Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd o ran gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar 02 Chwefror. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad thematig cyntaf y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth, a oedd yn disgrifio'r themâu a'r dysgu sy'n deillio o gategori’r fam yn y Rhaglen Adolygu Clinigol. Fe wnes i gadarnhau hefyd fy mod wedi derbyn argymhelliad gan Mick Giannasi, Cadeirydd y Panel, y dylid ehangu aelodaeth y Panel i gynnwys arbenigedd yn y maes newyddenedigol. Gallaf bellach gadarnhau y bydd Dr Alan Fenton a Ms Kelly Harvey yn ymuno â'r Panel ar unwaith.

Mae Dr Fenton yn Neonatolegydd Ymgynghorol yn Newcastle ers 1995. Mae wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau amenedigol ar y lefel genedlaethol a bu'n Llywydd Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain yn 2014-17. Ef oedd y neonatolegydd yn nhîm craidd yr Adolygiad Mamolaeth Cenedlaethol (Genedigaethau Gwell) 2016 ac mae'n aelod o Gyngor Rhanddeiliaid y Rhaglen Trawsnewid Mamolaeth. Mae’n ymwneud â rhaglen gydweithredol MBRRACE-UK ers 2018.

Mae gan Ms Harvey dros 18 mlynedd o brofiad fel nyrs newyddenedigol ac Ymarferydd Nyrsio Newyddenedigol Uwch ac ar hyn o bryd mae'n nyrs arweiniol ar gyfer Rhwydwaith Newyddenedigol Gogledd-orllewin Lloegr sy'n cynorthwyo’r gwaith o wella ansawdd a llywodraethiant ar draws ardal ddaearyddol ranbarthol. Yn ddiweddar, daeth yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Nyrsys y Newydd-anedig.

Mae'r ddau hefyd wedi bod yn ymwneud â Rhaglen Adolygu Clinigol IMSOP ers peth amser, fel aelodau o'r Panel Sicrhau Ansawdd, felly maent yn gwbl gyfarwydd â'r gwaith ac yn gallu ymuno fel aelodau llawn o’r Panel ar unwaith. Mae hyn yn amserol o ystyried bod yr adolygiadau newyddenedigol ar y gweill a bydd yn bwysig sicrhau, wrth i'r hyn a ddysgir ddod i'r amlwg, bod modd ei fwydo i'r rhaglen wella ehangach.

Law yn llaw â hyn, byddant yn dechrau drwy fwrw golwg fanwl ar y gwasanaeth newyddenedigol gan bwyso a mesur y gwasanaeth newyddenedigol presennol a'i gynllun gwella er mwyn rhoi sicrwydd bod gwasanaethau'n ddiogel, yn effeithiol, yn cael eu harwain yn dda ac - yn bwysig – eu bod wedi’u hintegreiddio â'r gwasanaeth mamolaeth i ddarparu gwasanaeth di-dor i fenywod a babanod. Mae'r bwrdd iechyd wedi croesawu'r datblygiad hwn a'r cyfle i fanteisio ar brofiad ac arbenigedd Dr Fenton a Ms Harvey i lywio'r gwelliannau y maent yn eu gwneud ar eu taith i ddarparu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol o safon uchel.

Roeddwn hefyd am hysbysu'r Aelodau fy mod wedi derbyn argymhelliad gan Gadeirydd y Panel i ohirio llunio eu hadroddiad cynnydd llawn nesaf. Mae Mr Giannasi wedi ysgrifennu ataf yn ddiweddar yn nodi'r rhesymeg dros hyn. Pan adroddodd y Panel ddiwethaf ym mis Medi 2020, daeth i'r casgliad bod y bwrdd iechyd wedi gwneud yn hynod o dda i gynnal ffocws a momentwm ei Raglen Gwella Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn ystod ton gyntaf y pandemig COVID-19.

Mae'r Panel wedi parhau i oruchwylio'r rhaglen wella drwy gydol y cyfnod diwethaf hwn. Fodd bynnag, mae eu holl waith yn dal i gael ei wneud yn rhithwir ac maent wedi rhoi gwybod ei bod wedi dod yn fwyfwy anodd asesu tystiolaeth o welliant mewn ffordd gadarn a thrylwyr oherwydd nad ydynt yn gallu cyfarfod â staff wyneb yn wyneb ac ymweld â'r ysbytai i farnu a yw'r gwelliannau sydd wedi'u cyflawni ar bapur yn cael eu rhoi ar waith mewn ymarfer gweithredol o ddydd i ddydd.

Ddiwedd mis Chwefror, cynhaliodd y Panel asesiad interim o'r cynnydd y mae'r bwrdd iechyd wedi'i wneud yn ystod y chwe mis diwethaf a daethant i'r casgliad, er nad oedd unrhyw arwyddion o gam yn ôl o'i gymharu â chyfnodau adrodd blaenorol, fod cyflymder y cynnydd pendant wedi arafu. Fe wnaethant hefyd asesu cynnydd yn erbyn deg cam gweithredu y 'camau nesaf' a amlinellwyd yn Adroddiad Cynnydd Medi 2020 a daethant i'r casgliad bod y rhan fwyaf o'r rheini'n dal ar y gweill a bod nifer sylweddol, gan gynnwys rhai sy'n alluogwyr allweddol ar gyfer gwelliant tymor hwy, wedi'u gohirio neu eu hatal dros dro oherwydd effaith COVID-19. 

Yn bwysig, mae'r Panel o’r farn, er gwaethaf yr amgylchiadau heriol y mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithredu ynddynt dros y deuddeg mis diwethaf, fod y gwasanaeth mamolaeth wedi 'cadw ei ben uwchben y  dŵr' mewn ffordd na fyddai bron yn sicr wedi bod yn bosibl heb welliannau'r ddwy flynedd ddiwethaf. Yn benodol, nid oes unrhyw arwydd o gam yn ôl yn unrhyw un o'r dangosyddion perfformiad allweddol (heb gynnwys absenoldeb oherwydd salwch) ac mae lefelau staffio diogel wedi'u cynnal, er gwaethaf y gyfradd uchel o absenoldeb oherwydd salwch. Mae tystiolaeth hefyd bod y gwasanaeth wedi bod yn arloesol a chreadigol wrth ymateb i oblygiadau COVID-19, yn enwedig yn y ffordd y mae wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a mathau eraill o dechnoleg o bell i ymgysylltu a chydweithio â’r menywod a’r teuluoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

O ystyried amgylchiadau’r deuddeg mis diwethaf, a'r chwe mis diwethaf yn benodol, mae'r Panel wedi dweud wrthyf fod cyflymder presennol y cynnydd yn gwbl ddealladwy yn eu barn hwy. Mae'r Panel wedi nodi'r meysydd ffocws allweddol ar gyfer adennill momentwm dros y misoedd nesaf ac mae o’r farn y byddai mis Medi yn adeg briodol i ddarparu’r adroddiad llawn nesaf ar y cynnydd.

Law yn llaw â hynny, mae'r Rhaglen Adolygu Clinigol yn parhau, er bod cyflymder y gwaith hwnnw hefyd wedi dioddef ychydig o effaith oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y Panel yn cwblhau'r adolygiadau o'r babanod hynny a oedd yn farw-anedig gwaetha’r modd. Mae trefniadau'n cael eu cwblhau i rannu’r canfyddiadau unigol â’r menywod a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt ac i sicrhau bod yr holl gymorth priodol ar gael.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.