Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Ym mis Ionawr cyhoeddais fy mod wedi penodi Roger Lewis i arwain grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu llywodraethiant Cadw. Mae'n bleser gen i roi diweddariad ar hyn.
Mae Cadw yn parhau i adfer o’r pandemig - gyda chynnydd cryf yn nifer yr ymwelwyr ac yn ei incwm.
Mae'r adolygiad yn ddilyniant i'r adolygiad yn 2017, a oedd yn ystyried y gwahanol fodelau gweithredu ar gyfer Cadw. Roedd yr adolygiad hwn yn argymell y dylai Cadw aros fel rhan o’r llywodraeth fel 'asiantaeth fewnol'. Ar y pryd, cytunwyd y byddai angen pum mlynedd i sefydlu’r trefniadau hyn. Mae pum mlynedd wedi pasio erbyn hyn ac rwy’n credu ei bod bellach yn amser i ni ystyried pa mor effeithiol fu'r gwelliannau busnes hyn.
Bwriad y gwelliannau busnes oedd hwyluso gwell cynllunio a darparu mwy o hyblygrwydd i fedru recriwtio o fewn cyllidebau er mwyn caniatáu i Cadw barhau i ddatblygu ei fusnes ymwelwyr a'i weithgareddau masnachol a chefnogi ei waith hanfodol o reoli a gwarchod treftadaeth Cymru a chyflawni ei gyfrifoldebau deddfwriaethol a pholisi.
Roedd y prif welliannau busnes yn cynnwys sefydlu bwrdd gweithredu mewnol ar gyfer Cadw (gan gynnwys aelodau anweithredol) a system ffurfiol o ddirprwyo a rhyddid mewnol (gan gynnwys ariannol, gweithredol, AD, caffael a dirprwyaethau eraill).
Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys tîm cydlynu bach sy’n cynnwys cadeirydd bwrdd Cadw Jane Richardson, ac Emma Plunkett-Dillon, gynt o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac arbenigwr gyda blynyddoedd o brofiad yn y sector treftadaeth.
Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen ehangach yn cynnwys ystod o arbenigwyr a fydd yn rhoi cyngor ar nifer o wahanol agweddau ar swyddogaethau Cadw. Maen nhw'n cynnwys:
- Henry Owen-John – y mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Comisiynydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, dirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent a chyfarwyddwr rhanbarthol Historic England
- Martin Cherry – cyn-bennaeth rhestru a chyfarwyddwr ymchwil Historic England
- Nichola Andrews – cyfarwyddwr grŵp yn Historic Royal Palaces
- Roger Thomas – cyn-uwch bartner yn Eversheds
- Ruth Fabby – cyn-gyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru
- Steven Foulston – uwch-weithredwr mewn adnoddau dynol yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden
- Sarah Dickins - cyn-ohebydd busnes ac economeg BBC Cymru.
Hefyd, bydd yn cynnwys cynrychiolwyr undebau llafur a staff a bydd yn nodi nifer o ymgyngoreion allweddol.
Rydw i wedi gofyn i’r grŵp gyflwyno ei ganfyddiadau cychwynnol erbyn mis Mehefin a llunio argymhellion drafft ym mis Medi. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol ym mis Hydref 2023.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.