Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae’r datganiad hwn yn adeiladu ar gyfres o ddatganiadau blaenorol  yr wyf wedi’u cyhoeddi i roi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am ddatblygiadau’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol o ran achosion cyfraith deuluol (cyfraith gyhoeddus a phreifat) yng Nghymru a Lloegr.  

Fe gofiwch i’r adolygiad nodi nifer o newidiadau i’w gwneud i Ddeddf Plant 1989 er mwyn i ni allu diwygio’r system cyfiawnder teuluol. Rwyf wedi parhau i gydweithio’n agos â’r Adran Addysg a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyflawni’r diwygiadau hyn. Ym mis Mawrth sefydlais Rwydwaith Cyfiawnder Teuluol i Gymru i hwyluso gweithredu’r diwygiadau ac i feithrin amgylchedd newydd ar gyfer newid diwylliant ac arferion ar draws holl gyfranogwyr y system cyfiawnder teuluol yng Nghymru.  

Mae cynnydd da wedi’i wneud ar sawl lefel ac ar 3 Medi cyflwynwyd cymalau drafft ar gyfiawnder teuluol i Senedd y DU. Mae hyn yn gam allweddol i alluogi’r broses graffu gan Ddau Dŷ’r Senedd, gan gychwyn gyda Phwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Gyfiawnder. Bydd y cymalau’n cael eu cynnwys (yn rhan o becyn ehangach o fesurau) ym Mil Plant a Theuluoedd yr Adran Addysg.

Isod ceir amlinelliad o nodau’r cymalau. Maent yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus a phreifat ac i’w cyflwyno bydd angen newidiadau mawr i rai o egwyddorion allweddol Deddf Plant 1989 sydd, hyd yn hyn, wedi aros yn ddigyfnewid ers ei chyflwyno ym 1991.

Cyfraith Gyhoeddus

Nododd yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol fod oedi yn y broses yn fater sylfaenol yr oedd angen rhoi sylw iddo. Nod y cymalau arfaethedig yw cwtogi ar hyd achosion drwy sicrhau rheoli mwy amserol ac effeithlon, gydag anghenion ac amserlenni’r plant yn cael eu hadlewyrchu’n well ym mha mor gyflym y bydd achosion yn symud yn eu blaen. Bydd y cymalau drafft hefyd yn helpu i ddileu dyblygu, drwy gyfyngu ar rôl y llysoedd o ran archwilio’r cynllun gofal a thrwy leihau nifer y gorchmynion interim sy’n cael eu hadnewyddu.

Nod y cymalau arfaethedig yw:

  • sefydlu terfyn amser o 26 wythnos ar y mwyaf i gwblhau achosion gofal a goruchwylio, gyda’r posibilrwydd o estyn achos am hyd at wyth wythnos ar y tro os bydd angen hynny i ddod ag achos i ben yn gyfiawn; 
  • sicrhau bod penderfyniadau ynghylch amserlen yr achos ond yn cael eu gwneud ar ôl i’r effeithiau ar les y plentyn a’r amserlen gael eu hystyried;
  • dileu dyblygu drwy sicrhau bod Gorchmynion Gofal Interim a Gorchmynion Goruchwylio Interim yn cyd-fynd â therfyn amser cyffredinol yr achos;
  • egluro rôl y llysoedd o ran archwilio’r cynllun gofal, drwy hoelio sylw’r llys ar y materion hynny sy’n hanfodol i benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn, hynny yw darpariaethau’r cynllun gofal sy’n nodi’r cynllun hirdymor ar gyfer magwraeth y plentyn; ac
  • egluro bod tystiolaeth arbenigol mewn achosion teuluol yn ymwneud â phlant yn cael ei chaniatáu, ond dim ond pan fydd ei hangen i ddod â’r achos i ben yn gyfiawn; a rhaid ystyried ffactorau yn cynnwys yr effaith ar les y plentyn, ac ar amserlen, hyd a threfniadaeth yr achos, wrth benderfynu a oes angen tystiolaeth arbenigol. 

Cyfraith Breifat 

Mae dwy brif agwedd i ddiwygio’r system cyfraith breifat: mesurau i annog rhieni sy’n gwahanu i ddatrys eu hanghydfodau y tu allan i’r llys bob cyfle posibl; a mesurau, os bydd angen i’r llys ymyrryd, i sicrhau bod hyn yn gallu digwydd yn gyflym ac yn effeithiol, gan roi sylw i’r manteision i blant o gynnwys y ddau riant yn eu magwraeth, os nad oes pryderon diogelwch neu bryderon eraill yn ymwneud â lles.

Mae’r cymalau drafft yn ymwneud â thair agwedd ar y diwygiadau hyn:

  • gofyniad i unigolyn sy’n cyflwyno cais i’r llys ynghylch trefniadau gofal plant neu sy’n ceisio rwymedi ariannol dderbyn gwybodaeth am yr opsiwn i ddatrys anghydfod mewn Cyfarfod Cyfryngu ac Asesu Gwybodaeth.
  • cael gwared â gorchmynion preswyliad a chyswllt a chyflwyno gorchymyn newydd – gorchymyn trefniadau’r plentyn – yn eu lle i helpu i hoelio sylw ar anghenion plant ac i leihau’r argraff fod ‘enillwyr a chollwyr’ mewn achosion llys.
  • mesurau i symleiddio proses y llys ar gyfer ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil fel y gellir delio ag achosion diwrthwynebiad yn weinyddol.
  • Bwriedir hefyd i’r cymal arfaethedig ar arbenigwyr fod yn gymwys i achosion cyfraith breifat yn ymwneud â phlant.
Er nad ydynt yn rhan o’r cymalau, mae’r diwygio’n cynnwys cynigion i annog: rhianta ar y cyd; cryfhau’r sancsiynau gorfodi sydd ar gael i’r llysoedd o ran cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus; a chyswllt rhwng plant a rhieni biolegol cyn ac ar ôl mabwysiadau. Bydd cymalau drafft ar gyfer y mesurau hyn yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn yr hydref ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Bydd y cymalau arfaethedig (a nodwyd uchod) hefyd yn effeithio ar feysydd lles plant a systemau llys datganoledig yng Nghymru, yn ogystal ag ar weithrediadau CAFCASS Cymru ac awdurdodau lleol. Mae yna orgyffwrdd â’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol arfaethedig i Gymru y byddaf yn ei gyflwyno i’r Cynulliad yn gynnar yn 2013, er mwyn gwireddu fy ngweledigaeth o Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy sy’n seiliedig ar wasanaeth integredig i alluogi Pobl i wella’u lles hyd yr eithaf. 

Byddaf yn parhau i gydweithio’n agos â Whitehall wrth iddynt ddatblygu’r Bil Plant a Theuluoedd ac Ymgynghoriad yr Adran Iechyd ar y Bil Gofal a Chymorth drafft i oedolion yn Lloegr, i sicrhau nad oes anghysonderau ar draws ein gweinyddiaeth na rhwystrau i fwrw ymlaen â’r polisïau a’r ymrwymiadau penodol i Gymru a nodwyd gennym yn y Rhaglen Lywodraethu.

Rwy’n awyddus i’r ymgysylltu hwn barhau, a byddaf yn parhau i roi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am hynt Diwygio’r System Cyfiawnder Teuluol a byddwn yn hapus i drafod yn uniongyrchol ag Aelodau’r Cynulliad unrhyw faterion yn ymwneud â’r cymalau hyn, neu faterion ehangach.