflymu’r gwaith cyflawni, gan bennu blaenoriaethau cenedlaethol;
- Dwyn ynghyd y gwasanaethau gwybodeg rhanbarthol a chenedlaethol gwasgaredig presennol i ffurfio trefniant cydwasanaethau ar gyfer seilwaith a chyflawni ym maes data.
Mae’r grŵp hwn, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o holl sefydliadau rhanddeiliaid GIG Cymru, wedi cyfarfod dair gwaith.
Yn ystod yr wythnosau nesaf rwyf hefyd yn disgwyl derbyn adroddiad yr “Adolygiad o Saernïaeth Ddigidol y GIG yng Nghymru”. Mae’n amlwg y bydd angen i unrhyw newid y cynigir ei wneud i’r trefniadau llywodraethu gael ei ystyried yng ngoleuni argymhellion yr adolygiad hwnnw.
Rwyf wedi gofyn i swyddogion roi gwybodaeth imi am y ddwy set o argymhellion, gan gynnwys nodi ble mae’r argymhellion yn cyd-fynd â’i gilydd neu â’n hymrwymiadau yn Cymru Iachach: ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y gwaith hwn yn llywio ein blaenoriaethau a’r modd y dyrennir y £25m o gyllid Cyfalaf a’r £25m o gyllid Refeniw yr ydym wedi’i ymrwymo i gefnogi’r gwaith o roi Cynllun Gwybodeg Cenedlaethol 2019/2020 ar waith.
Yn Cymru Iachach, cydnabyddir bod dulliau digidol yn allweddol er mwyn ein galluogi i gyflawni’r trawsnewidiad sydd ei angen er mwyn cyflawni ein hagenda uchelgeisiol. Mae’n hanfodol bod strwythur a llywodraethiant gwybodeg iechyd yng Nghymru yn addas i’r diben er mwyn cefnogi’r trawsnewidiad hwnnw.
Rhaid i’r trefniadau at y dyfodol adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn barod, er enghraifft o ran sicrhau un ffordd o weld cofnodion cleifion drwy Gymru, a’r partneriaethau sydd wedi’u sefydlu eisoes gyda phrifysgolion a phartneriaid eraill.