Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae coronafeirws yn parhau i gyflwyno heriau i bob un ohonom, yn enwedig i deuluoedd y mae eu hanwyliaid yn byw mewn cartrefi gofal.
Ar 28 Awst, gwnaethom gyhoeddi’r canllawiau diweddaraf i ddarparwyr cartrefi gofal ynglŷn â threfniadau ymweld. Roedd y canllawiau’n nodi sut y gellir cynnal ymweliadau rheolaidd o dan do, yn amodol ar gynnal asesiadau risg o’r amgylchiadau yn lleol ac anghenion y cartref unigol a’i breswylwyr.
Rwy’n falch bod ymweliadau wedi gallu cael eu cynnal o dan do, gan roi cyfle i’r bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal i ddod ynghyd â’u hanwyliaid unwaith eto. Mae manteision amlwg i ymweliadau wyneb yn wyneb ac rwy’n ddiolchgar i ddarparwyr cartrefi gofal ac awdurdodau lleol am eu gwaith caled i sicrhau y gellir cynnal yr ymweliadau hyn yn ddiogel.
Ond mae’n rhaid inni gofio nad yw’r coronafeirws wedi diflannu a bod risg uwch y bydd ein preswylwyr cartrefi gofal yn dioddef canlyniadau mwy difrifol yn sgil y feirws.
Ers cyhoeddi’r canllawiau i alluogi ymweliadau o dan do i ailgychwyn, rydym wedi gweld cynnydd cyffredinol mewn achosion o’r coronafeirws ar draws Cymru a chynnydd cyflym iawn yn rhai rhannau o’r wlad. Mae hyn wedi arwain at drosglwyddiad cymunedol o’r feirws a chyflwyno cyfyngiadau lleol mewn sawl ardal awdurdod lleol yn y De.
Mae’r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd problemus hyn o ran yr haint, gan weithio gydag arbenigwyr iechyd y cyhoedd, wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal ymweliadau â chartrefi gofal dros dro, ac eithrio mewn amgylchiadau tosturiol, i ddiogelu preswylwyr rhag y risg o haint a salwch.
Rwy’n cefnogi’r angen i wneud y penderfyniadau hyn yn lleol a gwneud penderfyniadau ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy broses y tîm rheoli digwyddiadau i sicrhau cydbwysedd rhwng diogelu iechyd y cyhoedd rhag y risgiau yn sgil y feirws a sicrhau eu llesiant parhaus. Mae’n bwysig bod cyfleoedd i ymweld yn parhau yn yr ardaloedd lle mae hynny’n ddiogel.